Deg lle arbennig ger y môr
Y deg lle gorau ar arfordir Cymru i chi eu harchwilio
Gydag oddeutu 2,750 cilometr (1,700 milltir) o arfordir o amgylch Cymru, mae ein moroedd yn gartref perffaith i fywyd gwyllt y môr, fel morloi, dolffiniaid, llamidyddion, morgwn a slefrod môr.
Caiff yr amrywiaeth o dirweddau yng Nghymru ei adlewyrchu dan y dŵr, o riffiau creigiog serth ar yr arfordir agored i welyâu gwellt y gamlas mewn baeau cysgodol bas.
Uwchlaw’r glannau, mae ein clogwyni a’n hynysoedd yn gartref i nythfeydd rhyngwladol bwysig o adar môr, gan gynnwys adar drycin Manaw, palod a huganod.
Sylwer: crëwyd y dudalen hon fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Môr yng Nghymru yn 2018. Yn ystod y flwyddyn, aethom ati i arddangos gwahanol rywogaethau morol ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan gregyn bylchog mawr hyd at 100 o lygaid!
Maen nhw’n eu rhybuddio’n fuan pan fydd ysglyfaethwyr yn agosáu drwy synhwyro newidiadau mewn goleuni a symudiadau.
Er mwyn dianc, mae’r cregyn bylchog hyn yn nofio i ffwrdd drwy agor a chau eu falfiau yn gyflym.
Maen nhw’n arbenigwyr ar ddefnyddio cuddliw, ac yn gwthio eu cragen isaf grom i wely’r môr gan orchuddio eu cragen uchaf fflat â gwaddod fel mai dim ond eu teimlyddion a’u llygaid sy’n dal yn y golwg.
Mae cregyn bylchog wedi cael eu diogelu ers 1990 ym Mharth Cadwraeth Forol Sgomer gan is-ddeddf bysgodfeydd sy’n gwahardd unrhyw ddulliau o’u casglu.
Mae hyn wedi caniatáu astudiaeth tymor hir o boblogaeth cregyn bylchog a’r cymunedau gwaddod-gyfoethog lle cânt eu canfod. Darllenwch y blog.
Mae gan grancod heglog pigog enw addas iawn.
Mae ganddyn nhw gyrff pigog a choesau main hir a all, mewn crancod gwrywaidd, gyrraedd hyd at un metr ar draws.
Gallant fyw am hyd at wyth mlynedd, gan fwrw’u hysgerbwd allanol wrth iddyn nhw dyfu.
Yn ystod eu cyfnod ‘meddal’, cyn i’r haen allanol newydd galedu, mae’n hawdd i ysglyfaethwyr eu dal, felly maen nhw’n casglu at ei gilydd mewn grwpiau mawr er mwyn bod yn ddiogel.
Hollysyddion ydyn nhw, gan fwydo ar beth bynnag sydd ar gael, fel gwymon ac ysglyfaethu ar anifeiliaid marw.
Gellir dod o hyd iddyn nhw ar riffiau creigiog ac mewn gwaddodion ar wely’r môr.
Yn yr hydref maen nhw’n symud i ddyfroedd dyfnach, gan deithio hyd at 100 milltir yn aml.
Gall gragen forwyn fwyaf fyw am hanner mileniwm.
Roedd yr un hynaf erioed a gafodd ei darganfod yn 507 oed, wedi’i dyddio o’i chragen sy’n tyfu’n araf.
Mae’r gragen fylchog hon sy’n frodorol i Ogledd yr Iwerydd, i’w chael ar welyau tywodlyd y môr oddi ar arfordir Cymru, lle mae’n ymwthio o dan yr wyneb i’w diogelu ei hun.
Ar ôl marw, defnyddir ei chragen drwchus gan greaduriaid eraill fel cuddfan neu fel man i ymgartrefu.
Yn ddiweddar cafodd hen gragen ei darganfod ym Mharth Cadwraeth Forol Sgomer gyda’r mwydyn Sabellaria spinulosa sy’n adeiladu tiwbiau yn tyfu arni.
Mae’r gragen forwyn fwyaf wedi’i rhestru yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel rhywogaeth bwysig iawn.
Ydych chi wedi gweld glynwr?
Gellir eu hadnabod yn hawdd oherwydd eu siâp a’u lliw arbennig.
Mae ganddyn nhw drwyn hir, fflat, fel pig hwyaden, fflap rhimynnog wrth bob ffroen, a dau smotyn glas y tu ôl i’w pen.
Fe allan nhw amrywio mewn lliw, ond yn aml maen nhw’n binc gyda smotiau coch ac esgyll coch.
Maen nhw wedi’u henwi ar sail y ddisg lynu ar eu bol sy’n eu galluogi i lynu’n sownd wrth greigiau a goroesi mewn mannau lle y ceir llawer o donnau.
Gellir eu gweld ar glogfeini sydd wedi’u gorchuddio â gwymon ledled Cymru.
Cadwch lygad am bysgod haul yn torheulo.
Pysgod haul yw pysgod esgyrnog mwyaf y byd. Fe allan nhw dyfu hyd at 3 metr ar draws a phwyso 1500kg – yr un faint â char bach.
Maen nhw’n bwydo ar slefrod môr yn bennaf, gan ddeifio i lawr hyd at 60 metr yn ystod y nos i ddilyn plancton a slefrod môr i’r gylchfa gyfnosi.
Yn ystod y dydd maen nhw fel pe baent yn torheulo yn yr haul, gyda’u hasgell yn symud o ochr i ochr ar wyneb y dŵr.
Yn ôl y sôn, maen nhw’n gwneud hyn er mwyn eu cynhesu’u hunain ar ôl deifio mewn dŵr oer, dwfn.
Ddiwedd yr haf gellir gweld pysgod haul bach ar hyd arfordir Cymru yn symud eu hesgyll o ochr i ochr.
Mae adar drycin Manaw wrth eu bodd â ‘bywyd nos’ Cymru.
Yn ynysoedd Sgomer a Sgogwm y mae’r casgliad mwyaf y gwyddys amdano drwy’r byd o adar drycin Manaw, gydag oddeutu 165,000 o barau sy’n bridio.
Maen nhw wedi addasu’n berffaith i fyw ar y môr, gydag adenydd hir, cul, a’u traed wedi’u lleoli ymhell yn ôl ar eu corff er mwyn eu galluogi i nofio’n effeithlon.
Ond mae hyn yn gwneud bywyd ar y tir yn anodd oherwydd allan nhw ddim cerdded yn hawdd ac o’r herwydd mae gwylanod yn ymosod arnyn nhw.
I leihau’r perygl hwn, maen nhw’n nythu mewn tyllau ac yn mentro allan yn y nos yn unig.
Ar ôl iddi nosi, mae eu nythfeydd yn swnllyd iawn. A pho dywyllaf yw’r nos, po fwyaf croch yw’r sŵn.
Mae maelgwn angen eich help!
Dyma un o siarcod prinnaf y byd – caiff ei restru fel bod Mewn Perygl Difrifol gan Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN).
Gwelwyd y maelgi ym Mae Ceredigion yn ddiweddar, ac efallai mai dyma’i gadarnle olaf.
Mae’r maelgi’n fwy fflat na siarcod eraill ac mae wedi addasu’n berffaith i fyw ar wely’r môr. Gall lithro dros y tywod gyda’i esgyll sy’n debyg i adenydd, a hefyd gall ei gladdu’i hun yn y tywod.
Mae ganddo guddliw gwych o ran lliw a phatrwm, sy’n ei alluogi i ymdoddi i wely tywodlyd y môr ac ymosod ar ei brae yn eithriadol o gyflym.
Rydym wedi lansio prosiect gyda Chymdeithas Sŵolegol Llundain i gasglu gwybodaeth gan drigolion Cymru am y maelgwn y maen nhw wedi’u gweld, yn awr ac yn y gorffennol.
Bydd yr wybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o’r boblogaeth yng Nghymru ac yn helpu i warchod y rhywogaeth ryfeddol hon.
Beth am ganfod mwy am Brosiect Maelgi: Cymru, a chofiwch gysylltu os gwelwch un.
Beth sy’n gwneud gwellt y gamlas yn unigryw?
Dyma’r unig blanhigyn blodeuol sy’n tyfu ac yn cynhyrchu hadau yn gyfan gwbl dan ddŵr y môr.
Mae angen heulwen i dyfu, felly caiff ei gyfyngu i leoedd bas, cysgodol.
Mae gwlâu gwellt y gamlas yn bwysig i fioamrywiaeth. Maen nhw’n cynnal cymunedau amrywiol o anifeiliaid a phlanhigion ac yn cynnig meithrinfa i bysgod.
Hefyd, maen nhw’n bwysig o ran sefydlogi gwely tywodlyd y môr.
Caiff gwlâu gwellt y gamlas eu rhestru fel cynefin pwysig iawn yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae’r gwymon hwn yn torri’r rheolau.
Algâu môr yw gwymonau, a chânt eu dosbarthu yn ôl eu lliw: coch, brown neu wyrdd.
Ond mae’r gwymon Drachiella spectabilis yn anarferol gan mai gwymon coch ydyw sy’n disgleirio’r las a phiws.
Maen nhw’n gynhyrchwyr cynradd – yn troi ynni’r haul yn aer yr ydym ni’n ei anadlu.
Caiff rhai gwymonau eu casglu ar gyfer bwyd, fel bara lawr traddodiadol.
Caiff rhai eraill eu defnyddio i dewychu hufen iâ, past dannedd a choluron, a hyd yn oed i greu ewyn ar gwrw.
Weithiau gelwir yr aderyn annwyl hwn yn ‘barot y môr’.
Mae eu pig sy’n debyg i big parot yn newid ei liw yn ôl y tymhorau – o lwyd dwl yn y gaeaf i goch â roséd melyn atyniadol yn y gwanwyn i ddenu cymar posibl.
Mae palod yn treulio’r rhan fwyf o’u bywyd yn y môr ac maent yn nofwyr anhygoel. Maent yn defnyddio eu hadenydd byrion i ‘hedfan’ o dan y dŵr, gan blymio i lawr i ddyfnder o 60 metr i chwilio am bysgod.
Maent yn dychwelyd i’r tir yn y gwanwyn i fridio. Ar hyn o bryd ceir hyd at 8,000 pâr o balod yn nythu ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm, oddi ar arfordir Sir Benfro.
Maent yn nythu mewn tyllau, felly mae absenoldeb ysglyfaethwyr ar y tir yn hanfodol i’w goroesiad. Gwylanod newynog yw eu prif ysglyfaethwyr.
Wyddech chi mai math o blancton yw Sglefren y môr-ddanhadlen?
Er nad oes ganddi ymennydd na chalon ac er bod 95% ohoni’n ddŵr, mae’n ei gwthio ei hun yn ei blaen drwy agor a chau ei chorff siâp cloch yn rhythmig.
Mae’n parlysu ac yn dal ei hysglyfaeth – sef pysgod, cramenogion a hyd yn oed sglefrod môr eraill gyda’i 24 tentacl a’i phedair braich eneuol ffriliog.
Daw’r enw Saesneg (Compass jellyfish) o’r patrwm crwn fel cwmpawd sy’n gorchuddio’r gloch.
Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref gwelir y sglefrod môr hyn yn rheolaidd ar hyd arfordir Cymru – yn y môr ac hefyd wedi’u golchi i’r lan. Os byddwch yn gweld un, gofalwch beidio â’i chyffwrdd neu gallech gael pigiad cas!
Allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng llamhidydd a dolffin?
Mae llamidyddion yn llai na dolffiniaid, gan fesur 1.5 metr o hyd, ac mae eu hasgell ddorsal yn fwy trionglog.
Yn wahanol i ddolffiniaid, nid yw llamidyddion yn acrobatig ac nid ydynt yn neidio allan o’r dŵr.
Gellir gweld llamidyddion yn rheolaidd ar hyd arfordir Cymru. Mae mannau da ar gyfer eu gweld yn cynnwys Ynys Sgomer, Ynys Dewi, Pen Strwmbl a gogledd ddwyrain Ynys Môn, lle y gellir eu gweld yn aml yn bwydo mewn llecynnau lle y ceir cerhyntau llanwol cryfion.
Mae llamidyddion yn rhywogaeth a gaiff ei gwarchod yn rhyngwladol. Yn 2017 crëwyd tair Ardal Cadwraeth Arbennig o amgylch Cymru i warchod y llamhidydd.
Crwbanod môr cefn-lledr yw’r crwbanod môr mwyaf yn y byd.
Maent yn nythu ar draethau trofannol, ond yn ystod misoedd yr haf dônt i ddyfroedd Cymru i fwydo ar slefrod môr.
Daethpwyd o hyd i’r enghraifft fwyaf erioed wedi mynd yn sownd ar y lan yn Harlech yn 1988. Roedd yn pwyso 916 cilogram ac roedd bron yn dri metr o hyd.
Caiff crwbanod môr cefn-lledr eu gwarchod gan Ewrop a chânt eu rhestru yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel rhywogaeth bwysig o safbwynt gwarchod bioamrywiaeth.
Cadwch lygad amdanynt a chysylltwch os gwelwch un. Maent yn hawdd eu hadnabod oherwydd eu croen du tebyg i ledr, eu maint a’r gwrymiau amlwg ar eu cefn.
Y forgath ddreiniog yw un o’r morgathod mwyaf cyffredin yn nyfroedd Cymru.
Fel yr awgryma ei henw, mae ganddi res o ddrain ar hyd canol ei chefn. Hefyd, mae ganddi bigau ar ei ‘hadenydd’ – sef ei hesgyll pectoral estynedig sy’n ei helpu i nofio.
Mae ei chorff fflat a’i lliw llwydfrown yn berffaith ar gyfer byw ar wely’r môr – cuddliw da yn erbyn y tywod a’r cerrig mân.
Fel morgwn, mae gan forgathod sgerbwd wedi’i wneud o gartilag ysgafn, hyblyg yn hytrach nag asgwrn.
Mae’r heulseren Crossaster papposus yn ysglyfaethwr ymosodol a threchol.
Mae ei breichiau niferus yn caniatau iddi symud yn gyflym – yn nhermau seren fôr – gan deithio mwy na phum metr mewn hanner diwrnod wrth iddi hela ei hysglyfaeth sy’n cynnwys draenogod môr, sêr brau a sêr môr cyffredin.
Nid yw hi’n ffyslyd o ran ei bwyd a bydd yn pori hefyd ar anemonïau, chwistrellwyr môr a chregyn deuglawr (megis wystrys, gregyn gleision a chregyn bylchog).
Fel sêr môr eraill mae’n gallu aildyfu breichiau os cânt eu niweidio neu hyd yn oed os ydynt ar goll – ond dim ond os bydd ei disg ganolog yn dal yn gyfan.
Er ei bod i’w chael o amgylch holl arfordir Prydain, mae hi fwyaf cyffredin yn y gogledd, a dim ond yn achlysurol y gwelir hi yn nyfroedd Cymru.
Pwy sy’n adeiladu’r riffiau mwyaf, cyflymaf?
Nid cwrel. Ond y llyngyren ddiliau.
Mae’r llyngyren yma, sy’n byw mewn tiwben yn adeiladu ei gartref o dywod neu ddarnau o gregyn, i’w ddiogelu rhag ysglyfaethwyr.
Nid yw’r llyngyren byth yn gadael ei gartref ond, pan mae’r llanw’n gorchuddio’r riffiau, mae’n ymlusgo i’r ymyl i hidlo plancton o’r dŵr.
Mae’r riffiau mwyaf yng Nghymru ym Mae Ceredigion, lle gall clytiau ymestyn i dros pum cilomedr ar hyd y lan.
Mae’n rhywogaeth â blaenoriaeth yng Nghymru, ac mewn perygl lle caiff amddiffynfeydd arfordirol eu hadeiladu sy’n lleihau’r tywod symudol mae’r llyngyr yn defnyddio i adeiladu eu riffiau.
Os welwch riff, cymerwch ofal i beidio â cherdded arno - mae’n fregus ac yn hawdd ei dorri.
Pam y mae enw’r cwrel Ross hwn yn gamarweiniol?
Gan nad cwrel ydyw o gwbl.
Cytref o unigolion diddiwedd ydyw sy’n byw gyda’i gilydd mewn blociau adeiladu microsgopaidd, calchog. Maent yn perthyn i grŵp o anifeiliaid a elwir yn bryosoaid.
Gall y strwythurau bregus hyn dyfu i gyfanswm syfrdanol o 1 metr ar draws, ond maent yn frau ac yn hawdd i’w torri oherwydd gweithgaredd morol fel pysgota ac angori.
Ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer rydym yn tynnu lluniau llawer o’r cytrefi hyn i astudio sut y mae eu poblogaeth yn newid dros amser ac i gofnodi unrhyw beth sy’n effeithio arnynt.
Ai morgi (dogfish) neu forgi lleiaf (catshark) yw hwn?
Y ddau! Gelwir yn aml yn ‘forgi’(dogfish) ond mewn gwirionedd morgi lleiaf (Catshark) ydyw.
Gall y morgwn lleiaf (catsharks) fod yn fach o ran maint, ond maent yn dod o’r teulu mwyaf o forgwn gyda 160 o rywogaethau ledled y byd.
Mae’r morgwn lleiaf i’w gweld yn aml yn nyfroedd Cymru ac fe’u gwelir yn aml gan ddeifwyr a physgotwyr.
Mae angen i wyau’r morgi lleiaf (catshark) gael eu cadw’n ddiogel am 8 mis tra bod y morgwn bach yn datblygu tu fewn. Mae’r plisgennau wyau ( a elwir yn byrsau’r forwyn) yn galed iawn, gyda thendriliau hir sy’n cael eu dal mewn gwymon i gadw’r wyau’n guddiedig.
Edrychwch allan am byrsau’r forwyn, gwag wedi eu golchi i fyny ar y lan.
Huganod yw’r adar môr mwyaf sy’n bridio yn y DU.
Maent wedi’u haddasu mewn modd arbennig er mwyn iddynt allu ymdopi â’r sioc o blymio i’r môr 60 milltir yr awr o 100 troedfedd yn yr awyr i ddal eu bwyd.
Maent yn cau eu ffroenau, mae ganddynt bilen annrylliadwy sy’n amddiffyn eu llygaid, ac mae ganddynt bocedi aer yn eu gyddfau a’u hysgwyddau sy’n lleihau’r sioc.
Ynys Gwales oddi ar Sir Benfro yw’r graig nythu fwyaf ond un ar gyfer huganod ym Môr Iwerydd, gyda mwy na 100,000 o adar.
Mae llygredd plastig yn effeithio ar huganod. Wrth adeiladu eu nythod o weddillion naturiol sy’n arnofio maent hefyd yn codi leiniau pysgota plastig, rhaffau synthetig a phlastigau eraill, sy’n achosi i lawer ohonynt fynd ynghlwm ac i rai ohonynt farw wrth fynd yn sownd yn eu nythod.
A ydych erioed wedi camgymryd sbwng am blanhigyn?
Mae’n glynu ar greigiau, yn union fel planhigyn.
Nid oes ganddo galon, ymennydd, cyhyrau na cheg.
Ond anifail ydyw, ac mae’n llwyddiannus iawn.
Mae’r sbwng corniog melyn hwn yn un o blith 10,000 o rywogaethau o sbyngau drwy’r byd.
Efallai eich bod yn meddwl tybed sut y mae’n bwyta heb geg.
Mae’n tynnu bwyd o’r dŵr sy’n cylchredeg trwy’r tyllau a’r sianeli sydd ganddo yn ei gorff.
Mae’r seren fôr bigog yn anferth.
Mae hi fel arfer yn 20-30cm o led, ond gall dyfu hyd at 75cm, felly hi yw’r seren fôr fwyaf yn nyfroedd y DU.
Gellir dod o hyd iddi hyd at ddyfnder o 200 metr ond, os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch un pan fydd y llanw ar drai.
Nid oes gan sêr môr pigog lygaid. Yn hytrach, mae ganddynt organau sy’n sensitif i olau ar flaenau eu breichiau, sy’n eu galluogi i ganfod symudiad.
Maent yn ysglyfaethwyr rheibus, gan fwyta molysgiaid, cramenogion, pysgod a hyd yn oed sêr môr eraill.
Ac nid oes gwahaniaeth ganddynt pa un a yw eu swper yn fyw ynteu’n farw!
Ydych chi’n gwybod beth y mae môr-wlithod yn hoffi ei fwyta?
Yn wahanol i wlithod y tir, mae môr-wlithod yn ffyslyd iawn gyda’u bwyd oherwydd mae gan bob rhywogaeth ei phrae arbennig ei hun.
Gall môr-wlithod fod yn ffyrnig hefyd! Mae’r fôr-wlithen Okenia elegans yn bwydo ar chwistrellau môr trwy durio i mewn iddynt a’u bwyta o’r tu mewn.
Fe all y rhai sy’n bwyta anifeiliaid sy’n pigo/llosgi storio’r celloedd llosgol yn eu cyrff eu hunain a’u defnyddio i’w hamddiffyn eu hunain.
Ac, yn wahanol i wlithod y tir, mae nifer ohonynt yn lliwgar iawn.
Eu henw gwyddonol yw noethdagellogion – ‘tagellau noeth’ – gan gyfeirio at eu horganau anadlu allanol.
Gall Anemoniau gemog atgynhyrchu mewn ffordd ddiddorol.
Gallant rannu eu hunain yn ddau, sy’n arwain at ardaloedd o glystyrau bach iawn o anemoniau lliwgar yn ffurfio ar greigiau.
Maent yn anifeiliaid lliwgar rhyfeddol.
Gallant fod yn binc, porffor, gwyrdd, oren neu frown, ac mae ganddynt bêl fach ar un pen o’u tentaclau syn edrych fel gem ddisglair.
Mae’r wrachen resog yn un o’n pysgod mwyaf lliwgar, gyda marciau oren a glas trawiadol fyddai ddim yn edrych allan o le mewn dyfroedd trofannol.
Ond hefyd mae ganddynt nodwedd hynod arall.
Y wrachen resog yw un o’r ychydig bysgod a all newid eu rhyw (maent yn ‘protogynous hermaphrodites’).
Maent yn cael eu geni’n fenywaidd, ond yn troi’n wryw os yw’r gwryw cryfaf yn diflannu.
Mae'r cimwch coch hefyd yn cael ei alw’n cimwch yr afon a chimwch Mair.
Daw’r enw 'cimwch Mair' o’r pigau miniog sy’n gorchuddio eu cregyn oren-brown trwm.
Mae ganddynt ddau antena hir, sy’n cael eu defnyddio i ymladd a dau antennyn llai, sy'n organau synhwyrau ac yn datgelu cemegau a symudiadau yn y dŵr.
Arferai cimychiaid coch fod yn gyffredin ar ein riffiau creigiog ond ers yr 80au maent wedi prinhau.
Maent wedi’u rhestru fel rhywogaeth bwysig iawn gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac eto maent yn parhau i fod heb unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ac eithrio maint glanio lleiaf.
Cofiwch holi bob amser o ble y daeth y pysgod sydd ar fwydlenni tai bwyta i sicrhau fod y ffynhonnell yn gynaliadwy.
Dysgwch fwy am Gimychiaid Coch
Peidiwch ag anwybyddu’r llygad maharen sydd i’w weld ar ein glannau creigiog.
Oeddech chi’n gwybod fod ganddo ffordd glyfar o amddiffyn ei hun rhag yr elfennau?
Mae’r llygad maharen bob amser yn dychwelyd at yr un man ar ôl bwydo - gelwir hyn yn 'craith gartref.'
Mae ei gragen yn siâp pyramid yn debyg iawn i amlinell y graig 'craith gartref', gan ganiatáu iddo ddal yn sownd gyda’i draed cyhyrol a gwneud sêl dynn yn erbyn y tonnau cryfion a’r aer sy’n sychu.
Pan fydd y llanw yn mynd allan, mae’r llygad maharen yn symud o gwmpas i fwydo, gan grafu ffilmiau o wymon oddi ar arwynebau’r creigiau gyda'i 'ysgrafell' - tafod fel rhuban gyda rhesi o ddannedd.
Yna mae'n mynd adref i oroesi hyrddiad arall!
Erioed wedi meddwl sut cafodd y chwistrell serennog ei enw?
Mae pob chwistrell serennog mewn gwirionedd yn gytref o nifer o unigolion lliwgar bach o’r enw söoidau, sy’n dod at ei gilydd i ffurfio clystyrau hirgrwn cylchol neu siâp seren o fewn matrics clir a cnawdog.
Gall y clystyrau hyn edrych fel sêr lliwgar yn tyfu ar greigiau a gwymon.
Ond beth am y 'chwistrell’?
Mae’r dŵr mae pob söoid yn pwmpio drwy ei gorff wrth hidlo allan gronynnau bwyd yn cael ei ryddhau i’r gofod cyffredin o fewn y matrics, lle mae’n gadael-neu’n chwistrelli -allan o’r gytref.
Mae siarad yn helpu dolffiniaid trwyn potel i ddal eu prae.
Maent yn hela mewn grwpiau bach, gan alw ar ei gilydd i gydlynu eu symudiadau.
Maent yn bwydo ar bysgod sy’n doreithiog yn lleol a gallant fwyta tua 5% o bwysau eu corff bob diwrnod.
Mae siâp eu dannedd yn arbennig o dda am ddal pysgod llithrig, gyda rhesi pleth o begiau pigfain.
Yn aml, gallwch weld heidiau o ddolffiniaid oddi ar arfordir Cymru, yn enwedig yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.
Morloi llwyd yw ysglyfaethwyr mwyaf Prydain.
Gall y rhai gwrywaidd bwyso 230 kg – hanner yr hyn y mae piano cyngerdd yn ei bwyso – gan fwyta 5 kg o bysgod y dydd.
Er eu bod fel arfer yn bwydo mewn dyfroedd bas gallant blymio hyd at 70 metr ac aros dan y dŵr am chwe munud ar y tro.
Gallwch weld morloi llwyd ar hyd arfordir Cymru drwy’r flwyddyn, ond yn enwedig yn yr hydref pan ddônt ar y lan i eni eu morloi bach ar y traethau anghysbell ger Parth Cadwraeth Morol Sgomer.
Wyddech chi fod gennym goedwigoedd tanfor yng Nghymru?
Mae coedwigoedd trwchus o fôr-wiail mawr brown yn tyfu yn nyfroedd bas arfordir Cymru gyfan.
O dan ganopi’r goedwig hon, mae bywyd yn ffynnu, gyda mwy na 250 o rywogaethau wedi eu cofnodi’n byw yno.
Mae’r coedwigoedd môr-wiail sydd wedi eu hangori’n gadarn ar y creigiau yn creu rhwydwaith o gilfachau sy’n gartrefi delfrydol i bysgod, crancod, sêr môr a môr ddraenogod. Ar y ‘boncyffion’ hyn (a elwir yn ‘goesynnau’) ceir cytrefi o sbyngau, môr-binwydd a matiau môr.
A yw cwrel yn tyfu yng Nghymru? Ydi, mae’n tyfu yma!
Cwrel meddal canghennog yw môr-wyntyllau pinc (Eunicella verrucosa) ac maent i’w canfod ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer (MCZ).
Hwn yw eu cadarnle mwyaf gogleddol - maent i’w cael hefyd yn Affrica ac ym Môr y Canoldir.
Mae gan fôr-wyntyllau pinc (a elwir hefyd yn octocorallia) adeiladwaith tebyg i goeden sydd wedi ei gysylltu’n gadarn â chraig.
Mae eu canghennau wedi’u gorchuddio â pholypiaid mân tebyg i anemonïau sy’n dal bwyd yn y dŵr. Maent yn tyfu yn araf iawn cyn belled â hyn i’r gogledd, ac mae llawer yn Mharth Cadwraeth Morol Sgomer yn 50-100 oed.
Beth yw’r tebygrwydd rhwng môr-ddraenogiaid a chwningod? Mae’r naill a’r llall yn borwyr.
Gelwir môr-ddraeniogiaid yn gwningod y byd morol oherwydd dyma’r porwyr pwysicaf ar arwyneb creigiau o dan y dŵr.
Mae môr-ddraenogiaid yn hanfodol ar gyfer cynnal bioamrywiaeth.
Drwy sugno arwynebau creigiau’n lân wrth fwydo ar wymon a chreaduriaid sy’n clystyru i ffurfio cramen, maent yn gwneud lle i larfâu gwahanol rywogaethau setlo ar y graig ac, o ganlyniad, yn annog amrywiaeth o rywogaethau.