Cyflwyniad i Datganiad Ardal Canolbarth Cymru
Llun gan Peter Lewis
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Mae’n ffaith hysbys bod coetiroedd a choed yn darparu nifer o fuddiannau i gymdeithas. Maent yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd, darparu incwm a swyddi o bren a gweithgareddau eraill, storio carbon, lleihau’r risg o lifogydd, diogelu priddoedd, gwella ansawdd aer, lleihau sŵn a hyd yn oed rheoleiddio plâu a chlefydau. Mae ganddynt gyfraniad pwysig gyda pheillio, ailgylchu maethynnau, ffurfio priddoedd, ailgylchu dŵr a chynhyrchu ocsigen, pob un ohonynt yn hollbwysig er mwyn cefnogi ecosystemau a bywyd dynol. Mae astudiaethau wedi dangos hefyd bod cysylltiadau cadarnhaol sylweddol rhwng lles meddyliol a chorfforol a choed a mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol.
Llun gan Carol Owen
Yma yng Nghanolbarth Cymru, mae gennym gymysgedd amrywiol o adnoddau coetir a choedwigoedd gan gynnwys coedwigoedd conwydd ucheldir ar raddfa fawr, coetiroedd a lleiniau cysgodi brodorol, bach, gwasgaredig, coetiroedd ystadau, porfa coetir a chynefinoedd parcdir. Mae Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymestyn dros 50,000 hectar o dir y mae’r cyhoedd yn berchen arno (mae 85% ohono wedi’i ddynodi fel tir mynediad agored), gan wneud cyfraniad gwerthfawr i’n hamgylchedd, economi, iechyd a lles cymdeithasol. Yng Nghanolbarth Cymru mae gennym y daliad coedwig â’r cynhyrchiant uchaf yng Nghymru, sy’n darparu 350,000 o fetrau ciwbig o bren bob blwyddyn i ddiwydiant prosesu pren Cymru (gyda bron i 40% o’r pren ardystiedig yn deillio o’r Ystâd Goed). Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi wledig, gan gefnogi nifer o gwmnïau prosesu pren. Mae'r coedwigoedd hyn yng Nghanolbarth Cymru yn tyfu'n flynyddol, ac yn sicrhau y bydd adnodd coedwigaeth cynaliadwy yn parhau i fod gennym yn y dyfodol.
Mae Canolbarth Cymru yn adnabyddus hefyd am ei hucheldiroedd rhostir anghysbell. Yn ystod yr 20fed ganrif cafodd coedwigoedd eu plannu arnynt ar raddfa fawr, gyda llawer ohonynt yn cael eu plannu ar ardaloedd o fawn dwfn, gan ddifrodi cynefinoedd yr ucheldiroedd yn anfwriadol.
Mewn rhan arall o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth Cymru mae Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth, atyniad poblogaidd gyda llwybrau cerdded, llwybrau beiciau mynydd a gweithgareddau awyr agored i’r teulu, heb sôn am yr olygfa anhygoel bob prynhawn pan fydd y barcutiaid yn dod i gael eu bwydo. Y rhywogaethau mwyaf niferus yng nghoedwigoedd yr Ystâd Goed yw pefrwydd Sitka, ffynidwydden Douglas, y llarwydden a’r binwydden, yn ogystal â nifer gynyddol o coedwigoedd llydanddail a chymysg brodorol ar dir is.
Er gwaethaf yr adnodd coedwigaeth cyfoethog yng Nghanolbarth Cymru, fel gwlad rydym yn parhau i fewnforio 63% o bren meddal a 94% o bren caled. Mae’r rhagolygon am gynhyrchu pren yng Nghymru yn y dyfodol yn dangos gostyngiad yn y lefelau presennol os na fyddwn yn defnyddio mwy o ardaloedd ac yn cynyddu ein gorchudd coetir. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r coed sydd wedi’u cwympo oherwydd clefydau coed wedi effeithio ar y tirlun coedwigoedd, er mewn rhai lleoliadau mae coedwigoedd conwydd wedi’u disodli gan goed llydanddail, gan wella’r amgylchedd. Yn anffodus, bydd clefydau coed megis clefyd (Chalara) coed ynn yn cael effaith arwyddocaol ar y rhywogaethau bywyd gwyllt niferus sy’n gysylltiedig â choetir coed ynn.
Llun gan Ian Medcalf
Mae cynefinoedd wedi’u colli a choetiroedd brodorol wedi’u darnio yng Nghanolbarth Cymru ers mwy na 1,000 o flynyddoedd, yn bennaf o ganlyniad i glirio tir ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol. Mae rheoli ardaloedd pori yn fater pwysig yn llawer o’r coetiroedd, yn benodol yn y coedwigoedd derw ar yr ucheldir. Mae 60% o’r ardal coetiroedd brodorol yng Nghanolbarth Cymru, sy’n cael ei hystyried gan rai fel ‘fforest law Cymru’, yn cynnwys coedwigoedd derw ar yr ucheldir, sy’n cael eu cydnabod am eu bioamrywiaeth a’u gwerth diwylliannol uchel. Fodd bynnag, mae cyfuniad o ail-dyfu yn dilyn gwaith helaeth o glirio a chwympo coed mewn cyfnodau o ryfel yn yr 20fed ganrif a thoriad mewn dulliau rheoli traddodiadol, wedi golygu bod llawer o’r coetiroedd mewn cyflwr gwael gyda diffyg amrywiaeth strwythurol, ac mae’r holl goed yn y coetir o oedran cyfartal.
Mae llygredd hefyd yn effeithio ar goetiroedd, a ffactor arwyddocaol yw dyddodiad nitrogen o ffynonellau lleol ac anghysbell, er enghraifft y diwydiant amaethyddiaeth a diwydiant trwm. Mae’r coedwigoedd derw ar yr ucheldir, gyda’u hamrywiaeth eang o is-blanhigion yn agored iawn i effeithiau dyddodiad nitrogen.
Mae’n anochel y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar goetiroedd Cymru yn y dyfodol, a rhagwelir y bydd cynnydd tebygol mewn plâu a chlefydau. Gallai hinsawdd fwy cynnes a sych mewn rhai ardaloedd effeithio ar rywogaethau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys pefrwydd Sitka, ond hefyd y cyfleoedd presennol i blannu rhywogaethau gyda chynhyrchiant uchel, fel ffynidwydden Douglas yn yr ucheldiroedd.
Er na ellir dadlau nad pefrwydd Sitka yw un o’r cnydau coedwigaeth pwysicaf yn economaidd yng Nghymru (ac mae’r adfywio naturiol fod o fudd i’r diwydiant coedwigaeth), gall hunan-hadu y tu hwnt i ffiniau coedwigoedd gael effaith niweidiol ar y cynefinoedd ucheldir agored a’r safleoedd gwarchodedig cyfagos.
Y prif feysydd dan sylw yn y thema hon yw:
Dylai’r meysydd ffocws hyn fod yn fannau cychwyn er mwyn i ni allu sefydlu rhaglenni gwaith, prosiectau allanol a meithrin dulliau cydweithredu gwell rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn agored i ymgorffori unrhyw faterion neu ffyrdd newydd o weithio sy’n dod i’r amlwg yn y Datganiad Ardal.
Mae coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda yn cyfrannu’n sylweddol at gysylltu cynefinoedd ar draws tirlun Canolbarth Cymru. Mae'r ystâd goed a choetiroedd yn helaeth. Felly, maent yn darparu cyfleoedd delfrydol i weithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr, grwpiau cadwraeth a’r diwydiant coedwigaeth er mwyn gwella cynefinoedd naturiol, rheoli adnoddau pren yn gynaliadwy a hyrwyddo buddiannau iechyd a hamdden a mynediad i gymunedau.
Yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac wedi clywed eu straeon a'u profiad uniongyrchol o greu coedwigaeth ar raddfa fawr yn y gorffennol, sgiliau coedwigaeth sy’n rhedeg mewn teuluoedd, a bygythiadau’r presennol a’r dyfodol. Rydym hefyd wedi clywed sut y gall tirfeddianwyr, drwy weithio gyda’i gilydd, elwa ar yr angen am fwy o orchudd coed, ar yr amod bod y mater yn cael ei drin a’i drafod o ongl wahanol.
Mae'r Datganiad Ardal yn paratoi’r seiliau ar gyfer mabwysiadu’r dulliau gweithredu newydd canlynol:
Yn seiliedig ar ystod o wybodaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), sylfaen dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gwybodaeth o Gynlluniau Llesiant Powys a Cheredigion, gwybodaeth leol arbenigol a blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fe wnaethom gymryd hanfodion sylfaenol yr hyn yr oeddem ni’n credu yw’r prif faterion ar gyfer Canolbarth Cymru a gadael i’n rhanddeiliaid ddweud wrthym a oeddem wedi llwyddo, yn ystod ein gweithdai ymgysylltu allanol. Dim ond dechrau ein gwaith ymgysylltu yw’r gweithdai hyn. Fodd bynnag, mae’r sgwrs yn parhau wrth i’r broses Datganiad Ardal esblygu drwy gydweithrediad a sefydlu rhwydweithiau lleol.
Bu cyfanswm o fwy na 125 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yn y ddau weithdy, o amrywiaeth eang o gefndiroedd a diddordebau.
Fe wnaethom ddadansoddi’r hyn a ddywedodd rhanddeiliaid a phartneriaid wrthym yn ystod y digwyddiadau hyn, a gwrando ar yr hyn yr oeddynt hwy’n ei gredu yw’r prif faterion yng Nghanolbarth Cymru. Mewn rhai o’r digwyddiadau, roedd yn amlwg na fyddai’n hawdd sicrhau consensws. Roedd y trafodaethau hyn aml yn fywiog ac angerddol, ac nid oedd digon o amser i fynd i’r afael yn effeithiol â rhai o’r materion mwy. Rydym yn ymwybodol o hyn a byddwn yn gweithio i ddatrys hyn wrth i’n hymgysylltiad barhau.
Er bod llawer o sectorau yn cael eu cynrychioli, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol bod angen i ni ehangu apêl y Datganiadau Ardal y tu hwnt i’r cyfranogwyr arferol. Mae’n rhaid cynnwys cymunedau a’r sectorau y tu hwnt i’r sector amgylcheddol. Rydym bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau, ac rydym wrthi’n ystyried y ffordd orau i wneud hynny er mwyn manteisio r y cyfleoedd sydd wedi’u trafod hyd yma. Yn y dyfodol byddwn yn annog ac yn cefnogi’r cymunedau hyn i ddod at ei gilydd i helpu i lunio a chyflawni’r Datganiad Ardal, a hynny er budd i bawb.
Mae’n amlwg iawn, wrth ystyried ein hymgysylltiad hyd yma a’r adborth rydym wedi’i dderbyn, bod y Datganiad Ardal yn cynrychioli newid diwylliant. Mae pawb, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn mynd i orfod addasu i’r ffordd newydd hon o weithio. Mae’n her, ond yn un y mae angen i bob un ohonom ei mabwysiadu er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn eu helpu i ddeall pam eu bod wedi’u gwahodd i fod yn rhan o’r broses Datganiad Ardal, yn ogystal â’r hyn mae’n ei olygu iddynt hwy. Ar ôl cwblhau cam dau ein hymgysylltiad yn Ionawr 2020, y cam nesaf yw sefydlu a gweithredu rhai o’r camau gweithredu y gellir eu cyflawni yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n debygol y bydd syniadau a chyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg wrth i’r sgwrs esblygu.
Y ffocws nesaf bydd cynllunio rhai cyfarfodydd ‘grŵp cyfoedion’ ar gyfer y gwanwyn yn 2020 gyda phobl allweddol yng Nghanolbarth Cymru. Rydym yn awyddus i annog y rhai sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithdai ymgysylltu blaenorol i rannu eu safbwyntiau ar thema ardal benodol. Bydd hyn yn ein helpu i drafod gyda hwy sut y gallwn ddechrau cynllunio i gyflawni gyda’n gilydd yr hyn mae ein Datganiad Ardal yn datgan yr ydym eisiau ei gyflawni.
Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan os oes gennych brosiect neu syniad da ar gyfer prosiect! Rydym yn disgwyl i gyfleoedd pellach ddod i’r amlwg wrth i’r broses ymgysylltu barhau.
Mae angen dathlu arfer da a dysgu ohono. Gellir gweld hyn eisoes ar draws Canolbarth Cymru yn y gwaith sy’n cael ei arwain gan randdeiliaid. Wrth symud ymlaen, mae’r Datganiad Ardal yn gofyn i ni rannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a cheisio canfod ffyrdd arloesol i fynd i’r afael â heriau. Rydym eisoes wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gall prosiectau sy’n dilyn llwybrau tebyg uno a chydweithio. Rydym eisiau annog rhanddeiliaid nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol, i ddod at ei gilydd ac archwilio’r posibiliadau i gyflawni canlyniadau gwell drwy gydweithio.
Wrth gwrs, bydd y sgyrsiau yn parhau wrth i gamau nesaf y Datganiad Ardal gael eu sefydlu, gyda digwyddiadau pellach wedi’u teilwra i themâu penodol.
Y cyfleoedd posibl sydd wedi’u nodi sy’n gysylltiedig â’r thema hon yw:
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn defnyddio tystiolaeth i asesu adnoddau naturiol Cymru ac mae’n mesur pa mor llwyddiannus mae’r rhain yn cael eu rheoli. Mae Datganiadau Ardal yn rhan allweddol o’r dull rheoli hwn, sy’n ein galluogi i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth a rennir. Yna gellir cau’r bylchau yn y dystiolaeth honno drwy gydweithio, gan ddefnyddio data sydd ar gael i ddatblygu amcanion pob thema.
Egwyddorion sylfaenol yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, yn eu hanfod, yw elfennau hanfodol y broses Datganiad Ardal. Drwy siarad gyda rhanddeiliaid, rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i nodi’r themâu sy’n wirioneddol adlewyrchu’r materion yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r sgyrsiau hynny wedi ein helpu i ddeall yn well y materion a’r pwysau rydym yn eu hwynebu. Rydym yn gobeithio y bydd y dull gweithredu hwn yn cynrychioli ffordd newydd o weithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan symud oddi wrth ymgynghoriad a thuag at gydweithrediad. Gall fod yn daith anghyfarwydd i rai, yn arbennig ar y dechrau, ond o gofio’r hyn sydd yn y fantol, mae’n daith angenrheidiol.
Un ffordd o gael gwybodaeth bellach fydd drwy ein tudalen Facebook, sy’n cynnwys newyddion a datblygiadau ynghylch Datganiad Ardal Canolbarth Cymru. Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i fod yn grŵp ‘preifat’ ar hyn o bryd, ond rydym yn annog pobl i sôn amdano gyda’u cydweithwyr a’u cysylltiadau a allai fod â diddordeb. Er mwyn ymuno â’r grŵp, a sicrhau bod y cynnwys yn cael ei gadw’n berthnasol i’r Datganiad Ardal, gofynnir tri chwestiwn syml i chi.
Os hoffech wybod mwy am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru, neu i ymuno â’n rhestr bostio, anfonwch e-bost atom yn mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.
Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Canolbarth Cymru (PDF)