Image of the River Dee

Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy - yn gryno

Mae Afon Dyfrdwy yn tarddu ym mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri, i'r gorllewin i Lyn Tegid.

Ar ôl llifo trwy ddyffryn llydan Corwen, mae'n syrthio tua'r dwyrain trwy Ddyffryn ysblennydd Llangollen cyn torri trwy odre bryniau Cymru, ger Bangor-Is-Y-Coed ac yn ystumio tua'r gogledd trwy wastadedd Swydd Gaer i'w therfyn llanw yng Nghored Caer.

Mae Afon Dyfrdwy yn enghraifft enwog drwy'r byd o reolaeth basn afon. Trwy'r Cynllun Rheoleiddio Dyfrdwy, mae'r system afon yn cael ei rheoli mewn ffordd gynaliadwy i fodloni nifer o swyddogaethau, defnyddiau ac anghenion gwahanol.

Darllenwch ein taflen ar reoli'r Ddyfrdwy fan hyn

Diweddarwyd ddiwethaf