Dweud eich dweud am system drwyddedu ar gyfer rhyddhau adar hela yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried opsiynau ar gyfer rheoleiddio’r broses o ryddhau adar hela, sef ffesantod a phetris coesgoch, yng Nghymru ar ran Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae angen caniatâd gan CNC i ryddhau adar hela o fewn ffin Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Fodd bynnag, y tu allan i'r ffiniau hynny, prin yw'r gwaith o reoleiddio neu fonitro eu heffaith.

Mae CNC wedi asesu'r dystiolaeth, gan gynnwys gwybodaeth gafodd ei chyflwyno yn dilyn galwad am dystiolaeth, ac mae bellach yn gwahodd pobl i ddweud eu barn ar gynlluniau arfaethedig ar gyfer trefn drwyddedu yn y dyfodol.

Dywedodd Nadia DeLonghi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC:

"Ein nod yw datblygu opsiwn i Gymru sy'n gymesur ac yn ymarferol. Heddiw rydym yn agor ymgynghoriad 12 wythnos ar yr opsiwn a ffefrir gennym ar gyfer rheoleiddio’r broses o ryddhau adar hela yng Nghymru, yn benodol ar gyfer ffesantod a phetris coesgoch.
"Rydym wedi defnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael i ystyried y ffordd orau o reoli unrhyw effeithiau ecolegol a ddaw yn sgil rhyddhau adar hela, heb amharu’n anghymesur ar y manteision amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd a ddaw o saethu adar hela.
“Nid y nod yw atal yr arfer o ryddhau adar hela – ond nodi unrhyw risgiau, a dod o hyd i atebion sy'n cydbwyso anghenion yr holl randdeiliaid a'r amgylchedd ei hun. 
"Rydyn ni eisiau clywed eich barn ar ein cynigion - ac rydyn ni'n annog pobl i ddweud eu dweud."

Mae'r ymgynghoriad ar-lein ar agor tan 20 Mehefin 2023 ac mae ar gael i'w weld yma. Ar ôl iddo gau, bydd CNC a Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ymatebion ac yn cytuno ar ddull rheoleiddio newydd cyn tymor 2024.