Bod yn berchen ar gwrs dŵr

Edrych i weld a ydych yn berchen ar gwrs dŵr

Fel arfer, rydych yn berchen ar ddarn o gwrs dŵr sy’n:

  • rhedeg ar neu o dan eich tir
  • ar ffin eich tir, hyd at ei ganol

Edrychwch ar weithredoedd eich eiddo os nad ydych yn sicr o ran perchnogaeth.

Os ydych yn rhentu’r tir, dylech gytuno ar bwy fydd yn rheoli’r hawliau a’r cyfrifoldebau hyn gyda’r perchennog.

Gall cwrs dŵr fod yn:

  • afon
  • nant
  • ffos
  • melin
  • cwlfer (strwythur o dan y ddaear y gall dŵr lifo drwyddo)

Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Cysylltwch â ni ynglŷn â digwyddiadau ar ‘brif afonydd’. Fel arfer, mae prif afonydd yn afonydd neu nentydd mwy o faint.

Rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein neu ar y ffôn i ddweud wrthym am:

  • lifogydd
  • prif afonydd sydd wedi blocio, a allai achosi llifogydd
  • llygredd
  • glannau sydd wedi syrthio neu sydd wedi’u difrodi
  • newidiadau anarferol o ran llif yr afon

Eich cyfrifoldebau

Gadael i ddŵr lifo’n naturiol

Rhaid i chi adael i ddŵr lifo drwy eich tir heb unrhyw rwystr, llygredd na gwyriad.

Gadewch le ar gyfer mynediad o amgylch y cwrs dŵr, rhag ofn y bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw neu archwilio.

Rhwystrau yn yr afon

Rhaid i chi gadw'r glannau’n glir o unrhyw beth a allai achosi rhwystr neu gynyddu'r perygl o lifogydd, naill ai ar eich tir neu i lawr yr afon. Er enghraifft, coed sydd wedi cwympo neu ganghennau isel. Dylech adael pob coeden, cangen a llwyn arall - gallant helpu i atal llifogydd a lleihau erydiad.

Cadwch unrhyw strwythurau, fel cwlferi, sgriniau brigau, coredau a gatiau melinau, yn glir o falurion.

Peidiwch â mynd y tu mewn i gwlfer gan y gallech gael eich dal neu eich gwenwyno gan nwyon. Os oes angen ei glirio neu ei atgyweirio, cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg am gyngor.

Gwarchod bywyd gwyllt

Atal llygredd

Peidiwch â llygru'r dŵr. Peidiwch â defnyddio glannau afonydd i waredu gwastraff gardd, dŵr gwastraff, cemegion, nac unrhyw beth arall a allai achosi llygredd.

Dylech:

  • glirio unrhyw sbwriel o’r glannau
  • symud carcasau anifeiliaid o’r sianel a’r glannau, hyd yn oed os na ddaethant o’ch tir chi

Dysgwch am y rheolau cyfreithiol ar ddefnyddio chwynladdwyr.

Lleihau erydiad

Chi sy'n gyfrifol am ddiogelu glannau afonydd rhag erydu. Edrychwch ar y canllawiau isod i weld a oes angen trwydded arnoch cyn dechrau unrhyw waith.

Cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg os ydych yn pryderu bod yr erydiad yn effeithio ar amddiffynfa rhag llifogydd.

Cael cyngor ar fod yn berchen ar gwrs dŵr

I gael cyngor ar yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn berchen ar ran o gwrs dŵr, cysylltwch â’ch awdurdod rheoli risg.

Os yw’n ymwneud â:

Rheoli eich perygl llifogydd

Os ydych yn berchen ar gwrs dŵr, rydych yn gyfrifol am weld beth yw eich risg llifogydd. Gallwch:

Amddiffynfeydd rhag llifogydd neu strwythurau eraill ar eich tir

Gall strwythurau ar eich tir, fel wal neu gwlfer, fod yn bwysig er mwyn atal llifogydd. Os oes strwythur amddiffyn rhag llifogydd yn rhedeg drwy eich eiddo, byddech yn berchen arno o'r man lle mae’n mynd i mewn i'ch tir i'r man lle mae'n ei adael. Efallai mai chi sy'n gyfrifol am atgyweirio neu gynnal a chadw’r strwythur neu’r adeiledd.

Edrychwch i weld a oes gennych strwythur amddiffyn rhag llifogydd ar eich tir.

Cael caniatâd i wneud gwaith mewn cwrs dŵr neu o’i amgylch

Mae angen i chi edrych i weld pa hawliau a thrwyddedau sydd eu hangen arnoch cyn gwneud unrhyw waith mewn cwrs dŵr neu o'i amgylch. Mae hyn yn cynnwys:

  • Carthu
  • newid glan yr afon
  • amddiffyn rhag erydiad
  • tynnu silt

Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn ymyrryd â'n hasedau rheoli perygl llifogydd nac yn niweidio'r amgylchedd, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt lleol.

Gallech fod yn torri’r gyfraith os byddwch yn cychwyn gwaith heb gael y caniatâd sydd ei angen arnoch.

Gweithio ar brif afon

Mae angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd arnoch, a elwid gynt yn ganiatâd amddiffyn rhag llifogydd, os ydych am wneud gwaith:

  • ar neu’n agos at brif afon
  • ar neu’n agos at strwythur amddiffyn rhag llifogydd
  • ar neu’n agos at amddiffynfa forol
  • mewn gorlifdir

Edrychwch i weld a oes angen i chi wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Gweithio ar gwrs dŵr cyffredin

Nid oes angen trwydded arnoch i weithio ar gwrs dŵr cyffredin – afonydd, nentydd a ffosydd bach fel arfer. Ond dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol cyfrifol i wneud cais am ganiatâd cwrs dŵr cyffredin.

Os yw’r gwaith rydych yn ei gynllunio mewn Ardal Draenio Mewnol (ADM) bydd rhaid i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir.

Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw’r cwrs dŵr yn brif afon, cwrs dŵr cyffredin, neu ran o Ardal Draenio Mewnol.

Cyrsiau dŵr llanwol

Edrychwch i weld a oes arnoch angen trwydded forol cyn cynnal gwaith ar gwrs dŵr y mae’r llanw’n effeithio arno.

Caniatâd cynllunio

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a oes arnoch angen caniatâd cynllunio cyn cychwyn unrhyw waith.

Melinau a choredau

Mae melinau a choredau’n strwythurau sy’n gallu rheoli llifoedd a lefelau afonydd. Bydd arnoch angen trwydded cronni dŵr i roi argae mewn cwrs dŵr neu adeiladu cored.

Cysylltwch â'ch awdurdod rheoli risg os ydych am adeiladu cored, llifddor neu strwythur rheoli arall, neu os hoffech addasu strwythur sy'n bodoli eisoes.

Gwaith sy’n effeithio ar safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig

Rhaid i chi wneud cais am drwydded os ydych yn cynnal unrhyw weithgaredd sy’n effeithio ar rywogaeth warchodedig neu safle gwarchodedig.

Gollwng dŵr

Os ydych am ollwng i ddŵr wyneb (er enghraifft, afon, ffrwd, aber neu’r môr) neu i ddŵr daear (yn cynnwys trwy system ymdreiddio) efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Pysgota

Os ydych chi’n 13 oed neu’n hŷn, mae arnoch angen trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen i bysgota ar gyfer eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru. Mae’n bwysig edrych i weld beth yw eich hawliau, oherwydd gall hawliau pysgota gael eu gwerthu neu eu prydlesu.

 

Diweddarwyd ddiwethaf