Ein hymatebion i’n hymgynghoriadau ein hunain – 2021 i 2023

Ein hymateb i ymgynghoriadau ar ein cynlluniau ein hunain

Gallwch ofyn am ein hymateb i'n hymgynghoriadau ein hunain, fel y rhestrir isod.

Yn ôl y gyfraith, rhaid ymgynghori â CNC ar rai cynlluniau i sicrhau bod y cynlluniau’n ystyried effeithiau amgylcheddol yn gywir:

  • rydym yn gorff ymgynghori ar gyfer Asesu Amgylcheddol Strategol
  • rydym yn gorff cadwraeth natur priodol ar gyfer Asesu Rheoliadau Cynefinoedd

Rhaid inni ymateb i ymgynghoriadau ar gynlluniau perthnasol a gynhyrchwyd gan:

  • awdurdodau eraill (fel Cynlluniau Datblygu Lleol, neu Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru)
  • ein hunain (fel Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd neu Gynlluniau Adnoddau Coedwigoedd)

Mewn geiriau eraill, weithiau mae'n rhaid i ni ymgynghori â'n hunain yn ffurfiol pan fyddwn yn datblygu ein cynlluniau ein hunain.

Tryloywder a gwrthrychedd

Rydym yn trin ymgynghoriadau ar ein cynlluniau ein hunain gyda'r un graddau o wrthrychedd a thrylwyredd ag yr ydym wrth ymgynghori ar waith sefydliadau eraill. Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • wahaniad swyddogaethol
  • tryloywder

Mae ein Tîm Asesu Strategol yn rhoi gwahaniad swyddogaethol i ni. Mae'r tîm mewn cyfarwyddiaeth ar wahân i'r sawl sy'n llunio ac yn cymeradwyo'r cynllun, ac felly mae ganddo ymreolaeth wirioneddol.

Rydym yn sicrhau tryloywder trwy restru ein hymatebion i ymgynghoriadau ar ein cynlluniau ein hunain ar y dudalen hon, a thrwy sicrhau bod yr ymatebion ar gael ar gais. Mae hyn yn sicrhau bod ein datgysylltiad a'n gwrthrychedd yn dryloyw ac yn agored i graffu.

Gofyn am ein hymatebion i'n hymgynghoriadau ein hunain

I gael copïau o unrhyw un o’r ymatebion hyn, cysylltwch â strategic.assessment@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Mae'r ymatebion isod gan y Tîm Asesu Strategol i ymgynghoriadau CNC ynghylch

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd
  • Asesiadau Amgylcheddol Strategol

 Ysrifennwyd yr ymatebion hyn i ymgynghoriadau rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2023. Mae union ddyddiad ein llythyr ymateb i'w weld mewn cromfachau.

Coedwigaeth

Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd - ymgynghoriadau ar Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd

Mae Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd yn gynlluniau rheoli hirdymor sy’n nodi sut y byddwn yn rheoli Ystad Coetir Llywodraeth Cymru mewn ardal leol am y 10 mlynedd nesaf. Mae'r buddion yn cynnwys darparu ffynhonnell gynaliadwy o bren lleol, lleoedd i bobl fwynhau cynefinoedd a thirweddau amrywiol, cefnogaeth i fywyd gwyllt brodorol, hwb i fioamrywiaeth, a rheoleiddio ansawdd a llif dŵr.

Gogledd Cymru:

  • Abergele (9.3.23)
  • Aberhirnant a Llangywer (24.5.21)
  • Bethesda ac Abergwyngregyn (16.7.21)
  • Clocaenog (15.9.22)
  • Eryri (16.7.21)
  • Ffestiniog (17.9.21)
  • Hirnant (11.6.21)
  • Llanfor a Chelyn (2.6.21)
  • Llangollen (30.7.21)
  • Pentraeth a Chefni (10.1.22)
  • Rhydymain (13.7.22)

Canolbarth Cymru:

  • Brechfa (1.3.23)
  • Coed Sarnau (15.9.22)
  • Dyfi (7.3.22)
  • Dyfnant (7.5.21)
  • Hafren (24.5.21)
  • Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin (8.12.22)
  • Machynlleth (31.10.22)
  • Llanandras (15.9.22)
  • Cwm Ystwyth (28.2.22)

De Cymru:

  • Dwyrain Bannau Brycheiniog (6.5.21)
  • Carno (2.2.23)
  • Crychan (24.3.23)
  • Cwm Carn (29.7.21)
  • Garw a Chwm Ogwr (13.5.22)
  • Blaenau'r Cymoedd (23.11.22)
  • Cwm Rhondda Isaf (21.3.22)
  • Cwm Tawe Isaf (16.3.21)
  • Taf Isaf a'r Fro (19.12.22)
  • Mynydd Du a Llanddewi Nant Hodni (26.3.21)
  • Pen y Cymoedd (28.7.21)
  • Brynbuga a Glasfynydd (15.9.22)
  • De Dyffryn Gwy (23.11.22)

Cynlluniau Dylunio Coedwigoedd - diwygiad Ymgynghoriadau Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd

Roedd Cynlluniau Dylunio Coedwigoedd oedd ar waith cyn y Cynlluniau Adnoddau Coedwig, a ddefnyddiwn i reoli Ystad Coetir Llywodraeth Cymru.  Wrth iddynt ddod i ben rydym yn eu disodli gyda Chynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ond mae nifer o Gynlluniau Dylunio Coedwigoedd yn parhau i fod yn gyfredol.

