Defnyddio Smart Water i daclo troseddau gwastraff

Mae safle yn y Barri wedi cael ei ddefnyddio i brofi'r defnydd o Smart Water ym mrwydr Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn troseddau gwastraff anghyfreithlon.

Mae gan y safle dan sylw drwydded eithrio ar gyfer trin a storio teiars gwastraff ond mae wedi mynd y tu hwnt i’r swm a ganiateir gan yr esemptiad, yr amcangyfrifir ei fod yn fwy na 2000 o deiars gwastraff. 

Mae bod â chynifer o deiars ar safle yn risg tân posibl; nid yn unig ydyw’n niweidio'r amgylchedd ond gall hefyd effeithio ar iechyd pobl ac mae'n tanseilio busnes cyfreithlon.

Mae tîm rheoleiddio gwastraff CNC wedi cyflwyno Rhybudd ar y safle i gael gwared ar y teiars gwastraff ond mae pryderon na fyddant yn cael eu gwaredu'n gyfreithlon. Er mwyn ceisio atal hyn, mae tîm Taclo Troseddau Gwastraff CNC wedi defnyddio Smart Water ar y safle.

Meddai Mark Oughton o dîm Taclo Troseddau Gwastraff CNC:

"Mae Smart Water yn system tagio fforensig ddiwenwyn ac mae’r hylif yn cynnwys cod adnabod unigryw. Mae'n anweledig i'r llygad noeth unwaith y bydd wedi sychu a dim ond gan ddefnyddio golau uwchfioled y gellir ei weld.
"Unwaith y bydd y gwastraff wedi'i nodi fel gwastraff sydd â Dŵr Clyfar arno, gellir anfon sampl i ffwrdd i labordy ar gyfer nodi’r cod ac yna gellir defnyddio'r wybodaeth hon fel tystiolaeth gref mewn unrhyw gamau gorfodi neu achosion llys sydd i ddilyn.
"Rydym yn gobeithio y bydd defnyddio Dŵr Clyfar yn rhwystro ymddygiad anghyfreithlon ac yn sicrhau bod y teiars gwastraff yn cael eu gwaredu ar safle a ganiateir."

Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eu hardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.