Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwaith ar gwlfer lleddfu llifogydd a leolir ar arglawdd Whitebarn yn Nhrefriw, Conwy (cyfeirnod grid: SH78483 63549). Mae’r arglawdd wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys uwchraddio’r cwlfer a mynediad gweithredol gwell at fflap yr ollyngfa.

Mae CNC o'r farn na fydd y gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Er na chynigir datganiad amgylcheddol, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n ymarferol.

Gellir gweld dyluniad y cynllun yn Swyddfa Gwydyr Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwydyr Uchaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0PN, rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Iau.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig anfon y rhain, yn ysgrifenedig, at y cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod wedi dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Andrew Owen Basford
Cyflawni Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
Sir y Fflint
CH7 3AJ

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: andrew.basford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk