Adroddiad atebolrwydd 2023/24
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad blynyddol a'n cyfrifon 2023/24
Mae ein hadroddiad atebolrwydd yn amlinellu'r prif nodweddion o ran y ffordd yr ydym yn rheoli ein sefydliad. Mae iddo dair adran.
Yn y tudalennau canlynol, bydd ein hadroddiad llywodraethiant corfforaethol yn egluro pwy sydd ar ein Bwrdd a phwy yw ein tîm o uwch-reolwyr, sut maen nhw'n gweithio, a'r trefniadau llywodraethiant sydd ar waith i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu rheoli a'u goruchwylio'n effeithiol er mwyn cyflawni ein hamcanion.
Mae ein hadroddiad cyflogau a staff yn disgrifio sut rydym yn ymdrin â chyflogau'r aelodau o’r Bwrdd a’r uwch-reolwyr, ac yn rhoi trosolwg o gyfansoddiad ein staff.
Mae ein hadroddiad atebolrwydd seneddol ac archwilio yn dwyn ynghyd ofynion ychwanegol y gofynnir amdanynt er mwyn dangos ein hatebolrwydd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rheoleidd-dra gwariant, a barn ein harchwilydd allanol.
Adroddiad llywodraethiant corfforaethol
Adroddiad y cyfarwyddwyr
Mae’r Tîm Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a’r tîm o gyfarwyddwyr gweithredol sy’n ei gefnogi. Ni fu unrhyw newidiadau i’r Tîm Gweithredol yn ystod 2023/2024.
Enw |
Deiliad y swydd |
Hyd gwasanaeth yn y Tîm Gweithredol |
---|---|---|
Clare Pillman |
Prif Weithredwr |
26 Chwefror 2018 - presennol |
Ceri Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
1 Ebrill 2013 - presennol |
Gareth O’Shea |
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau |
27 Ebrill 2015 – presennol |
Prys Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol |
1 Ebrill 2019 - presennol |
Rachael Cunningham |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
7 Medi 2020 – presennol |
Sarah Jennings |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol |
7 Medi 2020 – presennol |
Mae’r gofrestr ganlynol yn nodi buddiannau ein Tîm Gweithredol fel yr oeddent ym mis Mawrth 2024.
Enw |
Swydd |
Buddiant |
Unigol |
Disgrifiad |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman |
Prif Weithredwr |
Tir / eiddo |
Personol |
Preswylydd mewn ardal y mae’n bosibl y caiff ei hystyried ar gyfer y parc cenedlaethol newydd arfaethedig |
Clare Pillman |
Prif Weithredwr |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Aelod o Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru |
Ceri Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Arall |
Personol |
Aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff |
Ceri Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Ymddiriedolwr Cadwch Gymru'n Daclus |
Prys Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol |
Dim buddiannau i'w datgan |
N/A |
N/A |
Gareth O’Shea
|
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau |
Dim buddiannau i'w datgan |
N/A |
N/A |
Rachael Cunningham
|
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
Dim buddiannau i'w datgan |
N/A |
N/A |
Sarah Jennings |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol |
Dim buddiannau i'w datgan |
N/A |
N/A |
Caiff datganiad o fuddiannau’r cadeirydd ei adolygu gan gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
Mae'r gofrestr o fuddiannau ar gyfer aelodau ein Bwrdd ar gael ar ein gwefan o dan Cofrestr buddiannau.
Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro - 16 Hydref 2024
Datganiad o gyfrifoldebau'r swyddog cyfrifyddu
Mae paragraff 23(1) o’r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ddatganiad o gyfrifon ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau a rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r sefydliad ac o’r incwm a’r gwariant, y newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a’r llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r swyddog cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth a gwneud y canlynol:
- Glynu wrth ofynion y Cyfarwyddyd Cyfrifon a ddyroddir gan Drysorlys ei Fawrhydi, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu priodol
ar sail gyson
- Gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol
- Nodi a ddilynwyd y safonau cyfrifyddu perthnasol fel y’u nodir yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, a datgelu ac egluro unrhyw amrywiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol
- Paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw
- Cadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad oedd ein harchwilwyr yn ymwybodol ohoni, a chymryd pob cam i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
- Cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac am y dyfarniadau sydd eu hangen i bennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.
Mae swyddog cyfrifyddu ychwanegol Llywodraeth Cymru wedi dynodi Prif Weithredwr CNC fel ei swyddog cyfrifyddu. Cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr fel y swyddog cyfrifyddu yw sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’n atebol amdano; cadw cyfrifon priodol; gweinyddu mewn ffordd ddarbodus ac economaidd; osgoi gwastraff a gormodedd; a defnyddio’r holl adnoddau mewn ffordd effeithlon ac effeithiol fel y nodir yn y Memorandwm ar gyfer swyddog cyfrifyddu CNC.
Datganiad llywodraethiant
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r strwythurau llywodraethiant a’r fframweithiau rheoli a sicrhau mewnol sydd wedi gweithredu o fewn y sefydliad yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24 ac mae’n cyd-fynd â chanllawiau Trysorlys EF a chanllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Fel Swyddog Cyfrifyddu dynodedig y sefydliad, fy rôl hefyd yw diogelu arian cyhoeddus ac asedau sefydliadol drwy roi trefniadau ar waith ar gyfer llywodraethu ein materion ac arfer ein swyddogaethau yn effeithiol. Gallaf gadarnhau fod yr wybodaeth yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon yn gyfrif cywir a theg o sut mae'r sefydliad wedi cyflawni ei swyddogaethau eleni. Rwyf hefyd yn cadarnhau nad oes gwybodaeth heb ei chasglu sydd wedi dod i'm sylw, na bod gwybodaeth yr wyf yn ymwybodol ohoni nad yw wedi cael ei chyflwyno er sylw Archwilio Cymru.
Ein strwythur llywodraethiant
Mae ein strwythur sefydliadol yn dangos sut rydym wedi ein trefnu i weithio a chyflawni ein hamcanion.
Penodir yr aelodau o’n Bwrdd gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau Gweinidogol mewn Cyrff Cyhoeddus ac, o ran hynny, mae ein cadeirydd yn atebol i’n Gweinidog noddi yn Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae 12 aelod o’n Bwrdd yn derbyn taliad cydnabyddiaeth, o dan arweiniad ein cadeirydd, Syr David Henshaw, ac mae 10 aelod anweithredol, a minnau fel aelod gweithredol o’r Bwrdd. Ar hyn o bryd mae swydd wag ar gyfer aelod anweithredol o fewn strwythur y Bwrdd. Yr Athro Steve Ormerod yw dirprwy gadeirydd penodedig y sefydliad, a Helen Pittaway yw’r uwch-gyfarwyddwr annibynnol. Cyflwynwyd y rôl uwch-gyfarwyddwr annibynnol er mwyn cefnogi'r cadeirydd yn ei rôl; gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol eraill pan fo angen; arwain y cyfarwyddwyr anweithredol o ran goruchwylio’r cadeirydd; a sicrhau bod rhaniad clir o ran cyfrifoldeb rhwng y cadeirydd a’r Prif Weithredwr. Roedd wyth newid i’n Bwrdd eleni: daeth tymor Zoe Henderson i ben ar 8 Mai 2023, daeth tymor Julia Cherrett i ben ar 31 Mai, a daeth tymor yr Athro Peter Rigby i ben ar 31 Hydref. Penodwyd Kathleen Palmer, Helen Pittaway, yr Athro Peter Fox a’r Athro Rhys Jones yn gyfarwyddwyr anweithredol o 16 Chwefror 2023, a phenodwyd Lesley Jones yn gyfarwyddwr anweithredol o 1 Mehefin 2023.
Er mwyn cyflawni ein dyletswyddau, rydym yn cwrdd fel Bwrdd llawn, ac mae gwaith craffu ychwanegol yn cael ei wneud gan saith pwyllgor. Mae ein Tîm Gweithredol yn darparu diweddariadau strategol a gweithredol i'n Bwrdd a'n pwyllgorau i graffu a gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn ôl y gofyn.
Caiff pob pwyllgor ei gadeirio gan aelod anweithredol o'r Bwrdd a, heblaw am y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth, mae pob un yn cynnwys o leiaf tri aelod anweithredol arall o'r Bwrdd. Oherwydd y sedd wag ar gyfer aelod anweithredol, dim ond dau aelod anweithredol arall o’r Bwrdd sydd gan y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid ar hyn o bryd. Mae gan aelodau anweithredol eraill o'r Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau – heb hawliau pleidleisio. Nid oes gennym Bwyllgor Enwebu, gan fod yr aelodau anweithredol ar ein Bwrdd yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu’r meysydd ffocws gwaith a phresenoldeb ein Bwrdd a'n pwyllgorau.
Aelodau anweithredol |
Tymor |
Dyddiad dechrau |
Dyddiad gorffen cyfredol |
---|---|---|---|
Syr David Henshaw (cadeirydd) |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2025 |
Zoe Henderson |
2 |
9 Tachwedd 2015 |
8 Mai 2023 |
Yr Athro Steve Ormerod |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2025 |
Dr Rosie Plummer |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2024 |
Julia Cherrett |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Mai 2023 |
Yr Athro Peter Rigby |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2023 |
Geraint Davies |
2 |
1 Ionawr 2019 |
31 Hydref 2024 |
Yr Athro Calvin Jones |
2 |
1 Medi 2021 |
31 Hydref 2028 |
Mark McKenna |
2 |
1 Medi 2021 |
31 Hydref 2028 |
Yr Athro Peter Fox |
1 |
16 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2026 |
Helen Pittaway |
1 |
16 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2026 |
Kathleen Palmer |
1 |
16 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2026 |
Yr Athro Rhys Jones |
1 |
16 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2027 |
Lesley Jones |
1 |
1 Mehefin 2023 |
31 Hydref 2026 |
Cyfarfodydd y Bwrdd
Gwnaethom gynnal chwe chyfarfod deuddydd, a dau ddiwrnod datblygu ledled Cymru eleni. Cynhaliwyd dau gyfarfod rhithwir a phedwar wyneb yn wyneb. Roedd aelodau'r cyhoedd yn gallu mynychu’n rhithwir y chwe chyfarfod a gynhaliwyd gennym yn gyhoeddus, ac arsylwi arnynt. Mae’r eitemau sefydlog ar ein hagenda yn cynnwys: ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur; cyllid yn ystod y flwyddyn; adrodd ar berfformiad; a diweddariadau strategol a gweithredol gan y cadeirydd, y Prif Weithredwr a phwyllgorau.
Rydym yn cyhoeddi ystod eang o wybodaeth ynghylch ein gwaith ar ein gwefan, gan gynnwys papurau sydd i'w hystyried gan y Bwrdd cyn y cyfarfodydd hynny a gynhelir yn gyhoeddus. Caiff papurau’r Bwrdd eu paratoi gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael, ac maent yn destun craffu a chymeradwyaeth fewnol cyn cyfarfodydd y Bwrdd.
Mae’r holl ddyddiadau’r cyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol a’r agendâu blaenorol ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â'r papurau a'r cofnodion o'n sesiynau cyhoeddus.
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Syr David Henshaw (cadeirydd) |
6/6 |
Yr Athro Steve Ormerod |
6/6 |
Julia Cherrett |
1/1 |
Geraint Davies |
6/6 |
Yr Athro Peter Fox |
5/6 |
Yr Athro Calvin Jones |
4.5/6 (Wedi mynychu un o ddau ddiwrnod y cyfarfod ym mis Mai) |
Lesley Jones |
4/5 |
Yr Athro Rhys Jones |
6/6 |
Mark McKenna |
6/6 |
Kathleen Palmer |
5/6 |
Helen Pittaway |
6/6 |
Dr Rosie Plummer |
6/6 |
Yr Athro Peter Rigby |
3/3 |
Clare Pilman (Prif Weithredwr) |
6/6 |
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Prif rôl Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yw cynghori'r Bwrdd a chynorthwyo'r swyddog cyfrifyddu yn y gwaith o fonitro’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer archwilio, llywodraethu, rheolaethau mewnol a rheoli risg a chraffu ar y trefniadau hyn a’u herio. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod fel Swyddog Cyfrifyddu y sefydliad, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae aelodau o’r Tîm Gweithredol yn mynychu'r pwyllgor er mwyn trafod unrhyw adroddiadau archwilio mewnol â sicrwydd cyfyngedig.
Eleni, rhoddodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg sylw i amrediad o faterion, gan gynnwys y canlynol:
- Gwelliannau i'n dull o reoli risg
- Cofrestr risg strategol ddiwygiedig
- Gwaith mapio sicrwydd sefydliadol
- Cynllun archwilio mewnol 2023/2024
- Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022/2023 a pharatoi ar gyfer 2023/2024
- Risg seiber
Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Kathleen Palmer (Cadeirydd) |
5/5 |
Lesley Jones |
1/2 |
Yr Athro Rhys Jones |
5/5 |
Dr Rosie Plummer |
5/5 |
Yr Athro Peter Rigby |
3/3 |
Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Mae'r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid (PCC) yn ystyried materion sy'n ymwneud â rheoli pobl, gwobrwyo, a newid sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio cyflogau ac amodau cyflogaeth y staff uwch, strategaeth cyflogau gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gennym, darpariaeth y cynllun pensiwn, cynllun y sefydliad, llesiant, iechyd a diogelwch, gofal cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth a datblygur cynllun y Gymraeg. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod.
Aeth y pwyllgor i'r afael ag amrywiaeth o faterion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:
- Llesiant, iechyd a diogelwch ac adolygiadau o ddigwyddiadau difrifol
- Recriwtio a'r broses recriwtio
- Y Rhaglen Rhanddeiliaid
- Y Rhaglen Trawsnewid Pobl
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Profiad y cwsmer ac ymgysylltu â chwsmeriaid
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Mark McKenna (Cadeirydd) |
4/4 |
Yr Athro Rhys Jones |
1/1 |
Helen Pittaway |
4/4 |
Dr Rosie Plummer |
4/4 |
Y Pwyllgor Cyllid
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar y strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio busnes a pherfformiad, cynlluniau codi tâl, a materion masnachol. Wrth gyflawni ei rôl, mae'r pwyllgor yn canolbwyntio ar y cyfeiriad strategol a’i ddatblygiad, ond mae’n craffu ar berfformiad a chyflawni hefyd.
Eleni, rhoddodd y pwyllgor sylw i’r canlynol:
- Monitro perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn
- Cynllunio ariannol a chynllunio busnes ar gyfer 2024/2025
- Adolygiad blynyddol o daliadau
- Gweithgareddau masnachol
- Goruchwylio gwaith o werthu a marchnata pren
- Y Swyddfa Rheoli Rhaglen a’r Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid yn ystod 2023/24
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Syr David Henshaw |
6/8 |
Helen Pittaway (Cadeirydd) |
7/8 |
Yr Athro Calvin Jones |
8/8 |
Yr Athro Peter Fox |
5/8 |
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig
Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo’i gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau gwarchodedig i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Mae aelodau’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hefyd yn cefnogi’r Tîm Gweithredol a’r Bwrdd drwy ddarparu cyngor ynghylch materion ehangach sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig ac ynghylch gwaith achos strategol, gan gynnwys rheoli tirweddau, tirweddau dynodedig, a gwarchodfeydd natur genedlaethol.
Adolygodd y pwyllgor y meysydd a ganlyn:
- Y Rhaglen Tirweddau Dynodedig
- Prosiect Afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- Polisi bioamrywiaeth
- Cyflawni’r Rhaglen Safleoedd Gwarchodedig
- Parthau cadwraeth morol
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn ystod 2022/2023
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Dr Rosie Plummer (Cadeirydd) |
3/3 |
Geraint Davies |
3/3 |
Lesley Jones |
3/3 |
Yr Athro Steve Ormerod |
3/3 |
Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd
Mae'r pwyllgor yn cynghori ein Bwrdd ac yn adrodd iddo.
Ei brif gyfrifoldebau yw craffu ar y rhaglenni buddsoddi presennol a’r rhaglenni yn y dyfodol ar gyfer rheoli perygl llifogydd, ac ystyried materion allweddol a allai effeithio ar y gwaith o gyflawni gweithgareddau sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor fel arfer yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd ynghyd â'r Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithredoedd a’r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd.
Gwnaeth y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd adolygu’r meysydd a ganlyn:
- Blaenoriaethu gweithgareddau’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd
- Llywodraethu’r rhaglen gyfalaf ar gyfer rheoli perygl llifogydd
- Goruchwylio’r rhaglen adfer llifogydd ac adolygu’r rhaglen weithredu
- Goruchwylio gwaith i wella'r ffordd yr ydym yn rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr
- Rheoli asedau
Presenoldeb aelodau'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Yr Athro Peter Fox (Cadeirydd) |
4/4 |
Geraint Davies |
4/4 |
Yr Athro Calvin Jones |
4/4 |
Lesley Jones |
3/3 |
Helen Pittaway |
1/1 |
Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn gynghorol ac yn darparu cyngor a her annibynnol mewn perthynas â’n swyddogaeth tystiolaeth. Mae'r pwyllgor hefyd yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach – a chyda defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth – o brosesau tystiolaeth a blaenoriaethau.
Mae’r pwyllgor yn cynnwys dau aelod anweithredol o’r Bwrdd ac 11 aelod allanol annibynnol sydd â dealltwriaeth o’r cyd-destun Cymreig, er mwyn cynnig ystod amrywiol o arbenigedd priodol.
Gwnaeth y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth adolygu’r meysydd a ganlyn:
- Ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
- Gwyddoniaeth dinasyddion
- Y Rhaglen Mawndiroedd
- Y Rhaglen Rhwydweithiau Natur
- Prosiectau LIFE
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Yr Athro Peter Rigby (cadeirydd) |
2/2 |
Yr Athro Steve Ormerod |
3/3 |
Yr Athro Rhys Jones |
1/1 |
Y Pwyllgor Ystadau Tir
Mae’r Pwyllgor Ystadau Tir yn rhoi cyngor a sicrwydd I’r Bwrdd mewn perthynas â rheoli cynaliadwy ar ein hystadau tir, gan gynnwys buddsoddi yn yr ystadau, eu rheoli, a chynigion ar gyfer newidiadau yn y modd y cânt eu defnyddio, ac mae’n gwneud penderfyniadau penodol ac yn cyflawni swyddogaethau penodol fel y’u dirprwyir iddo gan y Bwrdd.
Adolygodd y Pwyllgor Ystadau Tir y meysydd a ganlyn:
- Y Strategaeth Hamdden
- Y Rhaglen Trydan (y Rhaglen Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy gynt)
- Proses Gwerthu Pren Amgen a'r Strategaeth Pren Diwydiannol
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ystadau Tir yn ystod 2023/2024
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Yr Athro Calvin Jones (cadeirydd) |
3/3 |
Geraint Davies |
2/3 |
Yr Athro Peter Fox |
2/3 |
Mark McKenna |
3/3 |
Er nad yw fforymau yn rhan o’n strwythur llywodraethiant ffurfiol, mae aelodau anweithredol y Bwrdd yn cadeirio, neu’n mynychu’r cyfarfodydd hyn.
Adolygiadau o aelodau’r Bwrdd
Mae'r cadeirydd yn cynnal arfarniadau blynyddol gyda phob cyfarwyddwr anweithredol a'r Prif Weithredwr, ac mae'r broses adolygu yn cynnwys hunanasesiad cryno a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r Prif Weithredwr yn cynnal arfarniadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn gyda'r pum cyfarwyddwr gweithredol.
Ein Tîm Gweithredol
Caiff rheolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd ei chyflawni drwy'r Tîm Gweithredol, sy'n fy nghynnwys i fel y Prif Weithredwr a phum cyfarwyddwr gweithredol sy'n atebol imi. Mae'r Tîm Gweithredol yn cwrdd ddwywaith y mis i ystyried busnes corfforaethol craidd, er enghraifft diweddariadau cyllid; gwybodaeth am berfformiad; llesiant, iechyd a diogelwch; adolygu a chraffu ar y gofrestr risg strategol, ac ati. Mae hefyd yn ystyried ac yn craffu ar benderfyniadau sy'n ymwneud â strategaethau, polisïau a materion gweithredol.
Islaw ein Tîm Gweithredol, mae ein Tîm Arwain sy’n chwarae rôl arweiniol o ran rheoli'r busnes o ddydd i ddydd. Aelodau’r Tîm Arwain yw’r holl benaethiaid adran sy'n adrodd i'n Tîm Gweithredol, gan gynnwys y rhai yn ein swyddogaethau corfforaethol (megis Cyllid, Adnoddau Dynol, a Chyfathrebu).
Mae ein strwythur yn pwysleisio gwaith cyflawni â ffocws ar leoedd: mae saith pennaeth lle o fewn y Gyfarwyddiaeth Weithrediadau unigol yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni ein holl swyddogaethau mewn rhanbarth penodol o Gymru. Mae gennym hefyd benaethiaid gwasanaeth enwebedig (sydd hefyd yn benaethiaid lle) sy'n arwain ar oruchwylio’r gwaith o gyflawni swyddogaeth benodol ledled Cymru. Mae'r penaethiaid gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'n harweinwyr polisi – o'r enw penaethiaid busnesau – sy'n goruchwylio cyfeiriad strategol ein gwaith ledled Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y meddylfryd strategol a gwaith cyflawni gweithredol wedi’u cydgysylltu, mae gennym gyfres o grwpiau busnes sy'n gosod y gofynion polisi ac yn cynllunio natur weithredol ein gwaith ar draws y strwythur â ffocws ar leoedd. Mae pob un o'r rhain yn cael ei arwain gan y pennaeth busnes / pennaeth gwasanaeth.
Ym mis Mehefin 2023 gwnaethom lansio ein cynllun corfforaethol newydd, sef Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd, sy’n nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n hamcanion llesiant hyd at 2030 a’r tu hwnt. Mae’r cynllun yn amlygu sut y byddwn yn chwarae ein rhan yn null Tîm Cymru o fynd i’r afael â'r argyfwng natur, hinsawdd a llygredd.
I ategu cyhoeddi ein cynllun corfforaethol, rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein fframwaith rheoli perfformiad. Drwy gydol 2023/2024 rydym wedi cynllunio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i fesur ein cynnydd tuag at amcanion llesiant y cynllun corfforaethol. Mae tair lefel:
- Strategol a’r hirdymor – gydag effeithiau a dangosyddion strategol wedi’u diffinio ar gyfer 2030;
- Gweithredol a’r tymor canolig – cynllunio aml-flwyddyn er mwyn cyrraedd uchelgais y camau i’w cymryd, ac amcanion llesiant gyda metrigau tueddiadau yn adrodd y statws “iechyd” dros amser;
- Gweithredol a’r tymor byr – ymrwymiadau blynyddol a chanlyniadau allweddol i ddangos y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn.
Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn darparu persbectif integredig, sy’n ein galluogi i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed tuag at ein canlyniadau, nodi’r hyn sy’n llywio’r gwaith o gyflawni, yr hyn sy’n rhwystro cynnydd ar meysydd lle mae angen i bethau newid. Byddwn yn defnyddio’r mewnwelediadau hyn, ynghyd â gwybodaeth sy’n ymwneud â’r parodrwydd i dderbyn risg, lefelau goddefgarwch a phroffil risg, i lywio’r gwaith o flaenoriaethu a dyrannu adnoddau yn flynyddol.
Yn 2023/2024, gwnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu’r datganiadau effaith strategol, hirdymor, a dangosyddion strategol, gan weithio ar y cyd ar draws y sefydliad. Maent wedi’u cyhoeddi ar ffurf ddrafft a byddant yn cael eu profi yn ystod 2024/2025, drwy eu defnyddio i fframio sesiynau archwilio dwfn strategol gan ein Bwrdd, wrth hefyd ymgysylltu â phartneriaid er mwyn rhannu mewnwelediadau a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu. Byddwn yn cwblhau'r effeithiau a'r dangosyddion hyn yn ystod hydref 2024, a byddant yn parhau i fod ar waith o 2025/2026 i 2030 er mwyn monitro cynnydd.
Yn ystod 2024-2025 byddwn yn canolbwyntio ar y tymor gweithredol a'r tymor canolig drwy ddatblygu'r dull o gynllunio aml-flwyddyn a metrigau tueddiadau. Bydd y cynllunio aml-flwyddyn yn canolbwyntio ar y camau i’w cymryd ynghylch yr amcanion llesiant, a diffinio’r metrigau a fydd yn gosod yr ymestyniad er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd i gyflawni uchelgais 2030. Bydd tracio’r metrigau hyn yn rhoi darlun eglur a dysg pwerus ynghylch y cynnydd tuag at gyflawni’r effeithiau strategol hirdymor a’r dangosyddion strategol – neu’r bwlch rhyngddynt – a “throi’r gromlin”. Bydd yn tynnu sylw at y pethau hynny y mae angen eu newid, nid yn unig o fewn ein rheolaeth uniongyrchol, ond hefyd y tu hwnt – yng ngwaith y llywodraeth, partneriaid a chyrff cyhoeddus eraill.
Bydd y metrigau cynllunio aml-flwyddyn gweithredol yn diffinio'r ymestyniad y bydd y cynllun busnes blynyddol tymor byr yn ymateb iddo. Bydd y cynllun busnes blynyddol yn nodi’r pethau hynny y bydd angen iddynt ddigwydd o fewn blwyddyn er mwyn ysgogi’r newid yr ydym am ei weld - er enghraifft profi dulliau gweithredu newydd neu symleiddio prosesau. Mae'r dull hwn yn ein gosod ar drywydd i fod yn sefydliad gwahanol, drwy fesur y pethau hynny sy'n bwysig a defnyddio hyn i lywio ein penderfyniadau ar flaenoriaethau.
Ar gyfer Cynllun Busnes 2023/2024, cytunodd ein Bwrdd i symud y mesurau hynny ymlaen o gynllun busnes 2022/2023 sy’n cyd-fynd â’r weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion llesiant newydd, gan greu capasiti ar gyfer y gwaith datblygu ar y fframwaith rheoli perfformiad. Mae’r cynllun busnes yn nodi’r hyn y byddwn yn ei gyflawni yn ystod 2023/2024, sef blwyddyn gyntaf y cynllun corfforaethol newydd, a’r adnoddau (o ran staff ac arian) y byddwn yn eu defnyddio i wneud hyn.
Fel ymatebwr Categori Un o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, rydym wedi parhau i ymgymryd â’n cyfrifoldebau cyfreithiol i weithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy’n effeithio ar bobl a’r amgylchedd ar draws Cymru 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ymateb i’r digwyddiadau hynny, a chynorthwyo’r gwaith o adfer ar eu holau.
O lifogydd, llygredd, tanau gwyllt neu ddigwyddiadau ar y tir rydym yn ei reoli ac yn ein safleoedd rheoledig, mae gennym gyfrifoldebau uniongyrchol pan fydd yn ymwneud â digwyddiadau amgylcheddol sy’n dod o fewn ein cylch gwaith.
Ar gyfer llawer o ddigwyddiadau ni oedd yr unig ymatebwr neu'r prif ymatebydd. Ond ar sawl achlysur, buom yn gweithio gyda’n partneriaid mewn ffordd integredig ac effeithiol i leihau’r effeithiau ar bobl a bywyd gwyllt a lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gymunedau a’r amgylchedd i adfer.
Rydym wedi parhau i hyfforddi a datblygu staff, gan eu galluogi i gefnogi ein rotâu dyletswydd yn effeithiol. O ganlyniad, mae gennym bellach fwy o staff ar gael i gefnogi ein hymdrechion ymateb i ddigwyddiadau bob awr o'r dydd. Yn ogystal, fe wnaethom hyfforddi mwy o staff i gryfhau ein rotâu ymhellach ar gyfer y dyfodol. Mae aelodau staff wedi cymryd rhan mewn nifer o ymarferion o ddigwyddiadau mewnol ac allanol, gan ein galluogi i wella ein galluoedd yn barhaus. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o'r ymarferion hyn ac o ddigwyddiadau gwirioneddol er mwyn gwella'r gwasanaeth a ddarparwn, yn enwedig wrth inni wynebu'r heriau a berir gan y nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy'n deillio o’r argyfwng hinsawdd a natur.
Cyfarwyddiadau Gweinidogol
Rydym wedi derbyn un Cyfarwyddyd Gweinidogol eleni. Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom ni gyhoeddi hysbysiad rhanddirymu i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais am drwydded forol ar gyfer y cynllun lliniaru llifogydd arfaethedig yn Abermaw. Mewn ymateb, rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gyfarwyddyd i ni i beidio â chymeradwyo’r cynllun a amlinellwyd yn yr hysbysiad rhanddirymu nes y byddant yn ysgrifennu eto i gadarnhau a fyddem yn cael caniatâd i gymeradwyo’r cynllun. Yn dilyn adolygiad o’n dogfennaeth gan swyddogion y Gweinidog, ysgrifennodd y Gweinidog atom ar 13 Chwefror i gadarnhau ei fod yn fodlon i ni gymeradwyo’r cynllun.
Ein fframwaith rheolaethau mewnol
Mae ein fframwaith rheolaethau mewnol yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac achrediadau rydym wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu ein hadnoddau wrth inni gyflawni ein hamcanion.
Mae ein rheolaethau ariannol allweddol o fewn systemau awtomatig, a'n cynlluniau dirprwyo i sicrhau y caiff dyletswyddau eu gwahanu’n briodol, yn parhau i fod ar waith ac yn gyfredol. Mae’r ddogfen Rheoli ein Harian, yr Atodlen Awdurdod Dirprwyedig, a’n Cynllun Statudol a Chyfreithiol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Rheoli risg
Mae fframwaith rheoli risg cadarn yn elfen hanfodol o'n fframwaith llywodraethiant corfforaethol cyffredinol. Mae’n ein cynorthwyo i reoli’r sefydliad er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r cyfle gorau i ni’n hunain gyflawni ein hamcanion llesiant, gan ddiogelu ein hadnoddau a’n henw da.
Y fframwaith rheoli risg
Mae ein proses rheoli risg wedi'i strwythuro i gynnwys y canlynol: nodi ac asesu risg er mwyn pennu a blaenoriaethu sut y dylid rheoli'r risgiau; dethol, dylunio a gweithredu’r opsiynau trin risg sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni canlyniadau bwriadedig a’r gwaith o reoli risgiau i lefel dderbyniol; y gwaith o gynllunio a gweithredu prosesau monitro risg integredig, craff a gwybodus; a chyflwyno adroddiadau risg prydlon, cywir a defnyddiol er mwyn gwella ansawdd y penderfyniadau a wneir ac i gefnogi’r cyrff rheoli a goruchwylio i ddiwallu eu cyfrifoldebau.
Mae’r fframwaith yn defnyddio nifer o safonau arfer gorau, sef y Llyfr Oren, ac yn gosod y fframwaith ar gyfer cefnogi’r gwaith o reoli risgiau a chyfleoedd ar draws y sefydliad. Mae egwyddorion y fframwaith yn sail i’r ffordd y mae angen inni reoli risg yn effeithiol er mwyn sicrhau ei fod yn rhan hanfodol o lywodraethu ac arwain, yn llywio penderfyniadau yn effeithiol, yn hwyluso gwaith monitro risg craff a gwybodus, ac yn darparu adroddiadau risg cywir.
Mae ein strategaeth risg yn cael ei gosod a'i chymeradwyo gan y Bwrdd. Mae ein polisi rheoli risg, sy'n cynnwys yr elfennau Cyfrifol, Atebol, Ymgyngoredig a Gwybodus a phroses uwchgyfeirio, yn cael ei osod a'i gymeradwyo gan ein Tîm Gweithredol.
Parodrwydd i dderbyn risg
Rydym ni’yn sefydliad mawr, gyda llawer o swyddogaethau a rolau amrywiol a chymhleth, ac felly bydd ein parodrwydd i dderbyn a mynd ar drywydd risg yn amrywio ar draws y sefydliad. Mae’r parodrwydd i dderbyn risg yn dangos y mathau o risg a faint o risg yr ydym yn fodlon mentro’u cymryd neu eu derbyn er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant. Mae ein parodrwydd i dderbyn risg yn egluro'r opsiynau sydd ar gael inni, y risgiau y gallwn eu cymryd, a'r rhai y mae angen inni eu hosgoi neu eu lleihau fel blaenoriaeth.
Mae ein Bwrdd yn pennu ac yn adolygu ein parodrwydd cytunedig i dderbyn risg bob blwyddyn. Mae deall a gosod yn glir y lefel o barodrwydd i dderbyn risg yn hanfodol i gyflawni fframwaith rheoli risg effeithiol.
Rheoli risg strategol
Mae ein cofrestr risg a sicrwydd strategol yn eiddo i'r Tîm Gweithredol, ac mae pob risg yn eiddo i gyfarwyddwr unigol. Yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Corfforaethol ym mis Ebrill 2023, bu angen a chyfle i herio ac i ailddatblygu’r risgiau ar y lefel strategol sydd eu hangen i ategu a chefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion llesiant yn effeithiol o fewn y cynllun corfforaethol. Mae'r risgiau strategol yn cael eu rheoli drwy adolygiadau rheolaidd ac maent hefyd yn destun archwiliadau dwfn gan y Tîm Gweithredol yn ogystal â phwyllgor perthnasol y Bwrdd.
Neilltuir lefel o barodrwydd i dderbyn risg i bob risg strategol, ac mae datganiad unigol a manylach o’r parodrwydd i dderbyn risg yn cynnig mwy o gyfarwyddyd a chyfeiriad i berchennog y risg er mwyn ei helpu i reoli'r risg yn effeithiol.
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg sy'n goruchwylio'r fframwaith rheoli risg a'i effeithiolrwydd sydd, yn ei dro, yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn cynnal adolygiad blynyddol o'r risgiau strategol er mwyn ceisio sicrwydd bod y gofrestr yn cynnwys y prif risgiau sydd eu hangen er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun corfforaethol.
Sicrwydd gwybodaeth
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda, a’n bod yn parhau i gyflawni cydbwysedd rhwng bod yn agored a sicrhau diogelwch, gan wneud yn siŵr bod staff a chwsmeriaid yn sicr bod lefelau diogelwch priodol ar waith. Mae'r uwch-berchennog risg gwybodaeth yn parhau i arwain rhaglen integredig o waith i gryfhau ein hymateb o ran ein gallu i wrthsefyll bygythiadau seiberddiogelwch a bygythiadau i ddiogelwch gwybodaeth. Unwaith eto, rydym wedi ennill ein hachrediad Cyber Essential Plus blynyddol, sy'n cael ei gymeradwyo gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'i archwilio'n annibynnol gan arbenigwr trydydd parti cymwys. Byddwn yn parhau i gyflawni rhaglen waith seiberddiogelwch sy’n seiliedig ar ein strategaeth seiber. Mae hyn yn cynnwys mentrau ar gyfer codi ymwybyddiaeth staff, gan gynnwys hyfforddiant ar seiberddiogelwch ar-lein. Rydym hefyd yn cynnal ymarferion pen bwrdd bob chwarter er mwyn profi ein gweithdrefnau a'n hymateb i ddigwyddiad diogelwch gwybodaeth.
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal cyrsiau dysgu ar-lein gorfodol i'r staff ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), diogelwch cyfrifiaduron yn y gweithle, ac ar ddiogelu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol ac yn gwybod y diweddaraf am sut rydym yn rheoli'r wybodaeth rydym yn ei chael a'i gadw. Mae cyfraddau cwblhau’r gweithgareddau dysgu ar-lein gorfodol yn parhau i wella, ac ategir y rhain gan sesiynau ymwybyddiaeth sydd wedi'u targedu. Rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid strategol fel Llywodraeth Cymru, y Gymuned Diogelu Data, fforymau lleol Cymru gydnerth a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i rannu dysgu a chynnal safonau.
Eleni, fel rhagofal, gwnaethom adrodd am un digwyddiad i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gofynnodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i unrhyw un y mae toriad data system pensiynau Capita wedi effeithio arnynt i roi gwybod iddynt. Er nad ydym yn rheolydd data ar gyfer y data hyn, roeddem yn teimlo ei bod yn briodol adrodd am hyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth er tryloywder ac er mwyn rhoi manylion iddynt ynghylch pa fesurau yr oeddem yn eu cymryd i gefnogi’r aelodau o’n staff yr effeithiwyd arnynt. Rydym wedi cael cadarnhad gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn ein erbyn am y toriad hwn a’u bod yn dal i ymchwilio i hyn gyda Capita.
Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Blwyddyn | Nifer yr achosion |
---|---|
2023/24 |
1 |
2022/23 |
0 |
2021/22 |
0 |
Datganiad o fuddiannau
Mae ein polisi a'n canllaw ar wrthdaro buddiannau yn cefnogi'r holl staff ac aelodau'r Bwrdd gyda'n proses barhaus i ddatgan buddiannau personol perthnasol er mwyn ein helpu i reoli unrhyw wrthdaro posibl neu wrthdaro canfyddiedig o fewn eu rolau proffesiynol. Mae adolygiad wedi'i amserlennu o'n polisïau, ein gweithdrefnau, ein hyfforddiant a’n dulliau adrodd sy’n ymwneud â gwrthdaro buddiannau yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Codi pryder difrifol er budd y cyhoedd
Codi pryder difrifol er budd y cyhoedd o fewn CNC
Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o gywirdeb ac atebolrwydd ac o fod yn agored. Disgwylir bod pawb sy’n gweithio i ni sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith yn gallu lleisio’r pryderon hynny. Rydym wedi ymrwymo i gymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i fynd i'r afael ag unrhyw achos o gamymddwyn a ddatgelir.
Felly, mae gennym fesurau sefydledig ar waith ar gyfer codi pryderon difrifol am gamymddwyn neu amhriodoldeb. Mae ein fframwaith yn cynnwys mynediad at rif ffôn cyswllt, a ffurflen ar-lein, lle gall rhywun godi pryderon yn ddienw os yw’n well ganddo.
Yn ystod 2023/2024, adroddwyd am 27 o achosion chwythu’r chwiban posibl drwy’r mecanweithiau chwythu’r chwiban. Ystyriwyd pob un yn unol â pholisïau a’n gweithdrefnau chwythu’r chwiban. O'r 27 adroddiad hyn, cafodd dau eu hadolygu a'u trin yn ffurfiol fel achosion chwythu'r chwiban a chafodd dau arall eu trin drwy ein gweithdrefnau ymchwilio i dwyll. Roedd wyth yn ymwneud â materion y tu allan i’r sefydliad ac nid ystyriwyd bod 15 yn achosion chwythu'r chwiban fel y'u diffinnir yn ein Polisi Chwythu'r Chwiban CNC, felly cawsant eu hatgyfeirio yn ôl i'r busnes i'w trin yn fewnol.
O'r ddwy achos a gawsant eu trin yn ffurfiol fel achosion chwythu'r chwiban, ni chafodd un achos ei gadarnhau ac mae’r achos arall yn yr arfaeth wrth i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.
Nifer yr achosion chwythu'r chwiban
Blwyddyn | Nifer yr achosion |
---|---|
2023/24 | 27 |
2022/23 | 7 |
2021/22 | 4 |
CNC fel person rhagnodedig ar gyfer codi pryder difrifol er budd y cyhoedd
Fe ddaethom yn ‘berson rhagnodedig’ yn 2020 ar ôl i Lywodraeth Cymru gysylltu â ni. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynd atynt i roi gwybod am gamymddwyn a amheuir neu y gwyddys amdano (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n berson rhagnodedig oherwydd bod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod y rhestr yn parhau’n gyfredol.
Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, cafwyd pedwar achos o adroddiad chwythu’r chwiban i berson rhagnodedig, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi’u codi y tu allan i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol.
O'r pedwar achos hynny a gafwyd, cafodd dau ohonynt eu trin yn ffurfiol fel achosion chwythu'r chwiban. Ni chafodd un ei gadarnhau ac mae’r achos arall yn yr arfaeth wrth i'r ymchwiliad gael ei gwblhau. Cyfeiriwyd y ddwy achos arall at y timau ymdrin â digwyddiadau yn y sefydliad ac ymdriniwyd â hwy o dan y prosesau cwyno arferol.
Twyll
Mae ein Strategaeth Gwrth-dwyll 2022 – 2026 yn gosod y cyfeiriad strategol a gynlluniwyd i gefnogi a chryfhau ein gallu i amddiffyn ein hunain rhag y niwed y gall twyll ei achosi. Bydd canolbwyntio’r strategaeth hon ar arferion gorau a safonau proffesiynol yn helpu i sicrhau bod dull gwrth-dwyll yn dod yn rhan annatod o’n ffordd o weithio. Cefnogir ein Strategaeth Gwrth-dwyll gan Bolisi Gwrth-dwyll, Gwrth-lwgrwobrwyo a Gwrth-lygredigaeth ddiwygiedig a Gweithdrefn Ymateb i Dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth.
Rydym yn parhau i fod mewn argyfwng costau byw, a gall pwysau fel y rheini a achosir gan gyfraddau chwyddiant uchel arwain at risg uwch o dwyll, sef y categori y mae troseddau eisoes yn cael eu hadrodd amlaf oddi tano yn y DU. Darperir cyrsiau dysgu ar-lein gorfodol i staff ar fesurau gwrth-dwyll, gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredigaeth. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i helpu staff i nodi baneri coch o ran risgiau a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau proffesiynol. Mae cyfraddau cwblhau'r modiwlau hyn yn parhau'n uchel.
Ystadegau cwblhau e-ddysgu ar gyfer 2023/2024
Fel rhan o’n gwaith atal a chanfod, cynhaliwyd asesiadau risg i nodi pa feysydd o'r sefydliad sydd â’r risg fwyaf o dwyll ac i ganolbwyntio ein rheolaethau lliniaru ar y meysydd hyn. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol, sef ymarfer paru data sydd wedi’i gynllunio i ganfod twyll a gwallau ar draws systemau talu.
Y llynedd, cawsom naw honiad o dwyll, y cafodd saith ohonynt yn unol â’n gweithdrefnau ymchwilio i dwyll, cafodd un honiad ei drin o dan weithdrefnau chwythu’r chwiban a chafodd yr honiad arall ei drin o dan ein gweithdrefnau adnoddau dynol. Mae pob achos o dwyll yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae’r holl ymchwiliadau wedi cael eu rheoli naill ai gan arbenigwr gwrth-dwyll achrededig neu ymchwilwyr allanol â chymwysterau tebyg. Caiff yr adroddiad terfynol ar bob achos ei gyfeirio at aelod annibynnol o’r uwch-staff.
Nifer yr honiadau a adroddwyd
Blwyddyn | Honiadau |
---|---|
2023/24 |
9 |
2022/23 |
8 (Cafodd y ffigwr hwn ei adrodd yn anghywir fel pump yn adroddiad blynyddol y llynedd, ond roedd yr adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gywir) |
2021/22 |
8 |
Er bod trefniadau atal twyll cadarn yn rhan o’n hymateb, mae gennym hefyd gyfrifoldeb i gefnogi ein gweithwyr a’u teuluoedd. Yn unol â hynny, mae cydweithwyr yn y tîm Gwasanaethau Pobl yn parhau i weithio ar ystod o fentrau i gefnogi unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol ac yn cynnig cymorth pan fo modd.
Cydymffurfio â'r codau a'r canllawiau gofynnol
Rydym wedi cwblhau adolygiad ac wedi cadarnhau bod ein strwythur sefydliadol, ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n harferion yn cydymffurfio â gofynion Pennod Chwech: Cyrff hyd braich, o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Adrannau Llywodraeth Ganolog.
Cefnogir y swyddog cyfrifyddu gan strwythur Bwrdd sy’n unol â'r Cod Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Adrannau Llywodraeth Ganolog, ac mae gweithdrefnau ategol ar waith i sicrhau y gall rolau'r Bwrdd weithredu'n effeithiol.
Fel penodiadau rheoleiddiedig, gwneir penodiadau’r cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Mae'r swyddog cyfrifyddu hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod system llywodraethiant corfforaethol a sicrwydd da ar waith, yn unol ag egwyddorion y Cod Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Adrannau Llywodraeth Ganolog.
Mae ein harweinyddiaeth yn gyson â’r rolau a chyfrifoldebau a ddisgwylir gan uwch reolwyr, gan sicrhau bod ein llwybrau adrodd yn glir er mwyn sicrhau atebolrwydd a bod rhaniad priodol o ddyletswyddau a rheolaethau mewnol allweddol ar waith; bod cyflogau uwch-staff yn cael eu hystyried gan swyddogion anweithredol er mwyn sicrhau annibyniaeth, ac rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’n rhanddeiliaid allweddol er mwyn cynnal perthnasoedd gwaith adeiladol.
