Cyfleoedd ar gyfer ecosystem wydn (gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r argyfwng ym myd natur)

Cyfleoedd ar gyfer ecosystem wydn

Yn y thema hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau gweithio gyda phobl Gogledd-orllewin Cymru i wella gwydnwch ein byd naturiol bregus a'n hecosystemau. Mae'n glir fod y cynefinoedd, planhigion ac anifeiliaid ar draws Gogledd-orllewin Cymru yn wynebu bygythiadau niferus. Mae'r dirywiad byd-eang rydym yn ei weld yn cael ei adlewyrchu'n lleol. Rydym yn profi argyfwng ym myd natur (bioamrywiaeth) ar hyn o bryd ac mae'n hanfodol fod gennym ecosystemau gwydn i gefnogi rhywogaethau a chynefinoedd.

Yng Ngogledd-orllewin Cymru, rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o'r hyn a olygir yn union gan wydnwch ecosystemau ar gyfer yr ardal, yn enwedig yng nghyd-destun Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, a sut rydym yn sicrhau bod ecosystemau yn gallu darparu buddion ar ein cyfer nawr a bodloni gofynion cenedlaethau'r dyfodol. Mae mapiau cynefinoedd o Arolwg Cynefinoedd Cymru (2005) a mapiau Cysylltedd Ecolegol yng Nghymru (2006) yn gosod sylfaen dda y gellir adeiladu ohoni ar gyfer y thema hon.

Mae'r thema hon yn cysylltu'n agos â Natur Hanfodol, llyw strategol ar gyfer bioamrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae nifer o ardaloedd yng Ngogledd-orllewin Cymru wedi'u dynodi o ganlyniad i bwysigrwydd y dirwedd neu gadwraeth, gan adlewyrchu gwerth yr amgylchedd naturiol. Fel y cyfryw, mae 26% o Ogledd-orllewin Cymru wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur. Gall dynodiadau amrywio o safleoedd lleol (nad ydynt wedi'u dynodi) a gwarchodfeydd natur lleol, i ddynodiadau statudol cenedlaethol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), i ddynodiadau Ewropeaidd fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), ac i ddynodiadau rhyngwladol fel gwlyptiroedd sy’n safleoedd Ramsar.

Fodd bynnag, un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu’r amgylchedd naturiol yw darnio cynefinoedd. Mae hyn oherwydd defnydd tir dwys a datblygiad sydd wedi rhannu cynefinoedd bywyd gwyllt yn lleiniau ynysig llai. Mae angen lleiafswm arwynebedd cynefin ar bob rhywogaeth er mwyn goroesi, a phan fydd lleiniau sy'n weddill yn llai na'r meintiau hanfodol hyn, ceir perygl y bydd rhywogaethau’n diflannu ar lefel leol neu genedlaethol hyd yn oed. Yn ogystal, mae ynysu darnau o gynefinoedd yn amharu ar brosesau naturiol gan ei gwneud yn anodd i rywogaethau symud o gwmpas. Gyda hyn mewn golwg, mae angen i ni feddwl ar raddfa tirwedd er mwyn mynd i'r afael â darnio cynefinoedd a gwella cysylltedd ecolegol.

Fel rhan o'r thema hon, mae'n bwysig ystyried yr ystod eang o ddeddfwriaethau Prydeinig ac Ewropeaidd sydd ar waith i ddiogelu cynefinoedd daearol a dyfrol fel y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (sy'n diogelu amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid y Deyrnas Unedig) a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr – sy'n blaenoriaethu dull seiliedig ar ddalgylch wrth fynd i'r afael â phwysau sylweddol ar yr amgylchedd dŵr.

Trwy gydweithredu, gallwn reoli ardaloedd presennol yn well, gan leihau darnio cynefinoedd. Mae arnom angen camau gweithredu cydweithredol i warchod a gwella amrywiaeth a gwydnwch ein hecosystemau a safleoedd dynodedig yng Ngogledd-orllewin Cymru, fel eu bod yn gallu parhau i ddarparu'r adnoddau naturiol a bioamrywiaeth hanfodol rydym oll yn dibynnu arnynt heddiw ac y byddwn yn dibynnu arnynt yn y dyfodol.

Mae amrywiaeth rhywogaethau cefn gwlad ehangach a safleoedd arbennig yn dibynnu ar ei gilydd yn yr un modd â’r bobl sy'n byw a gweithio yno. Rydym i gyd yn dibynnu ar yr un adnoddau naturiol. Mae angen i ni wella cysylltedd ar y cyd fel rhan o reolaeth tirwedd a thirwedd dŵr ehangach. Mae hefyd angen i ni wella ansawdd a defnydd o ddatrysiadau arloesol, seiliedig ar natur ar gyfer rheoli tir a dŵr, gan ystyried gwersi a ddysgwyd o Raglen Tirweddau’r Dyfodol Cymru.

Felly, mae angen i ni ystyried yr arferion rheoli presennol, adferiad cynefinoedd presennol sydd wedi dirywio, creu cynefinoedd newydd (gan gynnwys coetiroedd) a gwaith i ymchwilio i ddefnydd eang o goed fel rhan o ddatrysiad naturiol i reoli dŵr.

Mae angen i ni hefyd barhau i wella bioamrywiaeth, gan gynnwys iechyd planhigion a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol. 

 

Cynefinoedd cymysg Dyffryn Conwy

Pam y thema hon?

Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 a sesiwn ar gyfer staff. Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, roedd hi’n glir bod cefnogaeth ymysg rhanddeiliaid ar gyfer ecosystem wydn. Dychwelwyd y themâu a ddatblygwyd i'r rhanddeiliaid ar gyfer eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn y Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal ac yn y Thema Ffyrdd o Weithio.

Er mwyn llywio'r thema hon, rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a gafodd eu hwyluso yn annibynnol ar draws Gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol, Cyflenwi Atebion sy'n Seiliedig ar Natur, Cynyddu Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Adnoddau, a Defnyddio Dull Seiliedig ar Le

  • Gwybodaeth gan yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ar ecosystemau a'u gwydnwch, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Chonwy a Sir Ddinbych

Cyfleoedd ar gyfer ecosystem wydn, ymysg rhanddeiliaid

Amlygodd rhanddeiliaid allanol yr angen i wneud y canlynol:

  • Defnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd ar gyfer rheoli'r ystod o wasanaethau ecosystemau er budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

  • Adfer ucheldiroedd a’u rheoli er mwyn creu buddion o ran bioamrywiaeth, carbon, dŵr, perygl llifogydd, ynni a hamdden

  • Gwella cysylltedd rhwng safleoedd dynodedig i gefnogi eu gwydnwch

  • Cynnal a gwella ecosystemau trwy frwydro yn erbyn colli bioamrywiaeth

Materion allweddol

  • Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod yr angen am fwy o fioamrywiaeth mewn coetiroedd, gan gynnwys ehangu coridorau o goetir a chynyddu gwydnwch trwy restr ehangach o goed ar gyfer eu plannu

  • Cafodd cynefinoedd blaenoriaeth eu nodi gan randdeiliaid fel a ganlyn: coetiroedd Gorllewin yr Iwerydd, gorgors, rhostir arfordirol, rhostir sych ucheldirol, ffridd, porfeydd ucheldirol ac arfordirol sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau

  • Cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gweithio gyda sefydliadau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, sefydliadau amgylcheddol, ffermwyr a rheolwyr tir wrth reoli cynefinoedd allweddol

  • Yr angen i ddeall yn well a dylanwadu ar drwyddedu datblygiadau sy'n cael effaith ar gysylltedd

  • Camau gweithredu sydd eu hangen i atal colli bioamrywiaeth, a sicrhau cynnydd mewn cynefinoedd bywyd gwyllt cynaliadwy, gan gynnwys cynefinoedd arfordirol mwy gwydn

  • Sicrhau bod y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol a bod posibilrwydd o'i ehangu

  • Cymryd camau gweithredu priodol i atal gwasgariad rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau

  • Yr angen am ddatrysiadau naturiol ar gyfer rheoli adnoddau dŵr

  • Yr angen i blannu mwy o goed er budd rhywogaethau cynhenid. Mae hyn yn cynnwys asesiad o rwystrau posibl

  • Monitro dŵr y môr drwy gydol y flwyddyn ac asesu effeithiau daearol ansawdd dŵr

  • Creu cyfleoedd ar gyfer creu cynefinoedd, ar yr arfordir yn benodol – er mwyn cynyddu gwydnwch, e.e. cynefin bridio cornicyllod i ffwrdd o warchodfeydd naturiol a chynefinoedd infertebratau ar yr arfordir. Nodwyd y gylfinir yn ogystal fel rhywogaeth bwysig

  • Sut i fynd i'r afael â llygredd er mwyn diogelu ansawdd dŵr croyw mewndirol, e.e. gwastraff amaethyddiaeth, domestig a masnachol

Mae crynodeb o broffil ardal gogledd-orllewin Cymru wedi'i amlinellu isod

  • Mae 58% o'r dirwedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn cael ei ystyried yn ucheldir, ac mae un rhan o dair yn dirweddau ucheldir/llwyfandir agored. Mewn cyferbyniad, mae 37% o'r ardal yn iseldir, gyda'r mwyafrif yn cynnwys ardaloedd arfordirol, fel Ynys Môn

  • Mae'r tirweddau dynodedig niferus yn adlewyrchu pwysigrwydd tirwedd o fewn yr ardal, y mae 47% ohoni o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, ac 8% pellach wedi'i ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Fel y cyfryw, mae 26% o dirweddau'r ardal wedi'u dynodi ar gyfer cadwraeth natur (e.e. SoDdGA, AGA, ACA, Ramsar, Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Gwarchodfa Natur Leol), ac mae 34% o ardaloedd arfordirol wedi'u dynodi fel Arfordir Treftadaeth

  • Mae erydu arfordirol, llifogydd mewn ardaloedd arfordirol isel a morfeydd, a phwysau hamdden ar dwyni tywod yn bwysau sylweddol ar dirweddau arfordirol a morweddau. Ceir pwysau ychwanegol gan amddiffynfeydd arfordirol gwneud mewn rhai ardaloedd (e.e. i'r gogledd o Abermo). Fodd bynnag, cafwyd rheolaeth tirwedd bositif gan bartneriaethau mewn ardaloedd ucheldirol ac arfordirol (e.e. Migneint a’r Carneddau)

  • Er y gwelliannau, mae llawer o wasanaethau ecosystemau yn parhau i ddirywio neu y maent wedi dangos bach iawn o welliant. Wedi'u hasesu ar draws amrediad eang o fathau o gynefin daearol a dyfrol, mae oddeutu 30% o wasanaethau yn dirywio ar hyn o bryd ac mae eraill mewn cyflwr diraddiedig neu sydd wedi lleihau. Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar wybodaeth sydd wedi'i chyfuno o benodau ar wasanaethau cynefinoedd ac ecosystemau Adroddiad Technegol Asiantaeth yr Amgylchedd y Deyrnas Unedig. Mae'r ffigur hwn yn cynrychioli trosolwg ar draws y DU ac mae'n amrywio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Felly y bydd hefyd yn cynnwys lefel o ansicrwydd yn anochel

  • Mae Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (UK NEA) wedi categoreiddio'r DU gyfan yn ôl wyth ecosystem neu gynefin bras, er mwyn creu fframwaith seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ein hadnoddau naturiol. Darparodd yr wyth cynefin bras hyn y sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Mae'r wyth categori o ecosystemau'n cwmpasu Cymru yn ei chyfanrwydd ac maent yn ein galluogi i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar le ar gyfer casglu gwybodaeth ar yr adnoddau naturiol a'r buddion ecosystem a geir ymhob ardal, gan gymharu'r canlyniadau yn erbyn ffigurau cyfartalog y DU

Ecosystemau neu gynefinoedd bras:

  • Mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd

  • Glaswelltir lled-naturiol

  • Coetir (planhigfeydd a lled-naturiol)

  • Dŵr croyw

  • Ffiniau arfordirol

  • Morol

  • Tir fferm caeedig

  • Amgylcheddau trefol

Mathau cynefin bras y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sydd yn ymgorffori'r ecosystemau sy'n bresennol yng Nghymru orau, ac maent felly yn gynrychiolaeth o'r adnoddau naturiol o fewn yr ecosystem honno. Bydd Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru yn ystyried saith o'r wyth categori gyda'r categori morol yn cael ei drin mewn Datganiad Ardal Forol ar wahân a neilltuedig. Yn ogystal â'r wyth categori hyn, mae mawndiroedd wedi'u cynnwys fel categori ychwanegol at ddiben y Datganiadau Ardal, o ystyried pwysigrwydd perthnasol mawndiroedd fel adnodd naturiol yng Nghymru.

Mae ecosystemau yn darparu ystod eang o wasanaethau, gan greu buddion sy'n cysylltu adnoddau naturiol yr ardal â llesiant pobl. Mae'r ‘gwasanaethau ecosystemau’ hyn yn aml o ganlyniad i reoli adnoddau naturiol gan bobl a gellir eu grwpio o dan bedwar pennawd:

  • Systemau a gwasanaethau ategol: Yn angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu gwasanaethau ecosystemau, fel ffurfio pridd, maethynnau a chylchu dŵr, cynhyrchu cynradd a gweithrediad ecolegol

  • Gwasanaethau darparu: Cynhyrchion a gafwyd gan ecosystemau fel bwyd, cnydau, pysgod, ffeibr, tanwydd, pren ac adnoddau genetig

  • Gwasanaethau rheoleiddio: Y buddion a gafwyd o reoleiddio prosesau ecosystemau, gan gynnwys rheoleiddio'r hinsawdd, dŵr, aer, pridd, clefydau a phlâu, fel puro dŵr, mecanweithiau rheoli biolegol, dal a storio carbon, a pheillio cnydau sy'n werthfawr yn fasnachol

  • Gwasanaethau diwylliannol: Y buddion anfaterol y mae pobl yn eu cael gan ecosystemau drwy gyfoethogi ysbrydol, datblygiad gwybyddol, myfyrio, hamdden a phrofiadau esthetig ac maent yn cynnwys cymeriad y dirwedd, mannau naturiol hygyrch, hamdden a thwristiaeth, ymarfer corff yn yr awyr agored, gwerthfawrogi natur, a threftadaeth ddiwylliannol – sy'n darparu ffynhonnell o gyfoethogi esthetig, ysbrydol, crefyddol, hamdden a gwyddonol

Mae pennod 5 o'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, yn ystyried tystiolaeth bresennol yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol sy'n ymgorffori'r "math o Gymru rydym am ei gweld". Mae'n darparu asesiad o'r gwasanaethau ecosystem a manteision sy'n cyfrannu at lesiant yng Nghymru.

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol hefyd yn amlinellu sut mae ecosystemau'n cyfrannu at wydnwch economaidd, cymdeithasol ac ecolegol ac yn sail iddynt. Mae'r cyfraniadau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar eu lleoliad, eu cyflwr a'u hehangder, a sut maent yn cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas.

Bydd Datganiadau Ardal yn datblygu ein dealltwriaeth ymhellach drwy - yn ogystal ag ystyried manteision - ystyried lle gall adnoddau naturiol helpu i reoli neu liniaru effeithiau negyddol ar lesiant sy'n gysylltiedig â bygythiadau amgylcheddol, fel y newid yn yr hinsawdd, llygredd aer a llifogydd.

Yn ogystal, mae ein hecosystemau yn ein darparu ag ystod eang o wasanaethau a buddion.

Mae angen i ni ystyried y rhain i gyd pan ydym yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut rydym yn eu defnyddio, fel eu bod yn darparu buddion lluosog ar gyfer yr hirdymor.

Cyfleoedd sy'n ymwneud â'r thema hon

Dim ond mewn lleoliadau sy'n briodol i'r amgylchedd y bydd yr holl gyfleoedd a nodir isod yn cael eu cefnogi.

  • Ni all safleoedd dynodedig gynnal eu hunain ar eu pennau eu hunain. Lle bo'n bosibl, dylid blaenoriaethu cynyddu cysylltedd cynefinoedd, yn ogystal â mynd i'r afael â materion ynghylch rheolaeth gynaliadwy o'r dirwedd ehangach

  • Adolygu cyflwr a gweithrediad y system o safleoedd dynodedig yng Ngogledd-orllewin Cymru – sut i'w rheoli a sut i'w monitro

  • Er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli ein hecosystemau yn gynaliadwy, mae angen i ni nodi'r bygythiadau neu’r risgiau i wydnwch ein hecosystemau ac achosion y risgiau hyn a datblygu cyfleoedd cynaliadwy a chynllunio ymyriadau rheoli er mwyn mynd i'r afael â'r materion

  • Ceir pryderon ynghylch rhywogaethau dangosol mwy sensitif sydd i'w gweld yn yr ardal, e.e. misglod dŵr croyw ac eogiaid – yn benodol lle mae cynefinoedd ac ymddygiadau’r rhywogaethau hyn yn croesi ffiniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

  • Gwarchod a gwella amrywiaeth a gwydnwch ecosystemau fel y gallant barhau i gefnogi bioamrywiaeth a darparu'r adnoddau naturiol hanfodol rydym oll yn dibynnu arnynt

  • Er mwyn sicrhau bod prosesau naturiol yn gytbwys eto – sefydlu pa ecosystemau sy'n wynebu'r risg fwyaf ac felly sydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer camau gweithredu. Adfer ecosystemau diraddiedig presennol i statws gweithredol neu gytbwys

  • Ceisio syniadau o'r gymuned ynghylch yr hyn sydd ei angen gan ardal er mwyn iddi fod yn lle iach i fyw a chreu rhestr fer o safleoedd â photensial gwirioneddol ar gyfer cymryd camau gweithredu. Datblygu gwiriad iechyd cynefin gyda'r nod o wneud y lleoedd ble mae pobl yn byw mor iach â phosibl

  • Mae gan Ogledd-orllewin Cymru y mwyafrif o ylfinirod sy'n bridio – mae angen dewisiadau o ran blaenoriaethu rheolaeth o ffermydd i gynnal a chynyddu eu gwasgariad bridio yn gynaliadwy i atal colli'r rhywogaeth

  • Mynd i'r afael â materion o ran rhywogaethau estron goresgynnol yn ddigonol

  • Annog a gwobrwyo cydweithredu a phrosiectau cynaliadwy ar raddfa tirwedd â mecanweithiau ariannu hirdymor (rhwng pump a deng mlynedd) i gefnogi buddsoddiad tymor hirach. O ganlyniad, bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad a chynllunio tymor hirach o ran gwarchod a gwella'r holl ecosystemau ar draws pob sector, gan alluogi buddsoddiad tymor hirach mewn staff â sgiliau ac ati

Mae cyfleoedd ychwanegol hefyd yn cynnwys dylanwadu ar newidiadau i ddeddfwriaeth, y system gymhorthdal ar gyfer rheoli ffermydd/tir, cyflwyno taliadau am wasanaethau ecosystemau, a chysylltu darparwyr gwasanaethau ecosystemau â’r buddiolwr, e.e. gall arferion ffermio ucheldirol cynaliadwy helpu i reoli llifogydd sy'n gysylltiedig â threfi iseldir lle ceir llifogydd yn aml - camau gweithredu penodol ar gyfer Ynys Môn a ffeniau Pen Llŷn er mwyn sicrhau y ceir effaith lai o ganlyniad i ffermio. Argymhellir bod gwydnwch ecosystemau yn cael ei gynnwys yn y broses gynllunio hon

Mawndiroedd tal y llyn

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

  • Annog a gwobrwyo cydweithredu a phrosiectau ar raddfa tirwedd (neu'r rheini sy'n gweithredu ar raddfa briodol). Dylai'r rhain fod ar waith am isafswm o bum mlynedd, ond byddai'n well petaent yn parhau am ddeng mlynedd neu fwy. Byddai hyn yn cefnogi buddsoddiad a chynllunio tymor hirach ar gyfer gwarchod a gwella ecosystemau gan bob sector, yn ogystal â darparu gwarantau eraill fel buddsoddiad mewn staff â sgiliau, pobl ac ati

  • Mae hyn yn cynnwys dylanwadu ar newidiadau i ddeddfwriaeth, y system gymhorthdal ar gyfer rheoli ffermydd/tir, cyflwyno taliadau am wasanaethau ecosystemau, a chysylltu darparwyr gwasanaethau ecosystemau â’r buddiolwr, e.e. gall newidiadau i arferion ffermio ucheldirol helpu i reoli llifogydd sy'n gysylltiedig â threfi iseldir lle ceir llifogydd yn aml – camau gweithredu penodol ar gyfer Ynys Môn a ffeniau Pen Llŷn er mwyn sicrhau y ceir effaith lai o ganlyniad i ffermio

  • Cynnwys yr asesiad o wydnwch ecosystemau yn y broses gynllunio

  • Meddalu'r ffiniau rhwng ffermydd a nodweddion naturiol, e.e. clustogfeydd o welyau cyrs lle mae tir ffermio yn gyfagos i gynefin ffen a chors prin o faethynnau (er mwyn lleihau halogiad gan ddŵr ffo ffermydd) a rheoli glaswelltir ar ffermydd sy’n gyfagos i safleoedd ag adar glaswelltir sy'n bridio – monitro canlyniadau a lledaenu ac ymgorffori gwersi mewn arfer gorau ar gyfer y dyfodol

  • Mae’r gwaith o fynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yn cael digon o anodau ac yn cael ei weithredu ar raddfa briodol

  • Archwilio pa gynefinoedd, rhywogaethau a lleoedd lleol penodol sydd â'r flaenoriaeth uchaf i gymunedau lleol

  • Datblygu polisïau a mentrau ailstocio ar ôl colli coed o ganlyniad i blâu a chlefydau, e.e. clefyd coed ynn - yn benodol lle mae dwysedd uchel o goed o rywogaeth yr effeithir arni, er enghraifft ar Ynys Môn. Sicrhau cyflenwad digonol o stoc o darddiad lleol trwy ddatblygu meithrinfa leol

  • Cysylltu’r gwaith o reoli cynefinoedd ar y raddfa briodol. Fel y cyfryw, creu clustogfeydd rhwng cynefinoedd gwahanol, monitro'r canlyniadau a rhannu arfer gorau

  • Newid y polisi ynghylch creu mwy o goridorau gwyrdd – plannu llwyni a blodau gwyllt newydd, rheoli gwrychoedd, plannu coed, a rheoli dolydd, glaswelltir, pyllau a chadwraeth, e.e. talu am wasanaethau ecosystemau

  • Canllawiau cynllunio ategol ar ddefnyddio coed i frwydro yn erbyn llifogydd, gan leihau'r pwysau ar systemau draenio confensiynol a chynyddu gwerth bioamrywiaeth, e.e. plannu coed mewn mannau trefol a gerddi glaw, a gwrychoedd o rywogaethau cymysg ar gyfer pob datblygiad newydd

  • Coladu data gwaelodlin er mwyn mesur newid a chreu dull ar gyfer dangos sut y dylai pethau newid a'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniad dymunol.
  • Rhannu profiadau ac arfer gorau ag eraill er mwyn annog datblygiad parhau

  • Ymgorffori gwydnwch ecosystemau o fewn cynlluniau taliad amaethyddol y dyfodol – coladu tystiolaeth a rhannu arferion gorau dulliau ffermio gwahanol

  • Ceisio parhad ar draws polisïau'r llywodraeth ac amcanion adrannau, yn benodol ynghylch creu coetiroedd, er mwyn sefydlu dull cadarn ar gyfer datrys gwahaniaethau o ran barn er mwyn galluogi pethau i symud ymlaen

  • Helpu i sicrhau bod safleoedd gwarchodedig yn cyflawni cyflwr ffafriol

  • Mae camau yn cael eu cymryd ar y raddfa briodol i wella bioddiogelwch, gan gynnwys iechyd planhigion a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd y gwahoddiadau at fwy na 450 o bobl ac, yn ystod y tri gweithdy a gynhaliwyd, mynychodd a chyfrannodd 100 o bobl at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac rydym wedi bod yn ceisio defnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 er mwyn adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid a gwrando ar eu syniadau ac adborth, gan gynnwys cyfarfodydd ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cyfarfodydd ag undebau’r ffermwyr a gweithdai ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, er mwyn helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd mwy na 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 gyda mwy na 100 o bobl yn mynychu

Beth yw'r camau nesaf?

Byddwn yn sefydlu is-grwpiau thema er mwyn datblygu'r weledigaeth ar gyfer yr ardal gyfan gyda rhanddeiliaid – gyda chylch gwaith llydan a chynrychiolaeth eang.    Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau sydd â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau lleol a chynlluniau gweithredu.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) i lywio’r gweithgareddau a’r cynlluniau sefydliadol.

Bydd  angen i bob thema adolygu pa wybodaeth a data sydd gennym hyd yn hyn, cynllunio pwy fyddwn yn siarad â nhw nesaf, chwilio am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i'w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer camau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac yn esblygu dros amser. Bydd yr is-grwpiau yn gyfrifol am benderfynu pa gynlluniau sydd angen eu newid a phwy sydd angen cymryd rhan yn y broses honno.

O hyn, byddwn yn gallu ymgysylltu ag ac ennyn diddordeb grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn modd wedi’i dargedu a gyda ffocws mwy cadarn ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol.  Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflenwi gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Morfa Harlech

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

  • Ni all safleoedd dynodedig gynnal eu hunain ar eu pennau eu hunain. Mae angen gweithredu ar y cyd i sicrhau bod safleoedd a rhywogaethau arbennig yn ffynnu mewn amgylchedd ecolegol a diwylliannol addas a phriodol drwy reoli a chreu cynefinoedd cysylltiol addas ar raddfa tirwedd. Fel y cyfryw, bydd hyn yn effeithio ar amrywiaeth y rhywogaethau a welir yng nghefn gwlad ehangach a'r safleoedd arbennig sy'n dibynnu ar ei gilydd

  • Bydd gwella rheolaeth o gyrff dŵr, gan gynnwys dalgylchoedd afonydd, yn gwella nifer a maint y cynefinoedd addas sy'n ymwneud â dŵr ar gyfer rhywogaethau allweddol ac ansawdd dŵr

  • Bydd creu mwy o goridorau gwyrdd, gan gynnwys plannu llwyni a blodau gwyllt, rheoli gwrychoedd, plannu coed, a rheoli dolydd, glaswelltir, pyllau a chadwraeth, yn galluogi cysylltedd pellach ar gyfer rhywogaethau a bywyd gwyllt

  • Bydd gwella plannu coetiroedd brodorol cymysg yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu buddion cysylltedd ar gyfer cynefinoedd coetir. Yn fwy na hynny, mae coetiroedd a choedwigoedd yn dda ar gyfer bywyd gwyllt, gan eu bod yn helpu i leihau llygredd sŵn ac yn gwella ansawdd aer

  • Yn ogystal, bydd rheolaeth briodol o rywogaethau estron goresgynnol ar raddfa briodol ac ailblannu gorchudd coed a effeithir gan glefyd hefyd yn cefnogi gwydnwch ecosystemau.

Sut all pobl gymryd rhan?

Rydym yn croesawu cyfleoedd ar gyfer y cyhoedd i gysylltu â ni yn ystod unrhyw gyfnod o'r broses Datganiad Ardal.

Ceir hefyd ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom â'ch syniadau ynglŷn â datblygu camau gweithredu dan y Thema hon.

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio ar agweddau penodol ar y sgyrsiau’n dilyn yr ymgysylltiad gyda rhanddeiliaid y Datganiad Ardal a oedd yn nodi cyfleoedd a heriau i dreialu dulliau gwahanol a datblygu ffyrdd newydd o weithio

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf