Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol 2020-21
Ein Gweledigaeth
Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell ar gyfer Cymru trwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Ein Diben
Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 newydd, mae'n
- rhaid ceisio rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a
- chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Cyflwyniad
Mae ein system rheoli amgylcheddol (EMS) yn cefnogi gweledigaeth a diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy gynnal ein hardystiad i safon amgylcheddol ISO14001: 2015, ein hardystiad coedwigaeth yn erbyn Safon Sicrwydd Coetir y DU a thrwy leihau ein heffaith amgylcheddol a'n hôl troed carbon ein hunain.
Yn 2020/21 mae Pandemig Covid-19 wedi effeithio'n ddramatig ar y ffordd y mae CNC wedi gweithredu. Trwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae staff wedi gweithio gartref yn bennaf, gyda swyddfeydd ar gau neu gyda mynediad cyfyngedig. Bu cyfyngiadau hefyd ar deithio ac ar drefniadau gwaith maes.
Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn ynni, dŵr a gwastraff yn ein swyddfeydd a'n depos a gostyngiadau sylweddol mewn milltiroedd busnes. Mae pob un ohonynt wedi arwain at ostyngiadau cyffredinol mewn allyriadau carbon.
Rydym bellach yn datblygu methodoleg i gyfrifo ac adrodd ar allyriadau gweithio gartref staff CNC.
Crynodeb o Berfformiad
Yn 2020/21 rydym wedi:
- gostwng ein hôl troed carbon cyffredinol 35.4% mewn perthynas ag allyriadau cwmpas 1 a chwmpas 2, yn ogystal ag allyriadau cwmpas 3 fel maent wedi’u mesur ar hyn o bryd, o gymharu â data 2019/20;
- gostwng ein defnydd o drydan o’r prif gyflenwad mewn adeiladau a depos a feddiannir am y seithfed flwyddyn yn olynol, gostyngiad o 23.3% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20;
- gostwng ein milltiroedd busnes cyffredinol 52.6% o gymharu â data 2019/20;
- cadw ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 a Safon Sicrwydd Coetir y DU, yn dilyn archwiliadau a phrosesau dilysu allanol annibynnol.
Tabl 1: Tabl crynhoi'r Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol
Categori | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Allyriadau nwyon tŷ gwydr |
tCO2e |
4,387 |
4,199 |
3,994 |
2,579 |
Ynni a ddefnyddir |
miliwn kWh |
6.0 |
6.3 |
7.1 |
5.4 |
Ynni - gwariant |
£ mil |
618 |
583 |
729 |
628 |
Gwastraff a gynhyrchwyd |
tunellau |
1,141 |
966 |
1,772 |
793 |
Gwastraff - gwariant |
£ mil |
273 |
218 |
333 |
199 |
Dŵr - defnydd |
m3 |
50,908 |
40,115 |
42,127 |
33,116 |
Dŵr - gwariant |
£ mil |
25 |
30 |
13 |
18 |
Mae Tabl 1 yn adlewyrchu newid cymharol ar gyfer meysydd allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
I grynhoi:
- bu gostyngiad o 1,415 tunnell o garbon deuocsid a’i gyfatebol (tCO2e) mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr sefydliadol;
- gostyngodd ynni, teithio, gwastraff a dŵr i gyd, yn bennaf oherwydd y ffordd yr oedd CNC yn gweithredu yn 2020/21 oherwydd Pandemig Covid-19.
Mae mwy o fanylion am bob cydran i'w gweld yn adrannau cysylltiedig yr adroddiad hwn.
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr
Bu gostyngiad o 35.4% mewn allyriadau carbon yn 2020/21 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Cwmpas 1 gostyngodd allyriadau uniongyrchol 26.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad yn swm y tanwydd a ddefnyddiwyd yn ein ceir a rennir a chan ein timau gweithredol.
