Diweddariad ar waith Twyni Byw dros yr haf a’r hydref yn Niwbwrch

Twyni tywod yw rhai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru, gan eu bod yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt prin gan gynnwys tegeirianau, infertebratau, mwsoglau a chymaint mwy.

Mae tîm Twyni Byw wedi canolbwyntio ar hybu ac adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol ledled Cymru – un o’r rhain yw Tywyn a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw, sy'n rhoi'r diweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill ar y safle dros yr haf a'r hydref.

Mae prosiect Twyni Byw yn rhoi'r cyffyrddiadau olaf ar gamau nesaf ein cynlluniau adfer yn Niwbwrch ar gyfer diwedd tymor yr haf ac yna’r hydref er mwyn helpu i sicrhau bod y safle a'i fywyd gwyllt eithriadol yn parhau i ffynnu.

Ym mis Awst byddwn yn dechrau torri glaswelltir y twyni mewn gwahanol ardaloedd ar draws y safle. Er y gall torri gwair ymddangos yn dasg ddi-nod, mae'r arfer hwn yn hanfodol ar gyfer cadw cynefinoedd yn iach drwy gadw llystyfiant yn fyr ac annog cwningod i bori a rhoi hwb i flodau gwyllt anhygoel y safle.

Byddwn hefyd yn codi gwerth 4km o ffensys newydd ar draws gogledd-orllewin Tywyn Niwbwrch ar hyd y Llwybr Arfordir Cymru. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi pori cynaliadwy yn llawn a sicrhau bod y gwartheg a'r merlod yn cael eu cadw'n ddiogel.

Cyn bo hir byddwn yn cael gwared ar brysgwydd goresgynnol, coed sydd wedi cwympo a hen fonion o ardaloedd o fewn y goedwig a elwir yn lleol yn Hendai, Pant y Fuches, Cerrig Duon, Ffrydiau a Parnassus. Mae'r prysgwydd yn gymysgedd o rywogaethau estron fel cotoneaster a rhywogaethau brodorol fel bedw, helyg a mieri, sy'n gallu mygu’r llennyrch agored ac arwain at ddifodiad y dolydd hardd, y nentydd sy'n llifo'n ddirwystr a’r cribau creigiog.

Yna tua dechrau mis Hydref byddwn yn dychwelyd i wneud gwaith adfer helaeth o amgylch Pyllau Ffrydiau. Trwy grafu llystyfiant trwchus ac ailbroffilio rhywfaint ar arwyneb y ddaear, byddwn yn adfywio'r pyllau sydd wedi gordyfu, yn dod a tywod noeth i’r agored ac yn creu pwll newydd. Bydd hyn yn gwella amodau ar gyfer tafolen y traeth a’r fadfall ddŵr gribog, dwy o rywogaethau’r safle a Warchodir gan Ewrop.

Cyflwynir holl waith Twyni Byw gyda'r uchelgais o gadw cynefin arbennig Niwbwrch o dwyni tywod a choedwig yn iach. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith. Gallwch ddod o hyd i ni ar @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu drwy chwilio am Sands of LIFE.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi'n uniongyrchol drwy e-bost ar Kathryn.Hewitt@CyfoethNaturiolCymru.gov.uk.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru