Ansawdd dŵr afon: ateb eich cwestiynau
Os ydych yn cael anhawster cydymffurfio â'ch terfynau trwydded sylweddau ymbelydrol oherwydd problemau a achosir gan ymadael â'r UE neu COVID-19, cyfeiriwch at y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Mae'r penderfyniad hwn i'w weithredu fel mesur wrth gefn mewn argyfwng yn unig. Mae'n destun adolygiad.
Fel rheol, mae angen i chi gydymffurfio â'r holl amodau yn eich trwydded o dan reoliad 13 ac Atodlen 23 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae hyn yn cynnwys cyfyngiadau rhifiadol sy'n berthnasol i ddeunydd ymbelydrol a gwastraff.
Pan ddefnyddiwch yr eithriad yn Atodlen 23, Rhan 6 paragraff 4 (7) o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (yr eithriad), fel rheol bydd angen i chi gydymffurfio â'r cyfnod cronni uchaf o 26 wythnos. Mae'r eithriad yn caniatáu ichi gronni'r ffynonellau gwastraff canlynol:
Os dilynwch yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, gallwch fynd dros y terfynau rhifiadol hyn sy'n cyfyngu ar y canlynol:
Os ydych yn defnyddio deunyddiau ymbelydrol ar gyfer diagnosis a thriniaeth feddygol mewn bodau dynol, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud gwarediadau i'r garthffos uwchlaw'r terfynau yn eich trwydded. Yn seiliedig ar asesiad effaith, byddwn yn cytuno'n ysgrifenedig ar y gwarediadau ychwanegol y gallwch eu gwneud.
Rhaid i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i ni cyn i chi ddefnyddio'r penderfyniad rheoleiddiol hwn.
De-ddwyrain industryregulation.southeast@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Canolbarth y De industryregulation.southcentral@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
De-orllewin industryregulation.swwales@naturalresourceswales@gov.uk
Gogledd-orllewin/ddwyrain north.wales.ppc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhaid i'ch cadarnhad ysgrifenedig egluro sut y byddwch yn rheoli unrhyw wastraff ymbelydrol ychwanegol (gan gynnwys ffynonellau wedi'u selio â gwastraff).
Bydd angen ein cytundeb ysgrifenedig arnoch chi os ydych yn bwriadu gwneud y canlynol:
Os ydych yn cynhyrchu gwastraff ymbelydrol ychwanegol trwy ddarparu gofal meddygol brys i glaf sy'n cael ei drin â deunyddiau ymbelydrol mewn ysbyty arall, efallai na fyddwch yn gallu dweud wrthym ymlaen llaw. Fodd bynnag, dylech ein hysbysu cyn gynted â phosibl.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol i'r canlynol:
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau eraill arnoch ar gyfer gweithgareddau eraill rydych yn eu cyflawni.
Dim ond os na allwch gydymffurfio oherwydd tarfiad neu gyfyngiadau sy'n ymwneud ag ymadael â'r UE neu COVID-19 y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
Rhaid i chi ddangos eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio ag amodau eich trwydded neu'r eithriad. Mae camau rhesymol yn cynnwys:
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
Os yw'ch trwydded yn caniatáu ichi ddefnyddio cyfarpar ymbelydrol symudol mewn unrhyw leoliad yng Nghymru a Lloegr, dim ond yn yr adeilad a bennir yn eich trwydded y mae'n rhaid i chi gronni ffynonellau gwastraff. Dyma lle rydych fel arfer yn cadw ffynonellau pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
Os ydych yn defnyddio deunyddiau ymbelydrol ar gyfer diagnosis a thriniaeth mewn pobl ac yn bwriadu mynd uwchlaw'r terfynau yn eich trwydded ar gyfer gwarediadau i'r garthffos, rhaid i chi wneud y canlynol:
Diogelwch ar gyfer ffynonellau wedi'u selio nad ydynt yn ffynonellau gweithgaredd uchel wedi'u selio neu ffynonellau tebyg
Ar gyfer ffynonellau wedi'u selio nad ydynt yn ffynonellau gweithgaredd uchel wedi'u selio ychwanegol neu ffynonellau tebyg, gan gynnwys ffynonellau gwastraff, rhaid i chi wneud y canlynol:
Rhaid i chi beidio â dal ffynonellau ychwanegol wedi'u selio (gan gynnwys ffynonellau gwastraff) a fyddai'n newid eich categori diogelwch, ac yn cynyddu'r lefel ddiogelwch sy'n ofynnol, heb gytundeb ysgrifenedig gan CNC.
Rhaid i chi gadw cofnodion sy'n dangos pam roedd angen i chi ddefnyddio'r penderfyniad rheoleiddiol hwn. Rhaid i chi gadw'r cofnodion hyn am ddwy flynedd ar ôl i'r penderfyniad rheoleiddiol hwn ddod i ben, gan gynnwys unrhyw estyniadau iddo. Rhaid i chi sicrhau eu bod ar gael i CNC ar gais.
Rhaid i chi hefyd gadw cofnodion i ddangos sut y gwnaethoch gydymffurfio ag amodau'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn unol â'r gofynion cadw cofnodion yn eich trwydded.
Rhaid i chi gydymffurfio â holl ofynion eraill eich trwydded amgylcheddol neu'r eithriad.
Mae'n rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgarwch yn peryglu iechyd dynol neu’r amgylchedd.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn golygu na fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn cyn belled â'ch bod yn sicrhau'r canlynol:
Os ydych yn gweithredu o dan y penderfyniad rheoleddiol hwn ond yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â'i amodau mwyach, rhaid i chi ddweud wrth CNC ar unwaith.
Byddwn yn tynnu'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl ar 31 Mawrth 2022 oni bai ein bod yn ei cael ei estyn. Ar ôl y dyddiad hwn, rhaid i chi gydymffurfio â'r holl amodau yn eich trwydded neu'r eithriad.
Gweler uchod yr adran ‘Sut i hysbysu’ am fanylion ar sut i wneud hysbysiad.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill:
Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am–5pm)
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk