Cynlluniau newydd ar gyfer gwaredu â gwaddod o Hinkley Point C

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cychwyn trafodaethau gydag EDF Energy ynglŷn â chais am drwydded forol newydd i waredu â deunydd sydd wedi'i garthu o Fôr Hafren ar safle gwaredu oddi ar arfordir Caerdydd yn ne Cymru.

Mae EDF wedi cyflwyno ei gynllun i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer samplu a phrofi'r gwaddod o safle adeiladu gorsaf pŵer Hinkley Point C oddi ar arfordir Gwlad yr Haf yn Lloegr.

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw penderfynu a yw'r gwaddod, sy’n cynnwys deunydd o hyd at 600,000 m3, yn addas i'w waredu yn y môr, ond bydd yn asesu addasrwydd y cynllun samplu yn gyntaf er mwyn llywio unrhyw gais am drwydded i'w waredu yng Nghymru yn y dyfodol.

Gwnaeth EDF garthu a gwaredu â gwaddod yn flaenorol yn 2018 ac mae bellach yn bwriadu cynnal gwaith pellach ar y safle yn gynnar yn 2021.

Bydd angen cael trwyddedau morol ar gyfer casglu samplau a charthu gwaddod o ddyfroedd Lloegr gan y Sefydliad Rheolaeth Forol, a bydd angen trwydded arall ar gyfer gwaredu â'r gwaddod yn nyfroedd Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ar yr un pryd â dechrau asesiad o gynllun samplu'r cwmni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad chwe wythnos hyd at 18 Mawrth 2020 gydag arbenigwyr, gan gynnwys Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas), ABPmer, Asiantaeth yr Amgylchedd, a chynghorwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ei hunan.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn croesawu sylwadau gan y cyhoedd o ran a yw'r cynllun samplu yn cydymffurfio â chanllawiau rhyngwladol, sy'n sicrhau bod gwaredu â deunydd sydd wedi’i garthu yn y môr yn ddiogel.

Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Tystiolaeth, Gwybodaeth a Chyngor ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Môr Hafren ac Aber Afon Hafren yn gartref i fywyd gwyllt a chynefinoedd gwerthfawr ac mae'r ardal yn bwysig i'n llesiant a'n heconomi. Ein gwaith ni yw sicrhau nad yw gweithgareddau yn yr aber yn niweidio'r amgylchedd morol pwysig hwn.
“Dyma gyfle i bobl godi pryderon neu ddarparu gwybodaeth bwysig, berthnasol i ni am gynllun samplu'r cwmni.
“Byddwn yn ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad er mwyn ein helpu i benderfynu a fydd rhif, lleoliad a dyfnder y samplau a gymerir, yr hyn a fesurir, a sut y caiff y gwaddod ei brofi yn cydymffurfio â chanllawiau rhyngwladol.
“Dylai pobl edrych ar ein gwefan i ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad a'r cwestiynau yr hoffem iddynt eu hystyried.”

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn derbyn cais gan EDF i ystyried a fydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol fel rhan o'r broses ymgeisio.

Unwaith dderbyniwyd, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf a chaiff ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â thystiolaeth i ddangos a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ai peidio.

Mae EDF wedi cyflwyno cais am drwydded forol ar wahân i’r Sefydliad Rheolaeth Forol yn Lloegr ar gyfer casglu’r samplau. Mae hon yn broses ar wahân ac yn annibynnol ar asesiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Aeth Michael ymlaen i ddweud:

“Dyma'r cam cyntaf mewn proses ymgeisio hir. Achosodd y gweithgarwch gwaredu bryder mawr i'r cyhoedd yn 2018, felly rydym yn bwriadu hysbysu ac ymgysylltu â phobl ynglŷn â'r cynlluniau hyn dros yr ychydig fisoedd nesaf.
“Unwaith y byddwn yn derbyn y cais llawn am drwydded forol a chanlyniadau'r profion gwaddod, byddwn yn asesu'r wybodaeth yn drylwyr. Byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd pellach i bobl edrych a chraffu ar y cynlluniau, gofyn cwestiynau a darparu adborth cyn y byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol.
“Byddwn ond yn rhoi'r drwydded os bydd y cwmni yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a'n bod yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl neu'r amgylchedd.”

Bydd angen derbyn pob ymateb i'r ymgynghoriad yn ysgrifenedig erbyn 18 Mawrth 2020 drwy ei anfon i gyfeiriad e-bost marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy’r post i’r:

Tîm Trwyddedu Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Trwyddedu (Caerdydd), Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Ceir ragor o wybodaeth ynghylch y drwydded forol a’r ymgynghoriad, ynghyd â chopïau electronig o ddogfennau, ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gofrestr gyhoeddus ar-lein:

www.naturalresources.wales/CardiffGroundsSedimentDisposal