Grant dylunio cysyniad draenio cynaliadwy
Mae cyfle ariannu o £300,000 wedi’i ddyrannu i gefnogi datblygu systemau draenio trefol cynaliadwy (SDCau) / cynlluniau draenio cynaliadwy lleol yng Nghymru sydd wedi’u hôl-osod ac ar raddfa fach. Mae’r gronfa hon wedi’i chynllunio i gefnogi datblygiad cam dylunio cysyniad ar gyfer prosiectau SDCau ar safleoedd presennol. Unwaith y bydd y dyluniadau cysyniad wedi’u datblygu, efallai y bydd cyfleoedd i ddatblygu a chyflwyno’r cynlluniau hyn ymhellach trwy gamau grant cystadleuol yn y dyfodol.
Mae rhagor o fanylioin am ddylunio cysyniad ar gael yn nhrosolwg Cynllun Gwaith RIBA 2020.
Manylion y grant
Bydd grantiau yn amrywio o £15,000 i £30,000.
- Bydd y grantiau hyn yn galluogi unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i gynnal astudiaethau dylunio cysyniad a allai o bosibl arwain at weithredu SDCau yn y dyfodol.
- Rhoddir blaenoriaeth i atebion cynaliadwy ac arloesol sy’n mynd i’r afael â materion draenio a rheoli dŵr lleol.
Dyddiad cau i gyflwyno cais: 23:59 ar 30 Mehefin 2025.
Amcanion y rhaglen
- Datblygu astudiaethau dylunio cysyniad ar gyfer cynlluniau draenio cynaliadwy (SDCau) / rheoli dŵr wyneb ôl-osod ar raddfa fach a fyddai’n rheoli dŵr glaw, yn cynnig gwytnwch ar gyfer y rhwydweithiau carthffosiaeth, ac yn gwella ansawdd dŵr.
- Gwella bioamrywiaeth ac ecoleg trwy atebion ar sail natur.
- Darparu buddion iechyd, lles ac amwynder.
- Cefnogi/ymgorffori cydweithio gyda’r gymuned.
- Cynnwys technegau arloesol neu newydd sy’n gwella dulliau cyfredol ac yn darparu tystiolaeth newydd.
- Cyfrannu at leihau allyriadau carbon.
Mae angen i gynlluniau hefyd ystyried y canlynol:
- gwaith monitro
- costau cynnal a chadw’r cynllun posibl yn y dyfodol
- caniatâd tirfeddianwyr a chydsyniadau eraill sydd eu hangen
Rhaid i’r prosiect fod yng Nghymru hefyd – ar gyfer unrhyw gynigion trawsffiniol, dim ond yr elfen Gymreig y byddwn yn ei hystyried.
Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau yn ein hardaloedd blaenoriaeth, sef:
- Dalgylchoedd cyfle Cymru
- Ardaloedd a warchodir o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr - Cynlluniau rheoli basn afon 2022-2027: cofrestr ardaloedd gwarchodedig
- Ardaloedd lle mae’r perygl llifogydd yn ganolig neu uchel - gwiriwch eich perygl llifogydd yn ôl cod post
Pwy all wneud cais
- Unigolion
- Sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Elusennau cofrestredig
- Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a sefydliadau ymchwil
- Sefydliadau trydydd sector
- Sefydliadau’r sector preifat
Rhaid i’r ymgeiswyr arweiniol wneud y canlynol:
- dangos tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o leiaf un prosiect draenio cynaliadwy / SDCau yn y degawd diwethaf, neu
- ddarparu cadarnhad o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o gyflwyno cynlluniau draenio cynaliadwy / SDCau ar lawr gwlad – a gall ddarparu cymorth technegol
Am faint y gallwch wneud cais
Gallwch wneud cais am rhwng £15,000 a £30,000.
Gallwch ofyn am hyd at 100% o gostau eich prosiect.
Byddwn yn ystyried gwerth am arian pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am ddefnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi. Byddwn yn gweld arian cyfatebol yn ffafriol. Gall arian cyfatebol gynnwys:
- cyfraniad arian parod
- amser gwirfoddolwyr
- amser staff
Pryd y gallwch wneud cais
Rydym yn derbyn ceisiadau o 7 Ebrill 2025.
Rhaid i chi wneud cais cyn hanner nos ar 30 Mehefin 2025.
Ein nod yw rhoi penderfyniad i chi ar eich cais erbyn mis Medi 2025.
Bydd yr adroddiadau dylunio cysyniad yn cael eu cyflwyno rhwng mis Medi 2025 a mis Chwefror 2026.
Y dyddiad hawlio terfynol fydd 28 Chwefror 2026.
Sut i wneud cais
Bydd angen cyfeirnod arnoch i ddechrau eich cais am grant.
Darganfod sut i baratoi a chyflwyno’ch cais ar-lein.
Ar beth allwch chi wario grant
Gallwch wario ein grant dylunio cysyniad SDCau / draenio cynaliadwy ar y canlynol:
- costau swyddi prosiect uniongyrchol, offer, contractwyr ac ymgynghorwyr, ffioedd proffesiynol untro sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chostau sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- gorbenion – wedi’u capio ar 15% o gostau staff y prosiect
- arolygu a monitro, gan gynnwys offer
- gweithgareddau ymgysylltu cymunedol
- costau cydsyniadau a chaniatadau
Yr hyn na allwch wario grant arno
Ni allwch wario ein grant dylunio cysyniad SDCau / draenio cynaliadwy ar y canlynol:
- angen i ddatblygiadau adeiladu newydd gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â Safonau SDCau Statudol Cenedlaethol
- Datblygiadau sy'n berthnasol i'r rhwydwaith cefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru. Ceir darpariaeth gyfatebol ar gyfer SDCau ar gyfer y ffyrdd hyn yng Nghyfrol 4 y Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd
- gwaith arolygu neu fonitro nad yw’n gysylltiedig â gwaith arfaethedig
- ariannu gweithgareddau craidd eich sefydliad
- gwaith y tu allan i Gymru
- ariannu gweithgareddau masnachol neu wneud elw
- costau cynnal a chadw ar hawliau tramwy cyhoeddus
- cynlluniau lle mae gwaith wedi’i gwblhau neu ar y gweill neu ar gyfer gwaith rheoli / cynnal a chadw parhaus
- astudiaeth bersonol neu ddilyn cymwysterau academaidd neu broffesiynol unigol
- gwaith o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru
- i ariannu rhaglenni grant
- TAW: ni ddylai’r costau gynnwys TAW oni bai nad ydych – ac nad oes gennych unrhyw gynlluniau i fod – wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW
- gweithgareddau y mae gennych ddyletswydd ar hyn o bryd neu y bydd gennych ddyletswydd i’w cyflawni drwy amodau cynllunio
- i ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer SDCau / cynllun draenio cynaliadwy ôl-osod
Yr hyn y bydd angen i dderbynwyr grant ei ddarparu
Rhaid i chi ddarparu copi o adroddiad dichonoldeb sydd wedi’i wneud ar gyfer safle(oedd) y prosiect yr ydych yn gwneud cais amdano/amdanynt o fewn y cais hwn am grant. Dylai’r adroddiad dichonoldeb gynnwys manylion am y buddion disgwyliedig y gellid eu cyflawni drwy ddyluniad yr SDCau / system draenio cynaliadwy a dylai hefyd gynnwys:
- Cyrchfan dŵr ffo arwyneb – manylion defnydd a chyrchfan unrhyw ddŵr ffo wyneb o safle(oedd) datblygu’r prosiect
- Rheolaeth hydrolig dŵr ffo arwyneb – manylion unrhyw reolaeth hydrolig lle gallai fod gollyngiadau dŵr wyneb a gyfeirir at gyrff dŵr wyneb, carthffosydd dŵr wyneb neu systemau carthffosiaeth gyfun
- Ansawdd dŵr – manylion unrhyw reolaeth ansawdd dŵr wyneb a ddarparwyd i atal effeithiau negyddol ar y corff dŵr derbyn a/neu amddiffyn systemau draenio i lawr yr afon, gan gynnwys carthffosydd
Mae rhagor o fanylion am fuddion dyluniad SDCau ar gael yn y Canllaw SDCau.
Rhaid i chi ddarparu mesuriadau perthnasol yn eich cais i ddangos yr hyn yr ydych yn disgwyl y gallai eich prosiect dylunio cysyniad ei gyflawni – mae rhai enghreifftiau isod:
- hyd y cwrs dŵr neu gorff dŵr i’w wella
- cyfaint y dŵr sy’n treiddio i’r ddaear
- nifer yr eiddo posibl gydag amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd
- maint/math y mannau gwyrdd a glas i’w creu
- nifer y bobl a allai elwa o’r cynllun
- hectarau’r coetir i’w blannu
Mae hefyd yn bosibl amcangyfrif buddion cyn cyflawni trwy ddefnyddio offer fel yr Offeryn Amcangyfrif Buddion.
Caniatadau neu gydsyniadau eraill
Os oes angen trwyddedau, cydsyniadau, neu unrhyw fath arall o ganiatâd gennym ni, bydd angen i chi gwblhau hyn yn ogystal â’r cais hwn am gyllid. Sicrhewch eich bod yn cynnwys amser ar gyfer hyn yn eich cynllun prosiect grant.
Sut rydym yn sgorio ceisiadau
Darganfyddwch sut rydym yn sgorio ceisiadau am grant dylunio cysyniad cynllun draenio cynaliadwy.
Byddwn yn ystyried lleoliadau blaenoriaeth, pa mor dda y mae ceisiadau’n cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau, ymgysylltu â’r gymuned/preswylwyr ochr yn ochr â’n sgorio safonol.
Opsiwn ariannu yn y dyfodol
Mae rowndiau grant cystadleuol pellach i ddatblygu a chyflawni cynlluniau draenio cynaliadwy (SDCau) neu waredu dŵr wyneb sydd wedi’u hôl-osod ac ar raddfa fach wedi’u cynllunio fel a ganlyn:
- Datblygiad astudiaeth ddylunio fanwl 2026/27
- Cyflawni cynlluniau SDCau wedi eu hôl-osod ar raddfa fach 2027/28