Mae ein fframwaith rheoli risg sefydliadol wedi’i sefydlu yn unol â phum egwyddor y Llyfr Oren ac wedi’u sefydlu i alluogi’r sefydliad i’w cymhwyso, fel a ganlyn:
- Mae rheoli risg yn rhan hanfodol o lywodraethiant ac arweinyddiaeth, ac mae’n sylfaenol i’r ffordd y caiff y sefydliad ei gyfeirio, ei drin a’i reoli ar bob lefel
- Mae rheoli risg yn rhan annatod o holl weithgareddau'r sefydliad i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau wrth gyflawni amcanion
- Mae rheoli risg yn gydweithredol ac yn cael ei lywio gan yr wybodaeth a'r arbenigedd gorau sydd ar gael
- Mae prosesau rheoli risg wedi’u strwythuro fel eu bod yn cynnwys y canlynol:
- Proses o nodi ac asesu risgiau
- Proses o ddethol, dylunio a gweithredu opsiynau ar gyfer trin risgau
- Proses o gynllunio a gweithredu gwaith monitro risg sy’n integredig, yn graff ac yn llawn gwybodaeth
- Adroddiadau risg amserol, cywir a defnyddiol er mwyn gwella’r prosesau o wneud penderfyniadau a goruchwylio
- Gwelliant parhaus drwy ddysgu a phrofiad
Ein fframwaith sicrwydd
Mae ein fframwaith sicrwydd yn cynnwys y mesurau canlynol, sydd ar waith er mwyn sicrhau fy mod yn cael tystiolaeth amserol i ddangos bod y rheolaethau gofynnol ar waith ac yn gweithio'n briodol.
Archwiliadau mewnol
Caiff y farn yn sgil yr archwiliad blynyddol ei llywio'n rhannol gan y cynllun archwilio mewnol. Eleni rhoesom “sicrwydd anfoddhaol” ar gyfer un o feysydd archwilio Sicrwydd TGCh ac roedd pob un o’r archwiliadau arall yn gymedrol neu'n sylweddol. Mae adolygiad o aeddfedrwydd risg wedi rhoi lefel dau fel sgôr o aeddfedrwydd (ar raddfa o 1 i 5), ac argymhellir bod CNC yn gweithio tuag at gynyddu’r aeddfedrwydd i lefel tri. Bydd y gwelliant hwn yn golygu bod prosesau rheoli risg yn cael eu gweithredu ym mhob maes allweddol. Ar hyn o bryd mae gan CNC yr hanfodion ar gyfer rheoli risg ac mae wedi cynllunio ar gyfer gweithredu’n well ar draws y sefydliad. Ar hyn o bryd nid yw rheolaeth risg CNC yn ddigon aeddfed i atal risgiau rhag tarfu ar y busnes. Mae CNC wedi sefydlu Rhaglen CNC 2030 yn rhannol i fynd i’r afael â’r gwendid a nodwyd yn y fframwaith rheolaeth fewnol ar gyfer TGCh, gyda phrosiect ar gyfer sefydlogi TGCh yn cael ei gynnal. Mae darparu pobl yn parhau i fod yn her yn CNC oherwydd y pwysau ar gyllidebau ar draws y sector cyhoeddus, ond nodir bod CNC wedi mabwysiadu dull blaenoriaethu ar gyfer ymdrin â’r pwysau ar adnoddau.
I gloi, mae fy ngwerthusiad proffesiynol o reolaethau mewnol, llywodraethiant a rheoli risg wedi fy arwain i’r casgliad bod angen gwelliannau o hyd yn 2023/2024 er mwyn gwella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaethau risg. Gallaf felly gynnig barn sicrwydd gyffredinol gymedrol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Nodir bod CNC yn parhau i wneud cryn dipyn o waith wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â gwendidau a nodwyd o ran llywodraethiant, risg a rheolaeth.
Archwiliadau allanol
Mae gwaith craffu annibynnol yn ffynhonnell bwysig inni o ran cael sicrwydd, ac mae’n darparu tystiolaeth o'n ffyrdd o weithio mewn perthynas ag arferion gorau a safonau'r diwydiant. Mewn rhai rhannau o'r sefydliad, rydym yn destun archwiliadau neu adolygiadau allanol o'n gwaith, neu'n dewis eu cael. Cynhelir rhai ohonynt yn flynyddol, er enghraifft Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig, neu ISO 14001:2015 er mwyn cynnal ein system rheoli amgylcheddol. Rydym yn gofyn am rai eraill fel un o nifer o ddarnau o waith er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i’n hunain am feysydd gwaith neu weithgareddau penodol.
Effeithiolrwydd y system rheolaethau mewnol
Mae’r system rheolaethau mewnol yn seiliedig ar y systemau, y strwythurau a’r egwyddorion sydd ar waith o fewn y sefydliad sy’n lliniaru ac yn rheoli’r risgiau i’n nodau ac amcanion. Rydym yn gyfrifol am gynnal system gadarn o reolaethau mewnol sydd ar yr un pryd yn cefnogi cyflawniad ein nodau a’n hamcanion, wrth hefyd ddiogelu’r arian cyhoeddus ac asedau’r sefydliad yr ydym yn gyfrifol amdanynt.
Er mwyn ein galluogi i roi sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd ein system rheolaethau mewnol, mae proses adolygu wedi’i chynnal, sef y Rhestr Wirio Rheolaethau Mewnol, ac yng ngham olaf y broses caiff tystysgrif sicrwydd ei llofnodi gan bob cyfarwyddwr gweithredol ar gyfer ei faes awdurdod dirprwyedig. Yna cyflwynir y dystysgrif sicrwydd i'r swyddog cyfrifyddu. Mae prif elfennau’r broses adolygu wedi’u nodi isod:
Eleni cafodd rhagor o ddatblygiadau eu hintegreiddio i’r broses, gan gynnwys y canlynol:
- Cyflwyno adolygiadau chwarterol ar ôl cwblhau proses Rhestr Wirio Rheolaethau Mewnol 2022-2023. Rhoddodd hyn gyfle i’r cyfarwyddwyr gweithredol ystyried yn rheolaidd unrhyw newidiadau i lefel eu sicrwydd mewn perthynas ag effeithiolrwydd y rheolaethau mewnol yn eu cyfarwyddiaeth drwy gydol y flwyddyn fel proses adolygu barhaus
- Cyflwyno arolwg gorfodol ar gyfer y Tîm Arwain a’r Tîm Rheoli, sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â'r prosesau busnes sy'n gyfrifol am gyflawni rheolaethau allweddol
- Mwy o aeddfedrwydd ac eglurder mewn perthynas â chategoreiddio'r sicrwydd a geir mewn perthynas â'r model tair llinell a sicrwydd trionglog
- Canolbwyntio mwy ar nodi bylchau / gwendidau yn y system rheolaethau mewnol a datblygu cynllun gweithredu yn sgil hynny.
Mae'r Tîm Gweithredol wedi ystyried a safoni'r dadansoddiad o'r canlyniadau a'r graddau sicrwydd a briodolwyd gan y cyfarwyddwyr, ac wedi cymeradwyo'r camau gweithredu a nodwyd i unioni unrhyw wendidau sylweddol a nodwyd.
Mae’r gwendidau canlynol o fewn y system rheolaethau mewnol, a’r camau cyfatebol a gymerwyd i fynd i’r afael â nhw wedi’u nodi o ganlyniad i’r adolygiad o’r system rheolaethau mewnol:
Mater a nodwyd |
Camau gweithredu i fynd i'r afael ag ef |
Maes cyfrifol |
---|---|---|
Y gweithlu |
Un o bedair elfen Portffolio Trawsnewid CNC hyd at 2030 yw’r Rhaglen Trawsnewid Pobl, sy’n cynnwys nifer o is-brosiectau ffurfiol. Bwriad y rhaglen yw gwella systemau a phrosesau’r gweithlu yn sylweddol, a bydd yn cryfhau rheolaethau ar draws y gwasanaeth gan alluogi’r sefydliadi gyflawni’r cynllun corfforaethol a’r amcanion llesiant yn effeithlon. Mae’r prosiectau ffurfiol sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen ac sydd i’w datblygu neu eu cwblhau yn ystod 2024-2025 yn cynnwys y canlynol:
|
Datblygu Sefydliadol |
TGCh |
Un arall o’r pedair elfen ar Bortffolio Trawsnewid CNC hyd at 2030 yw’r Rhaglen Trawsnewid Technoleg, sy’n cynnwys nifer o is-brosiectau ffurfiol. Bwriad y rhaglen yw gwella systemau a phrosesau’r gweithlu yn sylweddol, a bydd yn cryfhau rheolaethau ar draws y gwasanaeth gan alluogi’r sefydliadi gyflawni’r cynllun corfforaethol a’r amcanion llesiant yn effeithlon. Mae’r prosiectau ffurfiol sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen ac sydd i’w datblygu neu eu cwblhau yn ystod 2024-2025 yn cynnwys y canlynol:
|
TGCh |
Amcanion Llesiant (Llywodraethiant a Goruchwylio) |
Mae'r cylch y cynllun corfforaethol newydd wedi ein galluogi i adolygu’r ffordd yr ydym yn ymdrin â chynllunio a pherfformiad. Bydd ein fframwaith rheoli perfformiad diwygiedig yn sicrhau bod darlun cliriach rhwng gwaith cyflawni strategol a chyflawni’n weithredol. Mae 2024-2025 yn flwyddyn ddatblygu, pan fyddwn hefyd yn adolygu polisïau a chanllawiau ar gyfer llywodraethu a goruchwylio’r amcanion llesiant.
Drwy gydol y flwyddyn ddatblygiadol hon, byddwn yn sicrhau y mabwysiedir dull cydlynol o ymdrin â llywodraethiant a pherfformiad yn erbyn yr amcanion llesiant ar draws yr elfennau uchod. Bydd hyn yn llywio ein penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau. |
Swyddfa Rheoli Strategaeth Corfforaethol a Rhaglenni |
Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro - 16 Hydref 2024
Adroddiad cyflogau a staff (wedi'i archwilio)
Y polisi cyflogau
Mae’r Bwrdd wedi sefydlu pwyllgor, sef y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid, i ystyried materion sy’n ymwneud â chyflogau ac amodau cyflogaeth y staff yn y swyddi uchaf a’r strategaeth gyflogau gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan y sefydliad. Mae’r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o’r Bwrdd. Mae cadeirydd y Bwrdd yn aelod ex-officio o'r pwyllgor.
Gosodir cyflogau'r cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd gan Weinidogion Cymru. Mae telerau’r contract ar gyfer uwch-weithwyr sy’n aelodau o’r Tîm Gweithredol yn seiliedig ar delerau ac amodau’r sefydliad. Nid yw'r polisi cyflogau ar gyfer y staff ar y lefel uchaf yn destun cydfargeinio, a chaiff y pecyn cyflog ei bennu drwy gyfeirio at y defnydd o’r weithdrefn Arfarnu Swyddi ar gyfer Uwch-swyddi a chyflog ar y pryd. Caiff y cyflog ei gynyddu gan yr un ganran â chyflog Gradd 11 (sef y raddfa gyflog uchaf ar gyfer staff nad ydynt yn gyfarwyddwyr).
Contractau gwasanaeth
Gwneir pob penodiad i’r Bwrdd ar ran y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n noddi’r sefydliad.
Disgwylir i'r Prif Weithredwr ac aelodau'r Tîm Gweithredol gael eu cyflogi o dan gontractau parhaol. Caiff penodiadau eu gwneud yn unol â'n polisi recriwtio, sy'n ei gwneud yn ofynnol i benodiad gael ei wneud yn ôl haeddiant ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Oni nodir yn wahanol isod, mae'r aelodau o’r Tîm Gweithredol a gwmpesir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau parhaol. Rhaid i'r swyddogion a'r aelodau Bwrdd hyn ddarparu tri mis o rybudd o'u bwriad i adael.
Cyflogau a hawliadau pensiwn
Mae’r adrannau a ganlyn yn rhoi manylion ynghylch cyflogau aelodau’r Bwrdd a chyflogau a buddiannau pensiwn aelodau’r Tîm Gweithredol. Nid oes gan aelodau Bwrdd yr hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil nac i dderbyn buddiannau eraill. Byddai terfyniad cynnar, ac eithrio oherwydd camymddwyn, yn arwain at aelodau'r Tîm Gweithredol yn cael iawndal sy'n gyson â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Nid oes gan aelodau Bwrdd yr hawl i gael iawndal.
Cyflog
Mae cyflog yn ymwneud â symiau pensiynadwy a symiau nad ydynt yn bensiynadwy ac mae'n cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfansau neu daliadau sy'n ddarostyngedig i drethiant yn y DU. Nid yw'n cynnwys symiau sy'n ad-daliad o dreuliau sydd wedi deillio'n uniongyrchol o gyflawni dyletswyddau unigolyn.
Cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad
Mae unrhyw gynnydd mewn cyflog ar gyfer y Tîm Gweithredol yn amodol ar asesu perfformiad naill ai’n ‘Eithriadol’ neu’n ‘Cyflawni’ gan y Prif Weithredwr a’i safoni gan y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid. Bydd y cynnydd a roddir yn cael ei bennu gan y codiad cyflog a gymhwysir ar gyfer y bobl hynny sydd o fewn yr uned gydfargeinio. Pan fernir bod rhywun yn tanberfformio ni fydd codiad cyflog yn cael ei roi.
Buddion mewn nwyddau
Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan y cyflogwr ac a ymdrinnir fel enillion y gellir eu trethu gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Ni dderbyniodd unrhyw un o aelodau’r Bwrdd na’r Tîm Gweithredol fuddion mewn nwyddau yn ystod 2023/2024 a 2022/2023.
Ni dderbyniodd unrhyw un o aelodau’r Bwrdd na’r Tîm Gweithredol unrhyw gyflog heblaw’r symiau a ddangosir isod.
Cyflogau aelodau’r Bwrdd
Aelod y Bwrdd |
Rolau Bwrdd a phwyllgorau (yn ystod 2023/2024) |
Dyddiadau’r contract |
Cyflog 2023/2024 (ystod o £5,000) |
Cyflog 2022/2023 (ystod o £5,000) |
---|---|---|---|---|
Karen Balmer |
Amherthnasol |
9/11/15 tan 31/3/23 |
Amherthnasol |
10-15 |
Catherine Brown |
Amherthnasol |
1/11/18 tan 31/10/22 |
Amherthnasol |
5-10 |
Julia Cherrett |
Amherthnasol |
1/11/18 tan 31/5/23 |
0-5 |
15-20 |
Geraint Davies |
Amherthnasol |
1/1/19 tan 31/10/24 |
10-15 |
10-15 |
Peter Fox |
Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd |
16/2/23 tan 31/10/26 |
15-20 |
0-5 |
Paul Griffiths |
Amherthnasol |
1/9/21 tan 25/5/22 |
Amherthnasol |
0-5 |
Syr David Henshaw |
Cadeirydd y Bwrdd |
1/11/18 tan 31/10/25 |
45-50 |
45-50 |
Zoë Henderson |
Amherthnasol |
9/11/15 tan 8/5/23 |
0-5 |
10-15 |
Calvin Jones |
Cadeirydd y Pwyllgor Ystadau Tir |
1/9/21 tan 31/10/28 |
15-20 |
10-15 |
Lesley Jones |
Amherthnasol |
1/6/23 tan 31/10/26 |
10-15 |
Amherthnasol |
Rhys Jones |
Amherthnasol |
16/2/23 tan 31/10/27 |
10-15 |
0-5 |
Mark McKenna |
Cadeirydd y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid |
1/9/21 tan 31/10/28 |
15-20 |
10-15 |
Steve Ormerod |
Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth o fis Tachwedd |
1/11/18 tan 31/10/25 |
15-20 |
15-20 |
Kathleen Palmer |
Cadeirydd Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg |
16/2/23 tan 31/10/26 |
15-20 |
0-5 |
Helen Pittaway |
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid |
16/2/23 tan 31/10/26 |
15-20 |
0-5 |
Rosie Plummer |
Cadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig |
1/11/18 tan 31/10/24 |
15-20 |
15-20 |
Peter Rigby |
Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth hyd at fis Hydref |
1/11/18 tan 31/10/23 |
5-10 |
15-20 |
Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2023/24
Aelod o’r Tîm Gweithredol
|
Cyflog (ystod o £5,000) 2023/24 |
Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) 2023/24 |
Buddion pensiwn (i'r £1,000 agosaf) 2023/24 |
Cyfanswm (ystod o £5,000) 2023/24 |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
150-155 |
0 |
40,000 |
190-195 |
Rachael Cunningham |
125-130 |
0 |
46,000 |
170-175 |
Ceri Davies |
125-130 |
0 |
37,000 |
160-165 |
Prys Davies |
105-110 |
0 |
30,000 |
135-140 |
Sarah Jennings |
130-135 |
0 |
51,000 |
180-185 |
Gareth O’Shea |
115-120 |
0 |
32,000 |
145-150 |
Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2022/23
Aelod y Tîm Gweithredol |
Cyflog (ystod o £5,000) |
Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) |
Buddiannau pensiwn (i'r £1,000 agosaf) |
Cyfanswm (ystod o £5,000) |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
145-150 | 0 | Negyddol 10,000 | 135-140 |
Rachael Cunningham | 115-120 | 0 | 21,000 | 140-145 |
Ceri Davies | 115-120 | 0 | Negyddol 2,000 | 115-120 |
Prys Davies | 100-105 | 0 | 10,000 | 110-115 |
Sarah Jennings | 120-125 | 0 | 49,000 | 170-175 |
Gareth O'Shea | 110-115 | 0 | Negyddol 48,000 | 60-65 |
Nodiadau tabl:
- Cyfrifir gwerth buddiannau pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd pensiwn gwirioneddol wedi'i luosi ag 20, yn ogystal â’r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad, llai y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Cyfrifir y cynnydd gwirioneddol drwy ddidynnu'r prisiad agoriadol o'r prisiad terfynol. Mae'r cynnydd gwirioneddol yn eithrio cynnydd o ganlyniad i chwyddiant neu unrhyw newidiadau o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn. Caiff codiadau chwyddiant eu heithrio drwy gymhwyso ffactor cynnydd gwirioneddol i'r gwerth ar ddechrau'r flwyddyn.
Ar gyfer newidiadau mewn lefelau cyflog, efallai na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso’r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn termau real, gall gwerth y pensiwn ostwng, a dyna pam mae gwerthoedd negyddol i'w gweld.
Nid yw'r gwerth hwn yn cynrychioli'r swm y bydd yr unigolyn yn ei gael. Bwriad y cyfrifiad yw cyfleu i’r darllenydd y cyfrifon amcangyfrifiad o'r budd a all ddeillio o fod yn aelod o'r cynllun pensiwn. Mae'r tabl buddiannau pensiwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y buddiannau pensiwn sy'n cael eu cronni gan yr unigolyn.
Buddiannau pensiwn
Aelod o’r Tîm Gweithredol
|
Pensiwn cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/3/24 (£000) |
Cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/3/24 (£000) |
Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn ar oed pensiwn (£000) |
Cynnydd gwirioneddol yn y cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn (£000) |
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/3/24 (£000) |
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/3/23 (£000) |
Cynnydd gwirioneddol mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (£000) |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
75-80 |
145-150 |
2.5-5 |
0 |
1,675 |
1,503 |
24 |
Rachael Cunningham |
40-45 |
0 |
2.5-5 |
0 |
807 |
709 |
29 |
Ceri Davies |
65-70 |
80-85 |
2.5-5 |
0 |
1,404 |
1,261 |
24 |
Prys Davies |
35-40 |
90-95 |
0-2.5 |
0 |
780 |
696 |
16 |
Sarah Jennings |
10-15 |
0 |
2.5-5 |
0 |
177 |
115 |
39 |
Gareth O’Shea |
65-70 |
100-105 |
0-2.5 |
0 |
1,407 |
1,268 |
19 |
Mae pensiwn cyflog terfynol unigolyn mewn cyflogaeth yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei gyflog a hyd ei wasanaeth. Bydd y pensiwn yn cynyddu o un flwyddyn i'r nesaf yn rhinwedd unrhyw godiad cyflog yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer newidiadau mewn lefelau cyflog, efallai na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso’r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn timau real, gall gwerth y pensiwn ostwng. Lle mae’r symudiad mewn gwerth cyfandaliad cronnus yn negyddol mewn termau real, caiff hyn ei adrodd yn y tabl uchod fel £0.
Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd Adran Actiwari'r Llywodraeth ffactorau diwygiedig i'w defnyddio. Er cysondeb, mae swm y Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod agoriadol wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio'r ffactorau newydd, ac felly mae’r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod agoriadol a ddatgelir yma yn wahanol i'r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod terfynol a adroddwyd yn y tabl cyfatebol yn adroddiad 2022-2023.
Adroddwyd am unrhyw aelodau yr effeithir arnynt gan y Cynllun Rhwymedïol Pensiynau y Gwasanaeth Cyhoeddus yng nghynllun 2015 am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 yn 2022-2023 ond cânt eu hadrodd yn y cynllun etifeddiaeth ar gyfer yr un cyfnod yn 2023-2024.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV)
Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf a aseswyd gan actiwari buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddiannau a werthusir yw'r buddiannau a gronnir gan yr aelod ac unrhyw bensiwn priod wrth gefn sy'n daladwy o'r cynllun. Mae Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo'r buddiannau y mae wedi'u cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau y mae'r unigolyn wedi'u cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth ar y cynllun pensiwn, ac nid ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef yn unig.
Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'i drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiannau pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddiannau pensiwn ychwanegol ar gost i'w hun. Caiff Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod eu cyfrifo yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl i fuddion a ddaw yn sgil Treth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gaiff buddion pensiwn eu cymryd.
Cynnydd gwirioneddol mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod
Mae hyn yn dangos y cynnydd mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys cynnydd mewn pensiwn a gronnwyd oherwydd chwyddiant neu gyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad cyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Iawndal ar gyfer colli swydd
Ni chytunwyd ar unrhyw iawndal am golli swydd yn ystod 2023/24 na 2022/2023.
Datgelu cyflog teg
Rhaid i ni a chyrff tebyg ddatgelu'r berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr a delir fwyaf yn eu sefydliad a chyflog canolrifol gweithlu'r sefydliad. Mae cyfanswm y cyflog yn cynnwys cyflog a buddion mewn nwyddau pan fo'n berthnasol.Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, na'r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod.
Yn 2023/2024, codwyd cyfradd ar un contractwr (2022/2023: 3) a oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf.
Band cyflog y cyfarwyddwr a delir fwyaf (fel y dangosir uchod) yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24 oedd £150,000 i £155,000 (2022/23: £145,000 i £150,000). Roedd hyn 3.8 gwaith (2022/23 3.8 gwaith) cyflog ganolrifol y gweithlu, gyda chymhariaeth mewn perthynas â chyflog uchaf, canolrifol a chwartel isaf a gyflwynir yn y tabl canlynol.
Cymhareb Cyflog y Gweithlu Cyfan
Cymhareb tâl y gweithlu |
2023/2024 (£) |
2022/2023 (£) |
Symudiad (%) |
---|---|---|---|
Chwartel uchaf |
46,673 |
46,003 |
1.46 |
Cymhareb |
3.3 |
3.2 |
N/A |
Canolrif |
40,426 |
38,492 |
5.02 |
Cymhareb |
3.8 |
3.8 |
N/A |
Chwartel isaf |
35,686 |
32,876 |
8.55 |
Cymhareb |
4.3 |
4.4 |
N/A |
Mae graddfeydd cyflog staff yn amrywio o £24,242 i £76,259 (2022/23: £21,655 i £72,627).
Canran y cynnydd mewn cyflog, buddion mewn nwyddau a thâl ar sail perfformiad yn ystod y flwyddyn oedd:
Staff |
Symudiad % |
---|---|
Cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf | 5.0 |
Yr holl weithlu |
1.2 |
Wedi'u cyflogi'n uniongyrchol |
5.0 |
Fel sy’n ofynnol gan y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, wedi’u cynnwys yn y gweithlu yn y tablau uchod mae gweithwyr parhaol, penodiadau cyfnod penodol, prentisiaid, secondeion, staff asiantaeth a chontractwyr, lle mae’r tâl wedi’i gyfrifo ar sail flynyddol.
Adroddiad yr holl staff
Polisi Cyflogau Staff
Mae cytundeb partneriaeth gymdeithasol ar waith gyda phum undeb llafur, a gosodir telerau ac amodau ar gyfer staff o dan yr aelodau’r tîm gweithredol trwy gytundeb ar y cyd gyda'r partneriaid cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo unrhyw newidiadau i gyflog, telerau ac amodau ac yn rhoi cylch gwaith cyflogau i’r sefydliady mae’n rhaid iddo gyflawni o’i fewn. Roedd cyflog eleni ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, a gwelwyd cynnydd o 5% yn ein bil cyflogau. Fel un o gyflogwyr achrededig y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol, fe wnaethom gymhwyso’r gyfradd newydd (£12) ym mis Tachwedd a’i hôl-ddyddio i Ebrill 2023. Cymhwyswyd dyfarniad cyflog o 5% i hyn a'r holl bwyntiau cyflog ac ychwanegiadau a thaliadau (lwfansau) ond heb gynnwys y Dyfarniad Teyrngarwch ac Atodiad y Farchnad. Nid oedd y cynnig hwn, fel y cytunwyd eisoes drwy'r ymgynghoriad ar y cynllun Gwerthuso Swyddi, yn berthnasol i'r bobl hynny a oedd wedi dewis, yn flaenorol, i beidio â bod yn rhan o'r cynllun hwn.
I gydnabod yr effaith yr oedd pwysau costau byw yn ei chael ar ein staff ac yn debyg i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gwnaethom daliad untro o £1,500 i’r holl staff, ac eithrio’r Tîm Gweithredol, ym mis Medi 2023. Roedd hyn ar wahân i'r dyfarniad cyflog.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad a chostau ein gweithlu. Mae’r tablau isod yn cynnwys staff sy'n gyflogeion parhaol, penodiadau cyfnod penodol a phrentisiaid yn ogystal â staff asiantaeth, contractwyr a secondeion.
Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2024
Gwrywod
Gweithwyr |
Fesul pen |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
1,350 |
1,319 |
O'r rhain Tîm Arwain |
15 |
15 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
2 |
2 |
Benyw
Gweithwyr |
Nifer y gweithwyr |
Cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
1,186 |
1,116 |
O'r rhain Tîm Arwain |
13 |
12 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
4 |
4 |
Cyfanswm
Gweithwyr |
Fesul pen |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
2,536 |
2,435 |
O'r rhain Tîm Arwain |
28 |
27 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
6 |
6 |
Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2023
Gwrywod
Gweithwyr |
Fesul pen |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
1,391 |
1,364 |
O'r rhain Tîm Arwain |
13 |
13 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
2 |
2 |
Benyw
Gweithwyr | Nifer y gweithwyr | Cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
1,168 |
1,097 |
O'r rhain Tîm Arwain |
14 |
13.5 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
4 |
4 |
Cyfanswm
Gweithwyr |
Nifer y gweithwyr |
Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai |
2,559 |
2,461 |
O'r rhain Tîm Arwain |
27 |
26.5 |
O'r rhain Tîm Gweithredol |
6 |
6 |
Nifer cyfartalog yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a dalwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
Personau cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu |
Staff parhaol (2023/24) |
Eraill (2023/24) |
Cyfanswm (2023/24) |
Cyfanswm (2022/23) |
---|---|---|---|---|
Wedi'u cyflogi'n uniongyrchol |
2,295 |
76 |
2,371 |
2,232 |
Staff asiantaeth a chontract |
0 |
91 |
91 |
158 |
Cyfanswm |
2,295 |
167 |
2,462 |
2,390 |
Nifer cyfartalog y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd ar brosiectau cyfalaf oedd
216.7 (2022/23: 246.1).
Trosiant staff
Y trosiant staff yn ystod 2023/24 oedd 5% heb gynnwys gweithwyr dros dro e.e. penodiadau am gyfnod penodol (2022/23 4.9%).
Costau staff
Costau staff a gwariant arall ar gyfer staff |
Staff parhaol - 2023/24 (£'000)
|
Staff (£'000) |
Cyfanswm - 2023/24 (£'000) |
Cyfanswm - 2022/23 (£'000) |
|
---|---|---|---|---|---|
Cyflogau |
99,303 |
8,842 |
108,145 |
98,571 |
|
Costau nawdd cymdeithasol a threthi eraill |
10,742 |
778 |
11,520 |
10,180 |
|
Costau pensiwn eraill |
23,970 |
686 |
24,656 |
21,978 |
|
Cyfanswm costau cyflog net |
134,015 |
10,290 |
144,321 |
130,729 |
|
Gwariant arall ar gyfer staff |
N/A |
Nodyn |
N/A |
N/A |
|
Costau pecynnau ymadael |
N/A |
N/A |
13 |
81 |
|
Tâl gwasanaeth Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19 (pensiynau) |
N/A |
15 |
6,988 |
14,855 |
|
Llai o gostau pensiwn ymddeoliadau cynnar |
N/A |
N/A |
Negyddol 5 |
78 |
|
Llai o gyfraniadau pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y flwyddyn |
N/A |
N/A |
Negyddol 6,894 |
Negyddol 6,894 |
|
Symudiad mewn cyflog gwyliau a gronnwyd |
N/A |
N/A |
15 |
138 |
|
Cyfanswm gwariant arall ar gyfer staff |
N/A |
N/A |
117 |
8,258 |
|
Llai o symiau a delir i brosiectau cyfalaf |
N/A |
N/A |
Negyddol 12,956 |
Negyddol 14,136 |
|
Cyfanswm costau staff |
N/A |
N/A |
131,482 |
124,851 |
Gellir gweld manylion ein rhwymedigaethau pensiwn yn Nodyn 15.
Mae manylion cyflogau aelodau'r Bwrdd a chyfarwyddwyr yn yr adroddiad cyflogau. Mae'r gwasanaethau a brynwyd i mewn yn Nodyn 5 (gwariant arall) yn cynnwys £4.7 miliwn o wariant ar ymgynghorwyr (2022/2203 £5.5 miliwn).
Yn ystod y flwyddyn, mae’r methodoleg a ddefnyddiwyd y gyfrifo gwariant ar ymgynghorwyr wedi cael ei addasu, gyda’r ffigwr cyfatebol ar gyfer 2022/23 hefyd wedi’i ddiweddaru er cysondeb.
Cynlluniau Pensiwn
Rydym yn aelod o ddau gynllun pensiwn. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun agored ac yn cynnwys y cynllun buddion diffiniedig, Alpha, yn ogystal â chynllun cyfraniadau diffiniedig partneriaeth rhanddeiliaid. Rydym hefyd yn aelod caeedig o Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd o dan gytundeb derbyn cymunedol. Dangosir rhagor o fanylion am y cynlluniau pensiwn hyn isod.
Cyfraniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr na chânt eu hariannu yw PCSPS a'r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn “Alpha”, ond nid yw'r cynlluniau yn nodi cyfran sefydliadau unigol o'r asedau a rhwymedigaethau sylfaenol. Cwblhawyd prisiad actiwaraidd llawn diweddaraf y Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar 31 Mawrth 2020 ym mis Medi 2023. Gallwch weld y manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil yn https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/knowledge-centre/resources/resource-accounts/
Ar gyfer 2023/2024, roedd cyfraniadau cyflogwr o £6,899k yn daladwy i’r Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (2022/2023: £14,855k) ar un o bedair cyfradd yn yr ystod 26.6% i 30.3% o enillion pensiynadwy (ar gyfer 2022/2023 26.6% i 30.3 %), yn seiliedig ar fandiau cyflog. Fel arfer, mae actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o'r cynllun llawn. Mae cyfraddau’r cyfraniadau wedi'u gosod er mwyn talu costau'r buddion a gronnir yn ystod 2023/24, sydd i gael eu talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a delir yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr cyfredol.
Pensiynau partneriaeth rhanddeiliaid
Gall y gweithwyr ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid gyda chyfraniad cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr o £169,000.00 (2022/2023: £156,000.00) i’r darparwr pensiwn rhanddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn seiliedig ar oedran ac yn amrywio rhwng 8% a 14.75%. Mae cyflogwyr hefyd yn talu cyfraniadau cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy. Yn ogystal, roedd cyfraniadau cyflogwr gwerth £5,000 sef 0.5% o gyflog pensiynadwy (2022/23: £5,000), yn daladwy i'r PCSPS i dalu’r costau o ddarparu buddion cyfandaliad yn y dyfodol yn sgil marw yn y swydd neu ymddeoliad oherwydd salwch y cyflogeion hyn.
Nid oedd unrhyw gyfraniadau'n ddyledus i'r darparwyr pensiwn partneriaeth ar ddyddiad y fantolen, ac ni chafodd unrhyw gyfraniadau eu talu ymlaen llaw.
Cyfraniadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
Rydym yn gwneud taliadau i’r Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd, fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol drwy Capita, gweinyddwyr y gronfa bensiwn.
Cynllun pensiwn statudol i'r gwasanaethau cyhoeddus yw'r LGPS, sydd wedi'i ariannu ac sy'n gwneud cyfraniadau diffiniedig. Bob tair blynedd, mae'r Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd (EAPF) yn prisio'r pensiwn ar y cyd ag actiwari'r cynllun. Ar 31 Mawrth 2022, asesodd y prisiad fod sefyllfa ariannol yr EAPF ar lefel ariannu o 103% (2019: 106%). Prif ddiben y prisiad actiwaraidd yw i adolygu sefyllfa ariannol y gronfa a phennu faint bydd cyflogwyr yn cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.
Mae gennym ni gytundeb derbyn cymunedol gyda Chronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd (EAPF) i gymryd rhan yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyn staff Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a drosglwyddodd i’n sefydliad ar 1 Ebrill 2013. Cafodd y rhwymedigaethau ar gyfer cyn-aelodau a gyflogwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o ran swyddogaethau Cymru (pensiynau mewn taliad ac aelodau gohiriedig) eu trosglwyddo hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i warant gyda Chronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd i’w hindemnio am unrhyw rwymedigaethau sy’n deillio o gyfranogiad CNC yn y Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd.
Cyfradd y cyfraniad cyflogwr yn ystod 2023/24 oedd 22.50% (2022/23: 23.76%) Yn 2023/2024 talwyd cyfraniadau cyflogwr o £6,894k i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (2022/2023: £6,894k) sy'n lleihau'r balans ar gronfa bensiwn IAS 19.
Ymddeolodd tri unigolyn (2022-23: dau berson) yn gynnar ar sail afiechyd; cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn y flwyddyn oedd £55,000.00 (2022-23: £34,000.00).
Pecynnau ymadael
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost |
2023/2024 |
2022/2023 |
---|---|---|
Llai na £10,000 |
1 |
4 |
£10,001 - £25,000 |
1 |
2 |
£25,001 - £50,000 |
0 |
1 |
£50,001 - £100,000 |
0 |
0 |
£100,001 - £150,000 |
0 |
0 |
Cyfanswm |
2 |
7 |
Cost adnoddau |
£13,000 |
£88,000 |
Nid oedd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn 2023/2024 nac yn 2022/2023.
Mae costau ymadael gwirfoddol wedi'u talu yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae'r tabl uchod yn dangos cyfanswm cost y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac y cafodd eu cyfrif yn 2023/24. Mewn gwirionedd, talwyd costau ymadael o £27,000 yn 2023/24, sef y flwyddyn ymadael. Pan fyddwn ni wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, caiff y costau ychwanegol eu talu gan y sefydliad hwn ac nid gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol salwch eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi cael eu cynnwys yn y tabl.
Absenoldeb oherwydd salwch (nad yw'n cael ei archwilio)
Dangosodd cyfradd ein habsenoldebau oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn dreigl (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024) y collodd pob cyflogai 5.4 o ddiwrnodau ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 2.4%.
Polisïau anabledd (nad ydynt yn cael eu harchwilio)
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Yn ystod 2023/2024, gwnaethom barhau i gydymffurfio â’n cynllun gwarantu cyfweliad ‘Tic Dwbl’ lle mae ymgeiswyr sy’n datgan eu bod yn anabl, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl y gwneir cais amdani, yn cael eu gwahodd yn awtomatig i gyfweld.
Yn allanol, cawsom geisiadau gan 2,163 o bobl, yr oedd 92 (4.25%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Yn fewnol, cawsom geisiadau gan 533 o bobl, yr oedd deg (1.87%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Mae’r ffigurau hyn gyda chefndir o weithredu rhewi recriwtio ym mis Awst 2023.
Cynllun Gwarantu Cyfweliad ‘Tic Dwbl’
Grwpiau Adnoddau Gweithwyr (ERG) - Rhwydweithiau Staff (heb eu harchwilio)
Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr (ERG), a elwir hefyd yn Rhwydweithiau Gweithwyr neu Staff, yn le cefnogol a chroesawgar i’n cydweithwyr ddod ynghyd i greu newid yn y gweithle. Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn aml yn canolbwyntio ar nodwedd warchodedig a dangynrychiolir yn y gweithle. Mae'r rhwydweithiau'n rhoi cyfle i'n cydweithwyr gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydwaith.
Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr hefyd yn cyflawni'r tasgau hanfodol o greu arferion da amrywiaeth a chynhwysiant newydd sy'n dylanwadu ar y rhai sy'n gyfrifol am eu gweithredu.
Yn ystod y flwyddyn hon, sefydlwyd dau Grŵp Adnoddau Gweithwyr newydd i gefnogi ein cydweithwyr, sef y Rhwydwaith Staff Merched a’r Rhwydwaith Staff Nam ar y Golwg o dan y Grŵp Adnoddau Gweithwyr Anabledd ehangach.
Mae gan bob un o'n Grwpiau Adnoddau Gweithwyr dudalen fewnrwyd bwrpasol gyda gwybodaeth sy'n berthnasol i bob grŵp y mae gan bob cydweithiwr fynediad iddi.
Ar hyn o bryd mae gennym naw Grŵp Adnoddau Gweithwyr sy'n cynrychioli themâu nodweddion gwarchodedig, sef Anabledd, Rhyw a Rhywedd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Crefydd a Chred. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir
- Rhwydwaith Calon i staff LHDTC+
- Rhwydwaith Cymrodoriaeth Gristnogol i’r staff
- Rhwydwaith Cwtsh i Ofalwyr
- Rhwydwaith Cyfeillion Dementia
- Rhwydwaith Staff Mwslemaidd
- Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth
- Rhwydwaith Nam ar y Golwg
- Rhwydwaith Merched
Mae gan bob Grŵp Adnoddau Gweithwyr arweinydd, neu cyflawnir y rôl ar y cyd â chydweithiwr arall. Cyflawnir y rolau hyn yn wirfoddol ac maent yn darparu lle diogel i gydweithwyr a rhywun i gysylltu ag ef pan fo angen cymorth. Dyfeisiwyd canllaw arfer da gyda chefnogaeth y Grŵp Adnoddau Gweithwyr a oedd yn amlinellu nodau ac amcanion y Rhwydweithiau, a rôl arweinwyr y Rhwydwaith o ran cysondeb. Mae’r canllawiau hefyd yn darparu fframwaith i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant ac i gydbwyso eu swydd bob dydd a’u rôl fel Arweinwyr Rhwydwaith, yn ogystal â chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Mae’r Tîm Cydraddoldeb hefyd yn annog Arweinwyr Grŵp Adnoddau Gweithwyr i wneud mwy o ddefnydd o Weminarau dydd Mercher yn enwedig wrth godi ymwybyddiaeth o ddyddiadau Datblygu ac Arloesi arwyddocaol megis Wythnos Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth, Mis Hanes LHDTC+ a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Swyddi oddi ar y gyflogres (nad ydynt yn cael eu harchwilio)
Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi gwybodaeth am benodi ymgynghorwyr neu aelodau staff sy'n para'n hwy na chwe mis a lle mae unigolion yn ennill mwy na £245 y dydd, lle rydym yn talu drwy anfonebu ac nid y gyflogres. Cynlluniwyd y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres i sicrhau, os yw rhywun yn gweithio drwy gyfryngwr ac y byddai wedi cael ei ystyried, at ddibenion treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol, fel gweithiwr pe byddent wedi’i ymgysylltu yn uniongyrchol gan y sefydliad, eu bod nhw yn talu’r un dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol yn fras fel petaent yn cael eu cyflogi. Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i bobl sydd wir yn hunangyflogedig.
Ein cyfrifoldeb ni yn hytrach na'r cyfryngwr yw cynnal yr asesiad at ddibenion treth. Os penderfynir yn yr asesiad bod y rôl o fewn cwmpas IR35, bydd y cyfryngwr yn talu'r un dreth gweithiwr â’r gweithiwr cyflogedig.
Mae'r tablau canlynol yn dangos ein sefyllfa mewn perthynas â'r gofynion hyn.
Ymrwymiadau oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2024, am fwy na £245 y diwrnod
Nifer yr ymgysylltiadau presennol ar 31 Mawrth 2024 sydd wedi bodoli am: |
Nifer y contractwyr |
---|---|
llai na blwyddyn |
0 |
rhwng un a dwy flynedd |
2 |
rhwng dwy a thair blynedd |
1 |
rhwng tair a phedair blynedd |
4 |
pedair blynedd neu'n hwy |
3 |
Cyfanswm |
10 |
Ymrwymiadau newydd oddi ar y gyflogres rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, am fwy na £245 y diwrnod
Swyddi newydd |
Nifer y contractwyr |
---|---|
Nifer y swyddi newydd, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 |
1 |
O'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai sy’n dod o dan drefniadau IR35 |
0 |
O'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35 |
1 |
O'r rhain y nifer a gyflogwyd yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres y sefydliad |
0 |
O'r rhain nifer y swyddi a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb / sicrwydd yn ystod y flwyddyn |
0 |
O'r rhain nifer y swyddi a welodd newid i'w statws IR35 ar ôl yr adolygiad cysondeb |
0 |
Adroddiad Seneddol ac Archwilio (wedi'i archwilio)
Colledion a thaliadau arbennig
Mae rheolau Rheoli Arian Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddatgelu colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori, math, a gwerth, lle maent yn fwy na chyfanswm o £300,000 ac ar gyfer unrhyw eitemau unigol o £300,000 neu fwy.
Colledion unigol o £300,000 neu fwy
Nid oedd unrhyw golledion na thaliadau arbennig o £300,000 neu fwy yn ystod 2023/24.
Colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori
Mae'r tabl isod yn nodi nifer y ceisiadau am ddileu taliadau a gwneud taliadau arbennig a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn.
Categori neu fath o golled |
2023/24 Nifer |
2023/24 £’000 |
2022/23 Nifer |
2022/23 £’000 |
---|---|---|---|---|
Dileu dyledion na ellir eu hadennill |
70 |
80 |
161 |
222 |
Asedau a gollwyd |
3 |
16 |
10 |
44 |
Colledion eraill (colledion ariannol, taliadau ofer, hawliadau na ellir eu gorfodi, neu anrhegion) |
15 |
241 |
5 |
49 |
Taliadau arbennig |
7 |
71 |
8 |
63 |
Cyfanswm |
95 |
408 |
184 |
378 |
Hepgor incwm (Hepgor incwm yn ymwneud yn bennaf â gwerthiannau yn y dyfodol ac nid yw'n ymwneud â nodion credyd i'w codi yn erbyn anfonebau hanesyddol) |
9 |
164 |
0 |
0 |
Cyfanswm |
104 |
572 |
184 |
378 |
Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro - 16 Hydref 2024
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd
Barn ar y datganiadau ariannol
Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 dan baragraff 32 Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o Sefyllfa Ariannol, Datganiad Llifoedd Arian a Datganiad o Newidiadau Mewn Ecwiti a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:
- yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Cyfoeth Naturiol Cymru ar 31 Mawrth 2024 ac o’i gwariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw;
- wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
- wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan baragraff 32 Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y barnau
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol.
Mae fy staff a minnau’n annibynnol ar y corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.
Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.
Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.
Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a'm hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.
Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 ; ac
- mae’r wybodaeth a roddir yn y Rhagair, Adroddiad Perfformiad ac Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn yr Rhagair, Adroddiad Perfformiad ac Adroddiad Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:
- nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
- ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
- nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
- nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu;
- nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
- nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.
Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol
Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am:
- gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall;
- asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corffyn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- Holi’r rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr endid a archwilir a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ymwneud ag:
- adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a phu’n a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio
- canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a phu’n a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
- y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau
- Ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: adnabod refeniw, adnabod gwariant a chofnodi siwrnalau anarferol;
- Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru;
- Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.
Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg ac ymgynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
- wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes; a
Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.
Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd.
Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Rwy’n cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
18 Hydref 2024
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.