Gwaith CNC yn helpur hyfeddodau dyfroedd Cymru

Mae Cymru’n wlad llawn gwrthgyferbyniadau gyda’i threfi a dinasoedd prysur ac arwahanrwydd llwyr ei chefn gwlad brydferth ac eang a chyda’i  harfordir yn ymestyn 2,750km (1,700 milltir), does neb byth yn rhy bell o’n môr.

Ac am arfordir anhygoel sydd gennym gyda golygfeydd anhygoel a digonedd o ffyrdd i’w fwynhau ond yn well fyth, mae’n gartref perffaith i fywyd gwyllt y môr fel morloi, dolffiniaid, llamhidyddion, siarcod a sglefrod môr ynghyd â llu o greaduriaid a phlanhigion eraill.

Mae gan arfordiroedd Cymru allu anhygoel hefyd i helpu gyda’r frwydr yn erbyn heriau mawr fel newid hinsawdd gyda gallu arbennig rhai o’i chynefinoedd, fel ei dolydd morwellt a’i morfeydd heli, i ddal a storio carbon o’n hatmosffer.

Mae ein moroedd a’n harfordiroedd a’u holl fywyd gwyllt yn amgylcheddau gwerthfawr, bregus sydd angen ein cymorth i’w cadw’n iach ac yn ffyniannus a dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymgymryd â llu o fentrau i sicrhau ein bod yn gofalu am ein glannau.

Dyma gipolwg ar ychydig o’n cymdogion sy’n byw yn y môr ac ar rai o fentrau CNC i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd morol:

  • A wyddoch fod Cymru’n cael ei hystyried yn gadarnle un o siarcod mwyaf prin y byd? Mae’r maelgi wedi’i gynnwys ar restr Mewn Perygl Difrifol gan Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Yn fwy fflat na siarcod eraill, mae wedi’i addasu’n berffaith at fyw ar wely’r môr, yn gleidio dros y tywod gyda’i esgyll sy’n debyg i adenydd ac mae’n gallu claddu ei hun yn y tywod. Mae wedi’i guddliwio’n wych o ran lliw a phatrwm i ymdoddi â’r gwely môr tywodlyd, fel y gall ymosod ar ei ysglyfaeth fel mellten. Mae CNC wedi lansio prosiect newydd gyda Chymdeithas Sŵolegol Llundain i gasglu data cyfredol a hanesyddol ar achosion o weld maelgwn gan bobl yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwahoddiad i ddinasyddion wyddonwyr 'blymio' i ddyfroedd Cymru i helpu i ymchwilio i rywogaethau dyfrol prin

  • Ar hyd arfordir gorllewin Cymru, mae modd gweld dolffiniaid. Maen nhw’n hela mewn grwpiau bach a elwir yn ysgolion ac yn galw ar ei gilydd i gydlynu eu symudiadau ac yn bwydo ar y pysgod sy’n doreithiog yn lleol. Yn wir, gallan nhw fwyta tua 5% o bwysau eu corff yn ddyddiol! Ond a allech wahaniaethu rhwng llamhidydd a dolffin? Mae llamhidyddion yn llai na dolffiniaid, gan fesur 1.5 metr, ac mae eu hasgell ddorsal yn fwy trionglog. Yn wahanol i ddolffiniaid, nid yw llamhidyddion yn acrobatig a dydyn nhw ddim yn neidio allan o’r dŵr. Gwelir llamhidyddion yn rheolaidd ar hyd arfordir Cymru. Yn benodol, gwelir nhw yn aml o amgylch Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, Pen-caer a gogledd ddwyrain Ynys Môn lle maen nhw i’w gweld yn aml yn bwydo mewn ardaloedd lle ceir ceryntau llanw cryf. Mae llamhidyddion yn rhywogaeth a warchodir yn rhyngwladol. Yn 2017 crëwyd tair Ardal Cadwraeth Arbennig forol o amgylch Cymru i ddiogelu llamhidyddion. Fel rhan o waith CNC i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr heriau allweddol sy’n wynebu ein moroedd a’n harfordiroedd ac yn edrych ar sut y gallwn eu rheoli’n well i feithrin gwydnwch, rydyn ni, ynghyd â’n partneriaid wedi cynhyrchu’r Datganiad Ardal Morol. Mae'r Datganiad Ardal Morol yn cwmpasu ardal dŵr y glannau, sy'n ymestyn 12 milltir o'r arfordir. Mae ganddo dair prif thema gan gynnwys meithrin gwydnwch ecosystemau morol, addasu arfordirol a dulliau sy'n seiliedig ar natur a chynllunio morol. Am fwy o wybodaeth am y Datganiad Ardal Morol cliciwch yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiad Ardal Morol.

  • Mewn rhannau o Gymru mae rîff sy’n ymestyn bron i 5km ar hyd y glannau wedi’i adeiladu gan lyngyren! Mae’r llyngyren ddiliau yn byw mewn tiwbiau ac yn adeiladu ei chartref o dywod neu ddarnau o gregyn. Nid yw’r llyngyren byth yn gadael ei chartref ond, pan fo’r llanw’n gorchuddio’r riff, mae’n cropian i’r ymyl i hidlo plancton o’r dŵr. Mae’r riffiau mwyaf yng Nghymru ym Mae Ceredigion. Ond, os welwch chi rîff, gofalwch beidio â cherdded arno – mae’n fregus ac yn hawdd ei dorri. Mae CNC yn gweithio i ganfod yr hyn yr ydym yn ei ddeall, ei wybod a’i deimlo ynghylch ein moroedd a’n harfordiroedd gyda’i arolwg Llythrennedd Morol arloesol. Darllenwch fwy am y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud: Cyfoeth Naturiol Cymru / CNC yn rhyddhau arolwg arloesol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd y môr a’r arfordir i bobl yng Nghymru.

