Gwirfoddolwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn achub cywion adar môr pwysig yn Sir Benfro

Nia Stephens a drycin manaw

Mae ymgynghorydd arbenigol mewn adareg forol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn wirfoddolwr sy'n helpu i achub a rhyddhau cywion adar drycin Manaw, sy’n aderyn môr pwysig yn Sir Benfro.

Mae Nia Stephens wedi bod yn rhan o'r tîm o wirfoddolwyr a gydlynir gan yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ers pedair blynedd. Mae'r gwirfoddolwyr yn casglu ac yn rhyddhau adar drycin Manaw ar draws de a gorllewin Cymru.

Mae ganddi gefndir mewn cadwraeth adar môr ac mae hi wedi gweithio ar ynysoedd Dewi a Sgomer yn y gorffennol, felly mae hi'n gyfarwydd â thrin adar môr ac yn frwdfrydig dros eu gwarchod.

Mae dros hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw yn cael eu geni a’u magu ar ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Dewi yn Sir Benfro.

O fis Medi, bydd y cywion yn cychwyn eu hymfudiad 7,000 milltir i'r dyfroedd oddi ar yr Ariannin, De America. Mae hyn yn aml yn cyd-fynd â stormydd yr hydref a gall rhai adar gael eu chwythu i'r lan a chael eu hunain yn sownd ar dir.

Y llynedd, casglodd Nia adar drycin Manaw o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Maenclochog, Llanymddyfri ac Abergwili, ac fe ryddhaodd gyfanswm o 18 aderyn drycin Manaw a dwy hugan. Hyd yn hyn eleni, mae hi eisoes wedi rhyddhau pedwar aderyn drycin Manaw a dwy wylog yn ôl i'r môr.

Dywedodd Nia Stephens:

“Mae aelodau o’r cyhoedd yn casglu’r adar, a fy rôl i yw eu rhyddhau yn ôl allan ar y môr cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu. Lle bo modd, rydym yn eu rhyddhau ar y môr o gwch, ond yn aml, byddwn yn eu rhyddhau o glogwyn ar ben penrhyn Dewi.
“Er nad ydym yn gwybod faint o’r adar sy’n cael eu chwythu i’r lan sy’n goroesi ar ôl cael eu hachub a’u rhyddhau, rwy’n credu ei fod yn dal yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud, gan fod posibilrwydd bob amser y bydd rhai ohonynt yn goroesi os gallant fynd yn ôl allan i’r môr.”

Dywedodd Greg Morgan, Rheolwr Safle’r RSPB ar Ynysoedd Dewi a Gwales:

“Heb os nac oni bai, dylai adar drycin Manaw gael eu hystyried yn Aderyn Cenedlaethol Cymru! Mae Sir Benfro yn unig yn gyfrifol am dros 50% o boblogaeth y byd ond, gan eu bod yn greaduriaid nosol ar dir, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw ein cynefin morol i'r rhywogaeth hon. Gallai stormydd cynyddol o gwmpas amser gadael y nyth, ynghyd â datblygiad arfordirol sy’n dod â mwy o lygredd golau, gael effeithiau negyddol ar y rhywogaeth hon yn y tymor hir. Yn ogystal â helpu'r adar unigol hynny sy'n cael eu heffeithio bob blwyddyn, nod y prosiect hwn yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r rhywogaeth hon sy'n aml yn cael ei hanwybyddu.”

Dywedodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a’r Môr, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru:

“Mae ein tîm o wirfoddolwyr wedi datblygu i fod yn ‘wasanaeth brys’ ar alwad ar gyfer adar drycin Manaw sydd wedi mynd ar gyfeiliorn ar draws de a gorllewin Cymru. Yr Ymddiriedolaeth Natur yw ceidwaid poblogaethau bridio mwyaf yr adar hyn yn unrhyw le ar y ddaear, gyda 350,000 o barau ar Ynys Sgomer ac 89,000 o barau ar Ynys Sgogwm. Yn hynny o beth, rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth ar y tir mawr yn ystod yr hydref, pan y gall adar ifanc ddrysu wrth iddynt geisio hedfan am y tro cyntaf.”

Ffeil ffeithiau adar drycin Manaw

  • Er mai dim ond un wy y flwyddyn y mae adar drycin Manaw’n ei ddodwy, mae’n bosibl iddynt gael bywydau hir a bridio am nifer o flynyddoedd. Cofnodwyd yr un a fu byw hiraf yn fwy na 50 oed.
  • Mae cywion yn tyfu'n fwy na'u rhieni - cyn cyrraedd "pwysau hedfan" i wneud eu taith gyntaf, ar eu pennau eu hunain i Dde America - cyn dychwelyd i Sgomer fel oedolion.
  • Bythefnos cyn iddynt adael y nyth, bydd eu rhieni yn eu gadael ac yn rhoi'r gorau i'w bwydo'n gyfan gwbl ac yn yr amser hwn maent yn troi'r holl fraster a bwyd yn blu a chyhyrau. Yna maent yn gadael heb eu rhieni, heb iddyn nhw erioed adael eu twll o'r blaen, a hedfan i ffwrdd i'r Ariannin.

Beth i'w wneud os y dewch o hyd i aderyn drycin Manaw

  • Os bydd aelod o'r cyhoedd yn dod o hyd i un o'r adar môr du a gwyn hyn, gofynnir iddynt ei roi mewn blwch cardbord wedi'i awyru. Os ydynt yn dod o hyd i fwy nag un aderyn, rhowch nhw mewn blychau ar wahân.
  • Yna ffoniwch y cysylltiadau ardal isod i drefnu i’w dosbarthu neu i rywun ddod i’w casglu.
  • Bydd yr adar yn cael eu storio'n ddiogel mewn mannau casglu dynodedig ac yn cael eu rhyddhau gyda’r nos.
Lleoliad Manylion cyswllt
Tyddewi / Niwgwl 01437 721721 neu 720285
Abergwaun 01348 874737
Ceinewydd 01545 560224
Canol Sir Benfro (Aberllydan i Benfro yn cynnwys Hwlffordd ac Aberdaugleddau) 07766 911069 neu 07944 995736
Penfro / De Orllewin Sir Benfro 07572 642434
Dinbych-y-pysgod / De Ddwyrain Sir Benfro 07867 803005
Aberystwyth 07972 201202
Sir Gaerfyrddin 07748 970124
Caerdydd 07890 543351 neu 07791 502589