Os bydd angen i ni wneud rhywfaint o waith rheoli coedwigoedd na ragwelwyd ac sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Dylunio Coedwig gwreiddiol, mae angen i gynlluniwr coedwig ddisgrifio’r gweithgareddau newydd mewn diwygiad i’r Cynllun Dylunio Coedwig

  • Mynyddoedd y Cambria (7.4.21)
  • Rhydymain (19.3.21)

Defnyddio plaladdwyr

Mae hon yn rhaglen flynyddol o blannu coed conwydd sy'n cael eu trin ymlaen llaw â phlaladdwr. Lle bo angen, ychwanegir mwy o blaladdwr i'r conifferau er mwyn rheoli gwiddon pinwydd a/neu chwilod.

  • Defnyddio acetamiprid a choed sydd wedi'u trin ymlaen llaw ag acetamiprid, ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru 2021-2022 (29.3.21)
  • Defnyddio acetamiprid a choed sydd wedi'u trin ymlaen llaw ag acetamiprid, ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru 2022-23 (20.7.22)

Dŵr

Cynlluniau Rheoli Basn Afon

Sut y bydd sefydliadau, rhanddeiliaid a chymunedau yn cydweithio i wella'r amgylchedd dŵr dros y 6 blynedd nesaf. 

  • Ymgynghoriad ar Benderfyniad Sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Lloegr (11.5.21) (mae hyn yn cynnwys dalgylch Hafren, y mae rhan ohono yng Nghymru.)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd drafft o Gynlluniau Rheoli Basn Afon Hafren (22.9.22)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd drafft o ffurfiau drafft Cynllun Rheoli Basn Afonydd Gorllewin Cymru a Chynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy y trydydd cylch (9.4.21)
  • Penderfyniad drafft ar sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol Cynlluniau Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru (23.3.21)
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Cynlluniau Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru a Dyfrdwy (14.4.22)

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Rheoli’r risg o lifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr ar draws Cymru gyfan.

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd drafft Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd Dyfrdwy (5.8.22)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd drafft Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd Hafren (5.8.22)

Pysgodfeydd

Is-ddeddfau

Pennu'r tymhorau a'r rheolau dal a rhyddhau ar gyfer pysgota â gwialen am eogiaid a brithyllod ar lannau afon Gwy ac afon Wysg o 2022-2029.

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Is-ddeddfau Gwialen a Lein Afon Gwy (Eogiaid a Brithyllod y Môr) (Cymru) 2021, ac Is-ddeddfau Gwialen a Lein Afon Wysg (Eogiaid a Brithyllod y Môr) (Cymru) 2021 (31.8.21)

Trwydded pysgodfeydd treftadaeth

Cais blynyddol i drwyddedu pysgodfa rhwydi gafl draddodiadol ar gyfer eogiaid ym mhysgodfa'r Garreg Ddu ar aber Hafren.

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Cymdeithas Pysgodfeydd Rhwydi Gafl y Garreg Ddu 2020 (27.4.20)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Cymdeithas Pysgodfeydd Rhwydi Gafl y Garreg Ddu 2021 (30.7.21)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Cymdeithas Pysgodfeydd Rhwydi Gafl y Garreg Ddu 2022 (7.4.22)

Trwyddedau rhwydi (Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi Cymru Gyfan)

Dyraniad blynyddol o drwyddedau rhwydi eogiaid a brithyllod y môr

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd o ddyraniad blynyddol trwyddedau rhwydi eogiaid a brithyllod y môr mewn pysgodfeydd a gwmpesir gan Orchymyn Cyfyngu ar Rwydi Cymru Gyfan 2021 (16.4.21)
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o’r dyraniad blynyddol o drwyddedau rhwydi eogiaid a brithyllod y môr mewn pysgodfeydd a gwmpesir gan Orchymyn Cyfyngu ar Rwydi Cymru Gyfan (NLO) 2022 (23.3.22)

Ymatebion i ymgynghoriadau eraill

Gwaith ffensio, plannu coed a sianeli mewn afonydd i wella amodau ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir er mwyn adfer bioamrywiaeth yn afon Dyfrdwy.

  • Prosiect LIFE afon Dyfrdwy (15.3.21)

Rheoli ac adfer coetir Ardal Cadwraeth Arbennig a'r coetir amgylchynol yng ngogledd Ceredigion. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy gael gwared ar rywogaethau anfrodorol fel llarwydd, conifferau eraill a ffawydd, er budd bioamrywiaeth arbennig y safle.

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd prosiect LIFE Coedwig Law Geltaidd (12.7.21)

Ffensys i greu lleiniau clustogi a chynefin coridor glan nant. Bydd hyn yn gwella amodau ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir gan gynnwys misglen berlog yr afon. Mae hyn yn rhan o brosiect adfer afonydd mawr a ariennir gan yr UE.

  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ffens goed Prosiect 4 Afon LIFE (21.2.23)
Diweddarwyd ddiwethaf