Diwrnod y Ddaear - Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE

Mae heddiw, dydd Mercher 22 Ebrill 2020 yn #DiwrnodDaear, diwrnod i ddathlu ein byd ac i ddangos ein cefnogaeth tuag at ddiogelu'r amgylchedd.

Thema'r ymgyrch eleni yw argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn y blog hwn byddwn yn edrych ar brosiect y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gefnogi sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Yn 2016 rhyddhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol cyntaf, ac ynddo roedd y sefydliad yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf i reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Bedair blynedd yn ddiweddarach o'r adroddiad cyntaf hwnnw ac mae'n amlwg ein bod ni, yn ogystal â newid yn yr hinsawdd, hefyd yn gweld colled bioamrywiaeth ddifrifol.

Cadarnhawyd graddfa’r newid yn yr hinsawdd yn 2019 gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC). Yr IPCC yw corff y Cenhedloedd Unedig ar gyfer asesu'r wyddoniaeth sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

Yn 2019, gwnaeth yr adroddiad ar fioamrywiaeth ac ecosystemau gan y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES) ddisgrifio colli bioamrywiaeth fel bygythiad o'r un faint.

Llywodraeth Cymru oedd un o'r cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru ym mis Ebrill 2019, gyda Llywodraethau a chynghorau eraill yn dilyn trwy ddatgan argyfwng hinsawdd ac natur.

Yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r datganiad hwn ac wedi cyflawni sawl prosiect fel rhan o'i Brosiect Carbon Bositif. Mae'r rhain yn dangos sut y gellir lleihau ein heffaith carbon fel gwlad.


Amddiffyn carbon yn ein mawndiroedd


Dau brosiect pwysig i dynnu sylw atynt yma sy'n amddiffyn carbon yn ein mawndiroedd yng Nghymru yw'r ddau a gynhelir ar gyforgors Cors Fochno yng Ngheredigion.

Mae Cors Fochno - rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi - yn gyforgors sy'n cynnwys mawn bron i wyth metr o ddyfnder mewn mannau. Mae cyforgorsydd yn cael eu henw oherwydd eu siâp cromennog ac maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros filoedd o flynyddoedd.

Maent yn gartref i blanhigion pwysig a phrin fel migwyn (mwsogl y gors) a bywyd gwyllt prin fel gwrid y gors ac andromeda’r gors.


Mae cyforgorsydd yn cynnwys mawn sy'n storio carbon ac er mai dim ond 3% o arwyneb y byd y mae mawndiroedd yn ei orchuddio, maent yn storio 30% o garbon y pridd ac felly maent yn rhan hanfodol o'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r gwaith ar Gors Fochno yn cael ei datblygu yn rhagor fel rhan o'r gwaith a wnaed gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE. Rhoddwyd cyllid ar gyfer y prosiect i CNC o grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn adfer Cors Fochno, ochr yn ochr â chwech cyforgors arall ledled Cymru, i gyflwr mwy ffafriol.

Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu diddordeb a'u pwysigrwydd amgylcheddol, fe'u dynodir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Dim ond saith o'r safleoedd yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n ACA, ac mae'r rhain yn cynrychioli dros 10% o adnodd ACA y DU o gyforgorsydd.

Trwy adfer dros 900 hectar o gyforgors yng Nghymru, mae prosiect Cyforgors Cymru LIFE yn gobeithio gweld gostyngiad o tua 400 kt y flwyddyn mewn allyriadau CO2 - sy'n hafal i oddeutu 7% o holl allyriadau cysylltiedig â thrafnidiaeth Cymru, a 76% o gyfanswm allyriadau CO2 sir Ceredigion.

Mae mawndir iach a chyforgorsydd mewn cyflwr da yn amsugno carbon o'r atmosffer sy'n golygu eu bod yn bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da, maent yn rhyddhau carbon niweidiol i'r atmosffer.

Beth y gallwn ei wneud?


Bydd gwella cynefinoedd ar raddfa fawr fel cyforgorsydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor hir, ond gallwn hefyd wneud gwahaniaeth ar lefel unigol.

Mae #DiwrnodDaear yn ffordd dda o ddysgu mwy am ein hamgylchedd, fel ein bod yn ailgysylltu ac yn gofalu am y bywyd gwyllt a'r planhigion o'n cwmpas gan ein helpu i wneud penderfyniadau ymddygiadol cadarnhaol.

Mae mynd i'r afael â'n heffaith ar yr hinsawdd a lleihau ein hôl troed carbon yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth.

Eleni oherwydd yr achosion o Covid19 mae #DiwrnodDaear yn mynd yn ddigidol, felly i ddarganfod sut y gallwch chi fod yn rhan o’r ymgyrch eleni a gwneud gwahaniaeth, ewch i https://www.earthday.org/

I ddarganfod mwy am y prosiect Cyforgrosydd Cymru LIFE ewch i https://naturalresources.wales/liferaisedbogs

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru