Dathlu Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ar Afon Gwy Uchaf

Nôl ym mis Mai, daeth pobl ledled y byd ynghyd i ddathlu Diwrnod Mudo Pysgod y Byd – digwyddiad rhyngwladol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd afonydd iach a chysylltiedig ar gyfer rhywogaethau pysgod sy’n mudo.

I nodi'r achlysur yn lleol, ymunodd Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed a Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg i gynnal digwyddiad i deuluoedd yng Ngwarchodfa Natur Gilfach ger Rhaeadr ar 28 Mai.

Mwynhaodd yr ymwelwyr sesiynau archwilio yn Afon Marteg a sgyrsiau anffurfiol yn trafod taith anhygoel pysgod sy’n mudo, fel Eog yr Iwerydd.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd dysgu am y mudo dramatig i fyny’r afon sy’n digwydd bob blwyddyn yn nalgylch Gwy Uchaf, lle mae’r eog yn teithio cannoedd o filltiroedd o’r môr i ddychwelyd i’r afonydd lle cawsant eu geni, a hynny i silio.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddangos y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws Gwy Uchaf i wella cynefinoedd afon a chefnogi poblogaethau o bysgod. Gan gydweithio â ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau lleol, mae prosiect adfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal gweithgarwch fel adfer glannau afonydd, plannu coed, rheoli rhywogaethau goresgynnol a gwaith 'arafu'r llif'. Mae'r gwaith hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r camau gweithredu hyn yn helpu i wella ansawdd y dŵr, lleihau gwaddod sy'n mynd i mewn i afonydd a chreu cynefinoedd fwy iach ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt arall.

Roedd y digwyddiad yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ledled Cymru, gyda phrosiectau LIFE CNC ar ddalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg.

Mae afonydd iach yn dibynnu ar weld pawb yn cydweithio, ac mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu pobl â'r bywyd gwyllt a'r tirweddau o’u hamgylch, gan dynnu sylw at y camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i'w hamddiffyn.

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’r digwyddiad, ac i Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed a Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg am helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, dilynwch ni ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch chi ddarllen cylchlythyrau ein prosiect yma.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y prosiect, e-bostiwch adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru