Paratoi dadansoddiad o gostau’r prosiect ar gyfer eich cais am grant

Pan fyddwch yn gwneud cais i ni am grant, bydd angen i chi roi manylion costau eich prosiect gan ddefnyddio’r templed yr ydym yn ei ddarparu.

Templed manylion costau

Lawrlwythwch a chwblhewch y templed manylion costau’r prosiect. Bydd angen i chi ei uwchlwytho i’ch cais ar-lein.

Sut i lenwi’r templed a'r ffurflen

TAW

Dylai'r cais am gyllid adlewyrchu cost y prosiect i chi ar ôl adennill unrhyw TAW y gallech ei adennill. Eich cyfrifoldeb chi yw canfod statws TAW y prosiect, dylai TAW anadferadwy gael ei adlewyrchu yn y cais am arian ac ni ellir ei ychwanegu wedyn.

Cyllid Arall

A ydych yn cael unrhyw arian arall gan CNC neu gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys cyllid amaeth-amgylcheddol? Mae angen inni fodloni ein hunain nad ydym yn ariannu darnau o waith ddwywaith a'n bod yn cydymffurfio â rheolau Rheoli Cymhorthdal.

Ticiwch ‘ydyn’ neu ‘nac ydyn’ a rhestrwch rifau cyfeirnod CNC neu fanylion ariannu eraill os ticiwch y blwch ‘ie’

Llif arian

Telir grantiau CNC mewn ôl-daliadau. Eglurwch sut y byddwch yn ariannu costau prosiect rhwng dechrau’r prosiect a derbyn cyllid CNC a’ch arian wrth gefn i dalu am unrhyw gynnydd mewn prisiau. Mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwn yn ystyried ariannu ymlaen llaw; dylai ymgeiswyr ddangos pam fod angen hyn yn eu cais.

Cyfranwyr ariannol i’r prosiect

Cadarnhewch y cyllid rydych yn gofyn amdano gennym ni, y cyllid rydych chi, fel sefydliad, yn ei gyfrannu (os o gwbl) a'r cyllid rydych yn gofyn amdano o ffynonellau eraill (os o gwbl). Gyda'i gilydd dylent adio i gyfanswm cost y prosiect.

Ni ddylai’r cyfanswm y gofynnir amdano gan CNC fod yn fwy na’r cais a nodir yn eich cais.

Mae CNC yn cadw’r hawl i wneud cynnig o gyllid sy’n wahanol i’r manylion neu’r symiau ariannol a nodir yn y cais llawn.

Yr argyfwng costau byw

Rydym yn cydnabod bod pawb yn wynebu costau byw uwch. Ni allwn gynyddu gwerth ein grantiau unwaith y bydd dyfarniad wedi’i gyhoeddi felly rydym yn awgrymu pan fyddwch yn datblygu costau eich prosiect, eich bod yn ystyried arian wrth gefn ar gyfer costau uwch ac yn ystyried costio yng nghyfraddau chwyddiant cyhoeddedig SYG ac RPI e.e. Mawrth 2022 roedd yn 6.2% ac ym mis Ebrill yn 7.8%.

Rydym yn cydnabod bod pobl hefyd yn wynebu anawsterau gyda recriwtio ac, er enghraifft, yn cael nifer digonol o ddyfynbrisiau am waith ac felly rydym yn awgrymu caniatáu cyfnod tendro o 3 mis neu benodiadau staff lle nad oes contractwyr ar gael.

Beth rydym yn ei wneud:

  • Gall sefydliadau ofyn am flaensymiau - mae angen iddynt ddangos a rhoi tystiolaeth o'u hangen am hyn ac yna bydd yr hawliad terfynol mewn ôl-daliad i osgoi gordaliad
  • Mae cyfraddau gwirfoddolwyr yn seiliedig ar yr isafswm cyflog byw/cenedlaethol a dylai'r Ymgeisydd gyfrifo ei gyfraddau staff yn seiliedig ar ganllawiau SYG ac RPI
  • Rydym yn caniatáu cyfradd unffurf o 15% o gostau staff ar gyfer gorbenion neu adennill costau llawn (yn amodol ar fethodoleg lawn)
  • Gofynnir i sefydliadau amcangyfrif costau, a gall y rhain gynnwys cynnydd wedi’i amcangyfrif ar gyfer y dyfodol, fodd bynnag mae angen dangos tystiolaeth o’r rhain bob amser fel gwariant gwirioneddol felly gallent arwain at danwariant

Rydym yn dilyn cynllun a chod ymarfer TSO 2014 LlC.

Arianwyr eraill

Rhestrwch yr HOLL gyllidwyr eraill (os oes rhai), gan nodi a yw'r cyllid wedi'i gadarnhau ai peidio, ac ym mha flwyddyn ariannol y disgwyliwch gael yr arian cyfatebol.

Cyflog staff

Dylid cyfrifo’r costau cyflog ar sail y cyfrifiad(au) cost dyddiol, wedi’i luosi â nifer y diwrnodau a weithiwyd ar y prosiect gan yr aelod(au) o staff, fesul blwyddyn ariannol. Bydd angen tystiolaethu costau staff, cyfraddau a'r amser gwirioneddol a dreulir ar y prosiect wrth wneud hawliadau.

Noder: i gyfrifo’r gyfradd ddyddiol ar gyfer aelod o staff adiwch y cyflog blynyddol cyfwerth ag amser llawn (CALl), Yswiriant Gwladol a phensiwn at ei gilydd. Yna dylid rhannu'r cyfanswm â 220 (diwrnod) i roi'r gyfradd ddyddiol.

Cwblhewch linell ar gyfer pob aelod o staff ar y prosiect.

Teithio a Chynhaliaeth

Gellir hawlio costau teithio wrth weithio ar y prosiect. Gall hyn gynnwys trên, car neu feic.

Rhaid i bob hawliad gael ei gefnogi gan dderbynebau, cofnod teithio / milltiroedd manwl a thystiolaeth banc / taliad.

Ewch i gyfraddau milltiredd ar GOV.UK

Nwyddau traul/costau eraill

Dylid nodi pob pryniant sydd â gwerth prynu o dan £5,000 ar gyfer pob eitem o dan Nwyddau Traul/Costau eraill.

Gwariant Cyfalaf

Gwariant cyfalaf yw gwariant sy'n arwain at gaffael neu adeiladu ased cyfalaf (tir, adeilad, cerbyd, offer) neu wella ased cyfalaf sy'n bodoli eisoes.

Cymorth Allanol/Contractwyr

Rhaid i bob pryniant dros £5,000 gael ei gaffael gan ddilyn yn unol â chanllawiau caffael cyhoeddus.

Gorbenion

Gellir cynnwys gorbenion fel rhan o gostau eich prosiect. Mae dwy ffordd bosibl o gynnwys y rhain yn eich cais:

  • Cyfradd safonol o 15% ar gostau staff prosiect uniongyrchol yn unig. Nid oes angen rhoi tystiolaeth o'r gyfradd unffurf.
  • Adennill costau llawn (FCR) y fethodoleg i'w chytuno gan CNC a rhaid i'r holl gostau gael tystiolaeth lawn.

Nid yw’r canlynol yn gostau prosiect uniongyrchol cymwys a dylent gael eu talu gan orbenion:

  • Llety oni bai eich bod wedi gorfod rhentu swyddfa newydd a ddefnyddir gan y prosiect yn unig.
  • Nid yw costau AD yn gostau gorbenion cymwys ar wahân i anfonebau ar gyfer hysbysebion recriwtio ar gyfer staffio'r prosiect.
  • Eitemau fel TG wrth gefn, gwres a phŵer, rhent a threthi.
  • Costau craidd fel y Prif Swyddog Gweithredol ac uwch reolwyr.
  • Costau gweinyddol cyffredinol (e.e. costau cyllid ac archwilio) oni bai bod swyddog yn cael ei gyflogi fel rhan o’r prosiect i wneud y math hwn o waith ac yn gallu dangos tystiolaeth o’r oriau a weithiwyd yn uniongyrchol ar y prosiect

Dylai'r costau uchod gael eu talu gan y gyfradd safonol ychwanegol o 15% o gostau uniongyrchol staff y prosiect ar gyfer gorbenion neu gael ei ddangos fel adferiad cost lawn.

Gwirfoddolwyr

Gall yr amser y mae eich gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu at eich prosiect gael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol. Os hoffech wneud hyn bydd angen i ni wybod nifer y gwirfoddolwyr, eu rôl yn y prosiect, cyfanswm yr oriau y byddant yn gweithio ar y prosiect a'r gyfradd fesul awr. Bydd angen tystiolaeth cofnodi amser, felly bydd angen i'ch gwirfoddolwyr lenwi taflenni amser. Rhaid i'r gwirfoddolwr a'r cydlynydd gwirfoddolwyr lofnodi a dyddio POB taflen amser.

Rydym wedi gosod gwerthoedd ar gyfer amser gwirfoddolwyr yn dibynnu ar y math o waith y byddant yn ei wneud:

  • Di-grefft £10.42 yr awr
  • Medrus neu dechnegol £18.75 yr awr
  • Proffesiynol £43.75 yr awr

Rhaid i chi ddefnyddio'r gwerthoedd hyn wrth gyfrifo gwerth yr amser y mae gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu at eich prosiect.

Mae amser gwirfoddolwyr yn cael ei gyfrifo fel y nodir yn y tabl hwn (mae'r enghraifft hon hefyd yn nhaenlen y Cynllun Darparu Cyllid).

Cynllunio wrth gefn

Pe bai eich arian cyfatebol arall yn cael ei dynnu'n ôl neu ddim yn cael ei gynnig, amlinellwch sut byddai'ch sefydliad yn rheoli'r prosiect. Pa gamau y byddech yn eu cymryd? A oes gennych chi ddigon o arian wrth gefn y gallwch ddibynnu arno?

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf