© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Ynglŷn â'r ardal hon


Ni yw’r ardal â’r boblogaeth fwyaf dwys o blith y saith ardal sy’n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â Chaerdydd, prifddinas Cymru.

Mae'n ardal sydd hefyd yn cynnwys ymylon rhostir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yr ucheldiroedd dramatig gwyllt uwchben cymoedd nodedig de Cymru, ac iseldiroedd mwyn Bro Morgannwg. Mae bron i draean o'n harfordir yn cael ei ddosbarthu fel ‘Arfordir Treftadaeth’. Gellir canfod chwe chofnod ar y Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, a sefydlwyd i ddiogelu a gwarchod tirweddau pwysig ac arwyddocaol ledled Cymru, yng Nghanol De Cymru.

O ganlyniad, efallai nad yw'n syndod bod ein Datganiad Ardal yn cael ei ddominyddu gan yr awydd i bontio amgylcheddau trefol a naturiol.

Mae Canol De Cymru yn rhan o'r byd sydd wedi profi newid enfawr dros y 250 mlynedd diwethaf. Trawsnewidiodd y Chwyldro Diwydiannol yr hyn a arferai fod yn dirwedd wledig yn fecca diwydiannol gyda chymunedau cadarn, balch, wedi'u hadeiladu o amgylch adnoddau naturiol toreithiog, gyda Chaerdydd yn un o’r porthladdoedd prysuraf ar y blaned ar un adeg.

Fodd bynnag, daeth y twf diwydiannol hwnnw ar draul yr amgylchedd naturiol a hefyd, yn ôl safonau'r 21ain ganrif, iechyd pobl.

Heddiw, mae'r diwydiannau trwm traddodiadol a roddodd de Cymru ar y map wedi diflannu i raddau helaeth. Ystyrir bod ein haer yn lanach. Mae pysgod yn byw mewn afonydd a arferai fod yn ddu ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae digonedd o waith da wedi'i wneud eisoes er mwyn gwella'r amgylchedd. Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae'r asedau naturiol a arferai gefnogi etifeddiaeth ddiwydiannol yr ardal bellach yn cyflwyno cyfle gwych ar gyfer chwyldro llesiant.

Gyda hynny mewn golwg, mae Datganiad Ardal Canol De Cymru – sy'n cynnwys pum prif thema – yn mynd i'r afael ag etifeddiaeth y gorffennol yn ogystal â heriau a chyfleoedd y dyfodol, gan archwilio ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddiogelu, gwerthfawrogi a chofleidio'r amgylchedd naturiol gan hefyd ei osod wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau, yn unol â Pholisi Adnoddau Naturiol 2017 Llywodraeth Cymru.

Themâu yn Datganiad Ardal Canol De Cymru


Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod mwy am bob thema:

  • Adeiladu ecosystemau gwydn
  • Cysylltu pobl â natur
  • Gweithio gyda dŵr
  • Gwella ein hiechyd
  • Gwella ansawdd ein haer

Mae'n werth nodi bod y ddwy thema gyntaf - Adeiladu ecosystemau gwydn a Cysylltu pobl â natur - yn cynrychioli conglfeini'r Datganiad Ardal, sy'n tanategu ein dull cyfan o fynd i'r afael â'r heriau rydym ni, a'n hamgylchedd naturiol, yn eu hwynebu bellach, fel y nodir yn y ffeithlun hwn:

 

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – De Canolbarth Cymru (PDF)

  • Ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig De Canolbarth Cymru (PDF)

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf