Dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran asesiadau effaith Datganiadau Ardal

Asesiad Amgylcheddol Strategol


Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol yn broses sy'n sicrhau bod anghenion yr amgylchedd ehangach yn cael eu hystyried wrth greu cynlluniau. Mae'n rhaid ei gymhwyso at gynlluniau a rhaglenni penodol, gyda'r nod o leihau'r effeithiau anffafriol a chynyddu’r effeithiau buddiol ar yr amgylchedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod cyfrifol o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol), o'r farn bod Datganiadau Ardal yn dod o dan ddiffiniad ‘cynllun’ neu ‘raglen’, fel yr amlinellir yn Rheoliad 2(1). Mae'r gwaith o baratoi Datganiadau Ardal yn ofyniad deddfwriaethol ac yn ddyletswydd statudol, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd angen bod Cyfoeth Naturiol Cymru, felly, yn ystyried darpariaethau rheoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd


Rheoliadau Cynefinoedd yw'r enw cryno a roddir yn aml i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, sy'n trosglwyddo i gyfraith ddomestig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau 1992 y Gymuned Ewropeaidd a Chyfarwyddeb Adar Gwyllt 2009. Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ystyried effeithiau posibl cynllun neu brosiect ar Ardal Cadwraeth Arbennig neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, y’u gelwir ar y cyd yn ‘safleoedd Ewropeaidd’ neu ‘safleoedd Natura 2000’, wedi'u dynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd neu’r Gyfarwyddeb Adar i ddiogelu mathau o gynefinoedd a rhywogaethau o bwys Ewropeaidd. Fel mater o bolisi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae safleoedd a ddynodwyd o dan y confensiwn gwlyptiroedd rhyngwladol (safleoedd ‘Ramsar’) hefyd yn derbyn yr un mesurau diogelu â safleoedd Ewropeaidd, sy'n golygu bod angen cynnal Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ar eu cyfer. Er cysondeb, defnyddir y term ‘safle Natura 2000’ yn y ddogfen hon i gynnwys safleoedd Ewropeaidd a safleoedd Ramsar. Mae'n rhaid bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar bob Datganiad Ardal er mwyn nodi unrhyw effeithiau sylweddol, boed yn anffafriol neu fel arall, ar uniondeb safleoedd Natura 2000, a gellir ond mabwysiadu neu weithredu'r Datganiad Ardal ble mae'r effeithiau hyn wedi'u hosgoi.

Asesiad Effaith ar Iechyd


Mae Asesiad Effaith ar Iechyd yn werthusiad o effaith debygol, dros y tymor byr a’r tymor hir, cam gweithredu neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol a meddyliol pawb yng Nghymru neu gyfran o’r bobl. Mae rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru greu rheoliadau sy'n gofyn i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau Effaith ar Iechyd. Bydd y rheoliadau yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yn 2021. Mae'r arwyddion yn dangos y gallai'r rheoliadau hyn wneud Asesiadau Effaith ar Iechyd yn orfodol ar gyfer polisïau, cynlluniau neu raglenni penodol (e.e. Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol, ceisiadau cynllunio penodol ar raddfa fawr, deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, rhai cynlluniau statudol megis Cynlluniau Llesiant Lleol, a Datganiadau Ardal). Fodd bynnag, dylid ystyried Asesiadau Effaith ar Iechyd fel arfer gorau wrth ddatblygu pob rhaglen a phrosiect. I baratoi ar gyfer y ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus, mae polisi a chanllawiau gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Asesiadau Effaith ar Iechyd yn cael eu datblygu. Bydd Asesiadau Effaith ar Iechyd ar gyfer Datganiadau Ardal yn cael eu hadolygu'n barhaus yn ystod y broses hon.

Sgrinio Datganiadau Ardal


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn sgrinio'r broses Datganiadau Ardal yn drylwyr o dan y Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Rheoliadau Cynefinoedd. Fel y nodwyd eisoes, rydym o'r farn bod Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol a Rheoliadau Cynefinoedd yn berthnasol i Ddatganiadau Ardal. Fodd bynnag, cafwyd cryn ansicrwydd o ran i ba raddau y byddant yn gosod y fframwaith ar gyfer rhoi caniatâd datblygu yn y dyfodol i brosiectau. Bydd gosod y fframwaith hwnnw yn dibynnu ar y graddau y bydd Datganiadau Ardal yn cynnwys meini prawf, amodau a/neu rheolau manwl a fydd yn cael eu defnyddio i arwain yr awdurdod sy'n rhoi caniatâd wrth benderfynu ar gais am ganiatâd i ddatblygu. Efallai mai'r awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yr awdurdod sy'n rhoi caniatâd. Caiff prosiect ei ddiffinio gan y rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol fel dull o gyflawni gwaith adeiladu neu osodiadau neu gynlluniau eraill, ymyriadau eraill yn yr amgylchedd naturiol a'r dirwedd gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag echdynnu adnoddau mwynol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, felly, yn parhau i sgrinio Datganiadau Ardal fel y maent yn cael eu datblygu.

Mae Datganiadau Ardal yn defnyddio dull seiliedig ar le o ran archwilio'r heriau a'r blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol. Mae'r dull hwn wedi'i gymeradwyo gan ein bwrdd busnes rheoli adnoddau naturiol mewnol. Mae ymgysylltu a chydweithredu wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddatblygu Datganiadau Ardal, er mwyn gallu deall achosion sylfaenol y materion sydd wrth law. Yn y cyd-destun hwn, gall pob ardal nodi camau gweithredu gwahanol sydd angen eu gweithredu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Gyda hynny mewn golwg, mae'n bosibl y gall fod angen Asesiad Amgylcheddol Strategol ar rai ac ni fydd ei angen ar eraill, neu eu bod yn cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol ar adegau gwahanol yn ôl sut maent yn datblygu. Mae'r gwaith o sgrinio ac integreiddio asesiadau effaith, felly, yn gofyn am ddull ymaddasol ble adolygir gwybodaeth a thystiolaeth yn barhaus. Wrth i bolisi a phroses yr Asesiad Effaith ar Iechyd gael eu datblygu, bydd y tîm iechyd yn croesawu ymgysylltu ar sgrinio Datganiadau Ardal o safbwynt Asesiad Effaith ar Iechyd maes o law.

Gweithredu Datganiadau Ardal


Mae Datganiadau Ardal yn cynnwys cyfres o themâu sy'n archwilio'r modd rydym yn gweithio gyda'n gilydd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd pob un o'r themâu hyn yn ceisio datblygu camau neu weithgareddau penodol, gennym ni a/neu drwy eraill. Gall y camau a’r gweithgareddau hyn arwain at ddatblygu prosiectau partneriaeth a mentrau, newid ein prosesau a'n sylfaen dystiolaeth, neu gyhoeddi canllawiau a chyngor sy'n llywio cynlluniau eraill a'r broses o wneud penderfyniadau. Wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, bydd angen i ni adolygu’n barhaus a ydym, wrth ei weithredu, yn gosod y fframwaith ar gyfer rhoi caniatâd datblygu yn y dyfodol i brosiectau.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i ni adolygu Datganiadau Ardal yn barhaus a gallwn eu diwygio ar unrhyw adeg. Efallai nad ydynt yn ‘gosod y fframwaith ar gyfer rhoi caniatâd datblygu yn y dyfodol i brosiectau’ yn eu ffurf ym mis Ebrill 2020, ond mae’n bosibl y byddant yn cynnig mwy o gyfarwyddyd fel a phryd y byddant yn esblygu, yn cael eu diwygio, neu eu hadolygu. Nid yw'r broses ar gyfer ymgymryd â diwygiad neu adolygiad a llywodraethu cysylltiedig o amgylch hyn wedi'i gadarnhau eto. Fodd bynnag, bydd yn sicrhau bod gwaith sgrinio ar gyfer pob un o'r asesiadau effaith a ddisgrifiwyd uchod yn cael ei ystyried ar yr adeg briodol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf