Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Cysylltwch â ni


neu ffoniwch 0300 065 3000 24 awr o'r diwrnod

Croesewir galwadau yn Gymraeg neu Saesneg

Beth mae angen i ni wybod

Er mwyn i ni allu ymateb i’ch gwybodaeth cyn gynted ag sy’n bosib, bydd angen i chi roi’r manylion hyn:

  • Ble mae rhywbeth yn digwydd / wedi digwydd? Os yw’n bosib, rhowch y cyfeirnod grid, er enghraifft, NT 252 735. Fel arall, rhowch gyfarwyddiadau / disgrifiadau manwl o’r lleoliad
  • Beth sy’n digwydd? / Beth sydd wedi digwydd?
  • Pwy sydd/oedd yn gyfrifol am y digwyddiad?
  • Pryd mae hyn wedi digwydd?

Digwyddiadau rydym ni’n ymdrin â nhw

Digwyddiadau NAD YDYM yn ymdrin â nhw

Os byddwch yn gweld unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, rhowch wybod i'ch awdurdod lleol neu chwmni cyfleustodau.

  • nwy yn gollwng
  • peipen ddŵr wedi byrstio
  • arogl, lliw neu flas gwahanol i’r arfer ar ddŵr yfed
  • llifogydd o ganlyniad i beipen ddŵr mewn tŷ wedi byrstio neu lifogydd o ddraeniau ffyrdd
  • tipio sbwriel cartref neu ychydig o wastraff masnachol yn anghyfreithlon
  • niwsans sŵn domestig
  • aroglau o eiddo domestig neu fasnachol bach
  • Llosgi gwastraff domestig neu wastraff gardd
  • plâu domestig
  • allyriadau mwg o gerbydau
  • cynnal ffyrdd
  • toriadau mewn cyflenwadau trydan neu ddŵr
  • draeniau a charthffosydd domestig wedi blocio
  • anifeiliaid wedi marw

Sylwer: Os ydych yn gweld anifeiliaid marw peidiwch â rhoi gwybod i ni oni bai eu bod mewn prif afon ac yn debygol o achosi llifogydd neu lygredd. Dylech roi gwybod i ni os ydych wedi gweld dyfrgwn marw, neu anifeiliaid eraill a allai fod wedi marw o ganlyniad i lygredd.

Yn ystod llifogydd

Adroddwch am ddraeniau a gylïau wedi'u blocio

Os ydych chi'n poeni am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gylïau wedi’u blocio neu ddŵr yn rhedeg oddi ar gaeau, adroddwch hyn wrth eich awdurdod lleol. 

Adroddwch am afonydd wedi blocio a thirlithriadau

Os ydych chi'n poeni am afonydd sydd wedi'u blocio, tirlithriadau neu lifogydd o afonydd a'r môr, adroddwch hyn ar unwaith i'n llinell digwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000.

Rhowch wybod am broblemau gyda nwy, trydan neu garthffosiaeth

Os ydych chi'n poeni am ddŵr llifogydd sy'n effeithio ar eich gwasanaethau nwy, trydan, dŵr neu garthffosiaeth, ffoniwch eich cyflenwr.

Ar gyfer llifogydd carthffosydd, neu os yw'ch toiled neu sinc yn llenwi yn ystod llifogydd, ffoniwch eich cwmni dŵr lleol.

Rhywogaethau ymledol/estron

Os gwelwch rywogaethau ymledol / estron, ewch i wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron am fwy o wybodaeth ar sut i'w riportio.

Achosion o chwyn niweidiol (gan gynnwys llysiau’r gingroen)

Mae’r prif gyfrifoldeb dros reoli chwyn yn gorwedd gyda meddiannydd y tir lle y mae’r chwyn yn tyfu. Mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o broblemau chwyn posibl a chymryd camau’n ddi-oed. Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan chwyn niweidiol Llywodraeth Cymru.

Anifeiliaid o’r môr wedi'u tirio

Os byddwch yn dod o hyd i anifail o’r môr sydd wedi'i dirio, ewch i Wefan Rhaglen Ymchwil y Deyrnas Unedig i Forfilod wedi Tirio i gael manylion ynglŷn â sut i roi gwybod am y digwyddiad.

Anifeiliaid wedi eu gwenwyno

Os ydych yn meddwl bod unrhyw anifail gwyllt, anifail fferm neu anifail anwes wedi marw mewn amgylchiadau amheus, rhowch wybod i’r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt drwy ffonio 0800 321600.

Costau galwadau

Mae mwy o fanylion am gostau galwadau i’w gweld ar wefan Gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf