Deg lle arbennig ger y môr
Y deg lle gorau ar arfordir Cymru i chi eu harchwilio
Croeso Cymru
Mae gan Gymru bedwar llwybr pellter hir a gellir mwynhau pob un ohonynt mewn darnau byrrach.
Maent i gyd ar agor i gerddwyr ac mae rhai adrannau ar agor i feicwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau.
Mae pob un ohonynt yn eich tywys drwy neu gerllaw rhan wahanol o arfordir trawiadol Cymru.
Yn 870 milltir o hyd, Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr di-dor hiraf ar hyd arfordir unrhyw wlad.
Mae’r llwybr, sydd wedi’i arwyddo gydag arwyddion cragen draig glas a melyn, yn mynd o Gaer i Gas-gwent, gan fynd drwy neu’n agos i’r mannau sydd yn y daflen hon.
Mae golygfeydd arfordirol creigiog a dramatig, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn gefndir trawiadol iddynt, i’w mwynhau oddi ar ran gogleddol y llwybr.
Yng Nghanolbarth a gorllewin Cymru mae llawer o draethau hardd, o gilfachau bychain cysgodol i stribedi tywodlyd helaeth ac mae Bae Ceredigion yn gartref i’r haid fwyaf o ddolffiniaid yn y DU.
Mae’r llwybr trwy Dde Cymru yn amrywiol iawn, gan gynnwys tirweddau dinas, bywyd pentref a golygfeydd godidog o aberoedd.
Mae Llwybr Arfordir Penfro yn Llwybr Cenedlaethol 186 milltir o hyd o Landudoch i Amroth; mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Mae’r llwybr hwn sydd bron yn gyfan gwbl ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn plethu trwy olygfeydd arfordirol ysblennydd, o bennau clogwyni geirwon i aberoedd troellog.
Mae Llwybr Clawdd Offa yn llwybr 177 milltir o hyd o arfordir De Cymru yng Nghas-gwent i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae’r Llwybr Cenedlaethol hwn yn dilyn y ffin â Lloegr a’r clawdd trawiadol o’r 8fed ganrif a adeiladwyd gan y Brenin Offa.
Llwybr Glyndŵr yw’r Llwybr Cenedlaethol 135 milltir o hyd o Drefyclo i’r Trallwng.
Wedi’i enwi ar ôl y tywysog Cymreig o’r 15fed ganrif, mae hon yn daith gerdded gyffrous dros fryniau a thrwy ddyffrynnoedd, gydag ambell i gip o aber afon Dyfi ger Machynlleth, lle mae’r llwybr yn cwrdd â Llwybr Arfordir Cymru.