Cwmpas 2 gostyngodd allyriadau anuniongyrchol ynni 32.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad yn y defnydd o drydan mewn adeiladau na châi eu defnyddio i’w capasiti llawn oherwydd mynediad cyfyngedig.
Cwmpas 3 gostyngodd allyriadau anuniongyrchol eraill 66.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad mewn milltiroedd busnes oherwydd cyfyngiadau teithio a swm y gwastraff a gynhyrchwyd.
Tabl 2: Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Allyriadau nwyon tŷ gwydr | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Cwmpas 1: Allyriadau uniongyrchol |
tCO2e |
2,466 |
2,499 |
2,129 |
1,568 |
Cwmpas 2: Allyriadau ynni anuniongyrchol |
tCO2e |
1,317 |
1,077 |
1,130 |
764 |
Cwmpas 3: Allyriadau anuniongyrchol eraill |
tCO2e |
603 |
624 |
735 |
247 |
Cyfanswm gros allyriadau nwyon tŷ gwydr |
tCO2e |
4,387 |
4,199 |
3,994 |
2,579 |
Tu allan i’r cwmpasau (h.y. biomas) |
tCO2e |
208 |
187 |
184 |
132 |
Nodyn 1: Data heb ei ddilysu'n allanol – sicrwydd cyfyngedig.
Nodyn 2: Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol Cwmpas 3 eraill yn cynnwys: teithio ar drên, hedfan, teithio fflyd lwyd, teithio mewn car prydles, teithio mewn car llog, dŵr a gwastraff.
Nodyn 3: Nid yw'r allyriadau Cwmpas 3 a ddaw yn sgil prynu nwyddau a gwasanaethau, defnyddio agregau mewn gwaith adeiladu a defnyddio pren wedi'u cynnwys.
Ynni
Gostyngodd cyfanswm y defnydd o ynni o 1,681,637 kWh, gostyngiad o 23.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.
Mae hyn yn cynnwys; trydan, nwy prif gyflenwad, LPG, olew gwresogi a biomas o swyddfeydd, depos a safleoedd di-griw fel gorsafoedd mesur a phwmpio.
Gosodwyd paneli solar PV newydd ar dri safle ar ystad CNC, cynyddodd hyn yr ynni a gynhyrchwyd gan baneli solar PV 17.4%. Fodd bynnag, oherwydd y cynhyrchwyd llai o ynni o hydro ar yr ystad, parhaodd lefel gyffredinol yr ynni a gynhyrchwyd o ynni adnewyddadwy yn gyson.
Gostyngodd cyfanswm yr allyriadau ynni 492 tCO2ea sy’n ostyngiad o 29.0% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.
Tabl 3: Ynni a ddefnyddiwyd
Adnodd a ddefnyddir – Ynni | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2019/20 |
---|---|---|---|---|---|
Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff |
kWh |
4,918,340 |
4,973,616 |
5,131,465 |
4,027,176 |
Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff |
tCO2e |
1,436 |
1,236 |
1,188 |
876 |
Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff |
kWh |
1,122,103 |
1,298,317 |
1,985,005 |
1,407,657 |
Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff |
tCO2e |
395 |
367 |
507 |
328 |
Ynni adnewyddadwy a gynhyrchir |
kWh |
106,856 |
167,879 |
161,193 |
161,320 |
% cyfanswm ynni a ddefnyddir fel ynni adnewyddadwy |
% |
2.2 |
3.4 |
3.1 |
4.0 |
Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd |
kWh |
6,040,443 |
6,271,933 |
7,116,470 |
5,434,833 |
Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd |
tCO2e |
1,830 |
1,603 |
1,696 |
1,204 |
Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - gwariant |
£ mil |
618 |
583 |
729 |
628 |
Dŵr
Gostyngodd defnydd o ddŵr o'r prif gyflenwad 7,150 m3, gostyngiad o 60.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20. Gostyngodd ein dwysedd defnydd dŵr (m3/FTE) hefyd o 2.9 i 1.0. Dwysedd cyfartalog dŵr mewn swyddfa nodweddiadol yw 4.0.
Mae CNC wedi derbyn Marc Gwirio Waterwise ar gyfer sawl swyddfa a chanolfan ymwelwyr.
“Mae CNC yn falch o fod y rheoleiddiwr cyntaf yn y DU i ennill Marc Gwirio Waterwise, gan dynnu sylw at ein hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr yn ein swyddfeydd a'n canolfannau ymwelwyr. Rydym yn cydnabod buddion amgylcheddol defnyddio un o'r adnoddau naturiol mwyaf hanfodol yng Nghymru yn effeithlon ac rydym wedi ymrwymo i wneud arbedion effeithlonrwydd pellach ar draws ein hystad, gan leihau ein hôl troed dŵr a'n heffaith ar yr hinsawdd. Byddwn yn ceisio rhannu ein profiad a'n gwybodaeth gyda phartneriaid, fel y gall pob un ohonom chwarae ein rhan i wneud arbedion effeithlonrwydd dŵr a helpu i greu'r Gymru yr ydym eisiau ei gweld yn y dyfodol."
Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC
Tabl 4: Dŵr a ddefnyddiwyd
Defnydd adnoddau – dŵr ar yr ystâd |
Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Dŵr o’r prif gyflenwad |
m3 |
11,894 |
12,368 |
11,803 |
4,653 |
Cyfanswm y dŵr a dynnir |
m3 |
39,014 |
27,747 |
30,324 |
28,463 |
Dŵr o’r prif gyflenwad (swyddfa) |
m3 |
5,555 |
6,047 |
6,228 |
2,107 |
Dŵr a dynnir (swyddfa) |
m3 |
22 |
32 |
26 |
4 |
Dŵr prif gyflenwad (nad yw ar gyfer swyddfa) |
m3 |
6,339 |
6,321 |
5,575 |
2,546 |
Dŵr a dynnir (nad yw ar gyfer swyddfa) |
m3 |
38,992 |
27,715 |
30,298 |
28,459 |
Dwysedd defnydd dŵr |
m3 / cyfwerth ag amser llawn |
3.0 |
3.2 |
2.9 |
1.0 |
Cyfanswm dŵr – defnydd |
m3 |
50,908 |
40,115 |
42,127 |
33,116 |
Cyfanswm dŵr – defnydd |
tCO2e |
18 |
14 |
15 |
11 |
Cyfanswm dŵr - gwariant |
£ mil |
25 |
30 |
13 |
18 |
Teithio
Mae ein hanghenion teithio yn cynnwys; teithio i reoli safleoedd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol difrifol, cymryd samplau, delio â llifogydd, cyfarfodydd safle a theithio rhwng swyddfeydd.
Bu gostyngiad o 3,385,712 milltir mewn milltiroedd teithio busnes, sy’n ostyngiad o 52.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.
Roedd y gostyngiad mewn teithio busnes yn bennaf oherwydd cyngor Llywodraeth Cymru i beidio â theithio oherwydd Pandemig Covid-19. Parhaodd y gwaith hanfodol o amddiffyn rhag llifogydd, ymateb i argyfyngau a chynnal gwaith coedwigaeth wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr allweddol.
Ni ddigwyddodd unrhyw deithio awyr yn 2020/21 a gostyngodd teithio ar drên 99%, eto oherwydd cyfyngiadau teithio Pandemig Covid-19.
Gostyngodd teithio mewn cerbydau trydan eto yn 2020/21, cyfrannodd sawl ffactor at hyn, yr angen am deithio oddi ar y ffordd ar gyfer gwaith hanfodol a dim seilwaith gwefru cyflym ar waith.
Tabl 5: Teithio Busnes
Teithio busnes | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Fflyd â bathodyn CNC (heb gynnwys cerbydau trydan) |
milltiroedd |
5,440,945 |
5,562,246 |
4,934,687 |
3,020,287 |
Fflyd â bathodyn CNC |
£ mil |
749 |
789 |
720 |
455 |
Cerbydau fflyd lwyd |
milltiroedd |
590,998 |
614,868 |
554,375 |
266,804 |
Cerbydau fflyd lwyd |
£ mil |
266 |
277 |
249 |
120 |
Cerbydau llog |
milltiroedd |
261,039 |
277,390 |
512,209 |
153,361 |
Cerbydau llog |
£ mil |
88 |
124 |
195 |
181 |
Trên |
milltiroedd |
938,418 |
993,213 |
1,258,211 |
3,007 |
Trên |
£ mil |
183 |
328 |
397 |
< 1 |
Hedfan |
milltiroedd |
33,661 |
50,299 |
26,663 |
0 |
Hedfan |
£ mil |
5 |
7 |
7 |
0 |
Beic |
milltiroedd |
2,301 |
3,714 |
4,012 |
2,259 |
Beic |
£ mil |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Beic modur |
milltiroedd |
1,735 |
1,155 |
729 |
110 |
Beic modur |
£ mil |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Cerbydau trydan |
milltiroedd |
0 |
32,832 |
26,374 |
19,660 |
Cyfanswm teithio business |
milltiroedd |
7,269,097 |
7,535,717 |
7,317,260 |
3,465,488 |
Cyfanswm teithio business |
tCO2e |
2,019 |
2,002 |
1,810 |
1,087 |
Cyfanswm teithio business |
£ mil |
1,291 |
1,525 |
1,568 |
757 |
Lleihau a Rheoli Gwastraff
Bu gostyngiad o 979 tunnell yng nghyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd, gostyngiad o 55.2% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.
Tabl 6: Gwastraff a gynhyrchwyd
Categori gwastraff | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 |
---|---|---|---|---|---|
Gwastraffaeth - Tirlenwi |
tunellau |
213 |
286 |
90 |
23 |
Gwastraff - Tirlenwi |
tCO2e |
125 |
168 |
53 |
10 |
Gwastraff - Tirlenwi |
£ mil |
25 |
25 |
24 |
31 |
Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd |
tunellau |
600 |
431 |
972 |
460 |
Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd |
tCO2e |
13 |
9 |
21 |
10 |
Gwastraff swyddfa – a losgir |
tunellau |
27 |
31 |
31 |
18 |
Gwastraff swyddfa – a losgir |
tCO2e |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon |
tunellau |
301 |
218 |
680 |
292 |
Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon |
tCO2e |
135 |
98 |
269 |
111 |
Cyfanswm gwastraff |
tunellau |
1,141 |
966 |
1,772 |
793 |
Cyfanswm gwastraff |
tCO2e |
274 |
276 |
343 |
132 |
Cyfanswm gwastraff |
£ mil |
273 |
218 |
333 |
199 |
Digwyddiadau amgylcheddol
Yn 2020/21 roedd tri ar hugain o ddigwyddiadau amgylcheddol oherwydd ein gwaith ni neu waith contractwyr rydyn ni'n eu rheoli.
Pan fydd digwyddiadau'n digwydd oherwydd ein gwaith (neu waith ein contractwyr), rydym yn adolygu'r hyn sydd wedi digwydd, ac yn gweithredu i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y digwyddiad.
Caffael Cynaliadwy
Ein Gweledigaeth ar gyfer Caffael yw darparu arweinyddiaeth a strategaeth gaffael effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gwerthoedd Cyfoeth Naturiol Cymru ac ymgorffori cysyniadau sylfaenol sefydliad sy’n dysgu gyda Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol (SMNR) fel ei brif egwyddor drefniadol.
Mae'r timau caffael a charbon bositif wedi bod yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael ag allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi. Mae ystyriaeth o garbon wedi'i gwreiddio yn y broses gaffael ar gyfer dau gontract arwyddocaol. Yn ogystal, mae papur ar y cynnydd hyd yma, gwersi a ddysgwyd, a nodau ar gyfer y dyfodol wedi'i baratoi a'i rannu gyda Llywodraeth Cymru.
Llywodraethu ac Adrodd
Rydym yn adrodd ar ein hôl troed carbon fel rhan o'n fframwaith perfformiad, yr adroddir amdano gan y Tîm Gweithredol i'r Bwrdd (mewn sesiwn gyhoeddus agored) bedair gwaith bob blwyddyn.
Rydym yn casglu'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad cynaliadwyedd hwn trwy gyfuniad o ddarllen mesuryddion (e.e. nwy, trydan), anfonebau (e.e. pryniannau cardiau tanwydd), data cyflenwyr (e.e. milltiroedd trên) a data cyllid, gan ddefnyddio'r ffynhonnell/ffynonellau mwyaf cywir sydd gennym ar gael. Rydym hefyd yn ceisio lleihau'r defnydd o unrhyw ddata amcangyfrifedig wrth adrodd.
Prosiect Carbon Bositif
Buom yn gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod datgarboneiddio yn egwyddor allweddol yn y prosiect 'strategaeth fflyd' a'r prosiect 'ailymweld â’r adolygiad o’r strategaeth llety'.
Mae gwaith modelu ynni a datblygu llwybrau carbon isel yn ein un ar ddeg safle allyrru mwyaf wedi cael ei gomisiynu, gyda'r gwaith yn parhau yn 2021/22.
Mae dau gynllun paneli solar ffotofoltäig newydd wedi'u gosod yn neorfa Cynrig (29kW) a swyddfa Clawdd Newydd (4.8kW).
Paratôdd y tîm bapur i'w benderfynu, ar ddefnyddio tanwydd olew llysiau hydrogenedig (HVO) ar gyfer CNC a oedd yn argymell treial HVO. Cymeradwywyd y papur gan fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio.
Oherwydd Pandemig Covid-19 rydym bellach yn datblygu methodoleg i gyfrifo ac adrodd ar allyriadau gweithio gartref staff CNC.
Amcangyfrifwyd bod allyriadau gweithio gartref sy'n gysylltiedig â gwresogi cartrefi a defnyddio pŵer yn 1083.9 tCO2e a 118.9 tCO2e yn y drefn honno yn 2020/21. Roedd hyn yn gynnydd mewn allyriadau ynni gweithio gartref o 444.6% o'r flwyddyn flaenorol, wedi'i yrru gan gyfarwyddeb gweithio gartref COVID-19. Amcangyfrifwyd defnydd gwres a phŵer cartref fesul gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yn dilyn methodoleg Papur Gwyn Allyriadau Gweithio Gartref EcoAct a gymhwyswyd i ddata CNC ar rifau cyfwerth ag amser llawn ac archebion desgiau swyddfa.
Roedd mwy o weithio gartref hefyd yn golygu bod ein hallyriadau cymudo ymhlith staff wedi gostwng 95.4% o'r flwyddyn flaenorol i 114.1 tCO2e yn 2020/21.
Strategaeth y Dyfodol
Yn unol â'n strategaeth gorfforaethol gyfredol, rydym eisiau:
- Parhau i gyflawni cynllun gweithredu carbon bositif CNC i gynnwys; ôl-osod adeiladau â phaneli solar ffotofoltäig, datblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan (EV), cynyddu milltiroedd cerbydau trydan, nodi a darparu rhaglen o brosiectau mawndir er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach;
- Datblygu mecanweithiau ar gyfer gwneud teithio llesol a chynaliadwy y dewis a ffefrir ar gyfer teithio cymudo CNC ac ar gyfer teithiau busnes priodol;
- Parhau i gynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 ar gyfer holl weithgareddau CNC ac ardystiad i Safon Sicrwydd Coetir y DU ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.