Rheoli ein Hamgylchedd Naturiol yn Ne-ddwyrain Cymru

Mae De-ddwyrain Cymru yn gartref pwysig i amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt a chynefinoedd unigryw ac mae'n ardal sy’n cynnig dos gwerthfawr o fyd natur i'n cymunedau lleol ledled Gwent.  Mae sicrhau ei fod yn cael ei warchod a'i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn rhan bwysig o'r gwaith rydym yn ei wneud.

Yr haf hwn, mewn cyfres newydd o flogiau, bydd Tîm yr Amgylchedd yn Sir Fynwy a Thorfaen yn mynd â ni gyda nhw ar daith rithwir i ddysgu mwy am eu gwaith i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a gofalu am ein hamgylchedd yng Nghymru.

O ymateb i achosion o lygredd yn ein rôl fel ymatebwr categori un, rheoleiddio busnesau ac amaethyddiaeth, i ddiogelu ein Hardaloedd Cadwraeth Arbennig er mwyn sicrhau bod bioamrywiaeth yn ffynnu - mae ein swyddogion yn gyfrifol am wneud amrywiaeth eang o dasgau yn eu gwaith bob dydd i helpu i ddiogelu'r amgylchedd, bywyd gwyllt a chymunedau lleol yn eu hardal.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y tîm yn mynd â ni gyda nhw, i gael gwybod mwy am eu gwaith i helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd yn Ne-ddwyrain Cymru, sut mae argaeledd dŵr i bobl a bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu a beth mae monitro ein safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ei olygu.

Rheoli a monitro pathewod yn ne-ddwyrain Cymru

Y mis hwn rydym yn ymuno â dau o'n swyddogion cadwraeth, Liz a Rebecca, wrth i brosiect newydd i fonitro pathewod ddechrau yn Sir Fynwy i helpu i geisio gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Mae’r tîm wedi bod yn brysur yn gosod 50 o flychau nythu ar gyfer pathewod mewn coetir SoDdGA sy’n eiddo preifat, gan weithio mewn partneriaeth â’r perchennog tir sy’n frwdfrydig dros warchod natur a mynd i’r afael â’r argyfwng o ran bioamrywiaeth.

Maen nhw hefyd wedi bod yn amnewid hen flychau nythu ar gyfer pathewod â rhai newydd mewn coetir SoDdGA arall yn Sir Fynwy, lle mae blychau wedi cael eu monitro am nifer o flynyddoedd.

Mae'r blychau nythu’n rhoi dull dibynadwy o fonitro ar gyfer pathewod mewn coetiroedd neu wrychoedd ac wrth eu harchwilio'n rheolaidd gellir eu defnyddio i weld a yw pathewod yn bresennol ai peidio.

Mae’r blychau nythu’n cael eu harchwilio’n rheolaidd gan wirfoddolwr hyfforddedig sydd â thrwydded i drin y rhywogaeth warchodedig hon a chofnodir nifer, rhyw, pwysau ac oed y pathewod.

Bydd y prosiect yn helpu ein swyddogion i fonitro’r boblogaeth leol o bathewod yn well a rhoi hwb i’r nifer o safleoedd nythu sydd ar gael ar gyfer y rhywogaeth, sydd wedi dioddef dirywiad hirdymor o ran ei niferoedd a’i dosbarthiad. Mae monitro’r pathewod hefyd yn helpu’r tîm i dargedu mesurau rheoli yn y coetiroedd fel prysgoedio er mwyn hybu twf newydd a pheri i’r coedlannau cyll ffrwytho.

Mae pathewod yn rhywogaeth warchodedig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, oherwydd eu dirywiad ledled Ewrop yn y degawdau diwethaf. Maen nhw i’w cael yn aml mewn coetiroedd a gwrychoedd ac maen nhw’n hoff o goetiroedd wedi’u prysgoedio sydd â choed cyll, sy’n gynefin sy’n rhoi deiet amrywiol iddynt drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r tîm hefyd yn cynnal arolygon o bathewod sy’n ein helpu ni i nodi a yw pathewod yn bresennol mewn coetir ac yn ein helpu i ddeall tueddiadau o ran poblogaethau. Mae ein cofnodion yn bwydo i mewn i’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Monitro Pathewod (NDMP), a gydlynir gan Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau sydd mewn Perygl (PTES), sy’n casglu cofnodion ar gyfer cannoedd o goetiroedd ledled Cymru a Lloegr ar gyfer y 30 mlynedd diwethaf.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru