Llwybr beicio mynydd 45km newydd, gwell yn ailagor yn ne Cymru

Llwybr Skyline, Parc Coedwig Afan

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ailagor llwybr beicio mynydd pellter hir newydd a gwell yn swyddogol ym Mharc Coedwig Afan yn ne Cymru.

Mae'r llwybr Awyrlin gradd coch (anodd) yn cychwyn o Ganolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ac mae'n cynnig profiad beicio pellter hir heriol ar hyd taith 45km gyda golygfeydd ysgubol dros dirwedd Cwm Afan a Fferm Wynt Pen Y Cymoedd.

Caewyd y llwybr poblogaidd yn 2012 i ganiatáu adeiladu'r fferm wynt.

Mae'r llwybr sydd wedi ei adfer a'i gynllunio o’r newydd yn osgoi'r prif ffyrdd cludo pren o fewn y fferm wynt, ac mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid twristiaeth ac ymwelwyr beicio mynydd, mae'n darparu llwybr technegol heriol sy'n addas ar gyfer beiciau mynydd ac e-feiciau sy’n gynyddol boblogaidd.

Mae'r prosiect wedi'i gyflawni drwy gyllid gan raglen Coedwig Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru, ac incwm sy'n deillio o werthu pren yn lleol.  

Dywedodd Huwel Manley, Rheolwr Gweithrediadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae adfer llwybr Awyrlin yn gam cadarnhaol iawn i Barc Coedwig Afan.
"Mae'n ychwanegu atyniad hamdden arall i barc sydd eisoes yn boblogaidd sy'n annog pobl i fynd allan, bod yn egnïol a mwynhau natur.
"Bydd y llwybr hwn yn denu rhai sydd wrth eu boddau’n beicio mynydd o bell ac agos, gan roi hwb mawr i'r economi leol ac i dwristiaeth leol. I'r rhai sy'n cofio'r llwybr gwreiddiol cyn datblygiad y fferm wynt, ychwanegwyd tair adran dechnegol newydd, 'Bwa', 'Saeth' a 'Saethwr'.
"Mae Parc Coedwig Afan yn ased pwysig ac mae CNC a'n partneriaid i gyd wedi ymrwymo i wella ei gynnig hamdden, mewn ffordd sy'n gweithio o fewn ystyriaethau coedwig weithiol sy’n cynhyrchu pren.
"Yn ogystal â'r cyllid a wariwyd ar y llwybr hwn, mae CNC hefyd wedi buddsoddi £180,000 pellach ar gynnal a chadw llwybrau a gwelliannau yng Nghwm Afan yn ystod y 12 mis diwethaf.
"Rydym hefyd yn y broses o recriwtio Swyddog Hamdden pwrpasol i helpu i ddiwallu anghenion cerddwyr, beicwyr a marchogion sy'n ymweld â'r ardal yn dilyn adborth gan randdeiliaid."