  • Oddi ar arfordir Sir Benfro, daw ddwy ynys anghyfannedd yn gartref i o leiaf 8,000 pâr o balod bob haf. Mae ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn hoff gynefin haf palod, nofwyr anhygoel sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau ar y môr. Maen nhw’n defnyddio eu hadenydd byr i ‘hedfan’ o dan y dŵr, gan blymio 60 metr i chwilio am bysgod. Maen nhw’n dychwelyd i’r tir yn y gwanwyn i fridio ac yn nythu mewn tyllau, felly mae’n hanfodol i’w goroesiad nad oes ysglyfaethwyr ar y tir. Gwylanod llwglyd yw eu prif ysglyfaethwyr. Cewch fwy o wybodaeth am ein gwaith monitro yn Sgomer yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Monitro Môr-wyntyllau ym mharth cadwraeth morol Sgomer

  • Ymhlith rhai o’r creaduriaid sy’n ffynnu yng nglannau creigiog Cymru y mae’r llygad maharen. Gyda’i gragen siâp côn, gwelir llu ohonyn nhw sy’n ymddangos fel petai nhw’n sownd i’r creigiau. Ac mae gan y pysgodyn cregyn bach hwn ffordd anhygoel o amddiffyn ei hun nid yn unig o’r tonnau ond o ysglyfaethwyr yn ogystal. Mae’n dod o hyd i lecyn ar graig ac yn ymgartrefu yno drwy asio ei gragen yn berffaith ag amliniau’r graig. Ar ôl bwydo mae’n dychwelyd i’r un llecyn bob amser ac oherwydd ei allu i fowldio’n union i’r graig, gall ddal yn dynn gyda’i droed gyhyrog gan greu sêl i wrthsefyll nerth y tonnau a sychder yr aer. Pan fydd y môr ar drai, mae’r llygad maharen yn symud o gwmpas i fwydo, ac yn crafu haenau o wymon oddi ar wynebau’r creigiau gyda’i ‘radwla’ – tafod, fel rhuban, ag iddo resi o ddannedd. Wedyn mae’n dychwelyd adref i geisio goroesi cael ei waldio unwaith eto! Fel rhan o waith CNC i reoli ein traethlinau, rydym wedi cynhyrchu pedwar cynllun yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau ein bod yn meddwl am y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir. Darllenwch fwy am ein cynlluniau yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynlluniau Rheoli’r Draethlin

  • Carbon Glas yw’r ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio’r potensial sydd gan ein cefnforoedd i helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar natur. Mae gan y dolydd morwellt sy’n byw ar wely’r môr ledled dyfroedd Cymru allu anhygoel i ddal a storio carbon. Ac ymhlith planhigion y dolydd morwellt hyn sy’n helpu i ddal carbon, y mae’r unig blanhigyn sy’n tyfu ac yn cynhyrchu hadau’n gyfan gwbl dan ddŵr y môr. Mae’r planhigyn Gwellt y gamlas i'w ganfod ymhlith dolydd morwellt basddyfroedd cysgodol Cymru. Mae’n ffurfio dolydd trwchus ac yn cynnig cysgodfa berffaith i greaduriaid fel y morfarch yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel cynefin meithrin pwysig gan bysgod bychain, ystifflogod, pysgod cregyn a morgathod. Darllenwch fwy am waith CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Mae astudiaeth gan CNC wedi cadarnhau bod gan foroedd Cymru botensial enfawr i wrthbwyso carbon er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

  • Mae gan Gymru boblogaeth ffyniannus o Forloi Llwyd yn byw yn ein moroedd, sef ysglyfaethwyr mwyaf y DU gyda rhai yn pwyso gymaint â 230kg. Gallan nhw fwyta hyd at 5kg o bysgod bob dydd! Mae Morloi Llwyd yn teimlo’n fwy cartrefol allan ar y môr ac fel arfer maen nhw’n dod i'r lan am y tymor bridio a lloeo yn yr hydref ac i orffwys ar greigiau diarffordd neu ar draethau. Mae tymor lloeo’r Morlo Llwyd rhwng canol mis Awst a mis Rhagfyr, gyda’r brig ym mis Medi a mis Hydref ar hyd arfordir Cymru. Dysgwch fwy am sut mae CNC yn cydweithio dros ein harfordiroedd a’n moroedd: Cydweithio dros ein harfordiroedd a’n moroedd – blaenoriaethau a chynnydd - YouTube

  • Roedd Cymru ar un adeg yn ganolfan diwydiant pysgota wystrys ffyniannus. Gwaetha’r modd, mae gorbysgota, newidiadau yn ansawdd y dŵr a heriau eraill dros y ddwy ganrif ddiwethaf yn golygu yr oedd yr wystrysen frodorol, sy’n hysbys am ei gallu i hidlo a glanhau dŵr, bron â diflannu. Hynny oedd tan 2021, pan lansiwyd prosiect dan arweiniad CNC i adfer yr wystrysen frodorol yn Aberdaugleddau. Darllenwch fwy amdano yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect cadwraeth i adfer wystrys brodorol

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru