Canllawiau i gasglwyr a thrinwyr gwastraff: Casgliadau gwastraff ar wahân

Beth sy'n digwydd?

O 6 Ebrill 2024, bydd yn gyfraith i bob eiddo annomestig megis busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.

Bydd yn ofynnol i gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunyddiau ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i wastraff domestig o weithleoedd sicrhau bod ffrydiau gwastraff penodol yn cael eu casglu a'u cadw ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r gyfraith hon i wella ansawdd a maint y deunydd ailgylchadwy yr ydym yn ei gynhyrchu.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer y gofynion newydd hyn.

Beth mae'r deddfau newydd yn ei olygu i gludwyr gwastraff, broceriaid a gwerthwyr, cyfleusterau gwastraff trwyddedig a gosodiadau gwastraff?

Y gofynion gwahanu

Bydd angen i chi sicrhau bod y mathau penodedig o wastraff yn cael eu casglu ar wahân a'u cadw ar wahân i fathau eraill o wastraff sydd wedi'u gwahanu a mathau eraill o wastraff, sylweddau neu eitemau. 

Gall hyn fod, er enghraifft, o fewn adran hunangynhwysol ar wahân ar gerbyd aml-adran neu mewn cerbydau ar wahân.

Y ffrydiau gwastraff penodedig sydd wedi’u cynnwys o dan y gofynion gwahanu yw:

  • bwyd - ar gyfer safleoedd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
  • papur a cherdyn
  • gwydr
  • plastig, cartonau a metelau a phecynnau cyfansawdd ffibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu
  • tecstilau heb eu gwerthu

Gallwch gymysgu papur a cherdyn gyda'i gilydd yn yr un cynhwysydd, a gallwch gymysgu plastig, cartonau a metel gyda'i gilydd. 

Mae angen i chi gasglu gwastraff bwyd ar wahân o weithleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos, fel arall gellir ei gasglu gyda'r gwastraff gweddilliol.   

Rhaid i chi gydymffurfio â hyn tra bod y gwastraff yn eich meddiant a phan fyddwch yn trosglwyddo'r gwastraff i rywun arall. 

Nid oes rhaid i chi gasglu'r ystod lawn o wastraff wedi'i wahanu. Gallech is-gontractio’r casgliad o ddeunyddiau penodol os oes angen, neu efallai y bydd deiliad y gweithle am gael contractau ar wahân gyda mwy nag un casglwr.

Gwaharddiadau i dirlenwi a llosgi

Mae angen i gasglwyr a thrinwyr gwastraff fod yn ymwybodol o'r cyfreithiau sy'n gwahardd gwastraff a gesglir ar wahân o ffynonellau domestig ac annomestig rhag cael ei losgi a’i anfon i safleoedd tirlenwi.

Mae'r cyfreithiau newydd hefyd yn ymestyn y gwaharddiadau presennol i safleoedd tirlenwi a llosgi fel y manylir isod.

Gwaharddiadau i dirlenwi’r deunyddiau canlynol lle mae’r rhain wedi’u casglu ar wahân:

  • Gwastraff bwyd
  • Plastig, metelau a chartonau
  • Papur a chardbord
  • Gwydr
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu
  • Tecstilau

A gwaharddiad ar bob pren gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Gwaharddiadau i losgi’r deunyddiau canlynol lle mae’r rhain wedi’u casglu ar wahân:

  • Gwastraff bwyd
  • Plastig, metelau a chartonau
  • Papur a chardbord
  • Gwydr
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu
  • Tecstilau heb eu gwerthu

Sut gallwch chi baratoi eich cwsmeriaid

Yn ogystal â gwneud yn siŵr eich bod yn barod, efallai y byddwch am helpu eich cwsmeriaid drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi gwybodaeth iddynt am y gyfraith newydd a sut y bydd y ffordd y mae angen iddynt gyflwyno eu gwastraff i'w gasglu yn newid.
  • Darparu gwasanaeth casglu sy'n cydymffurfio wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion eich cwsmer, gyda chasgliadau dibynadwy a rheolaidd.
  • Darparu gwybodaeth am y mathau o ddeunyddiau ym mhob ffrwd wastraff y gellir eu derbyn i'w hailgylchu ym mhob cynhwysydd.
  • Rhoi gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaeth yn effeithiol. Er enghraifft, trwy lanhau a sychu deunyddiau i leihau halogiad. 
  • Labelu biniau a chynwysyddion yn glir i nodi pa ddeunyddiau y dylid eu cynnwys a'u gwahardd.
  • Ystyried system o hapwiriadau i wirio am unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn cael eu gwahanu'n gywir, rhoi adborth a'u helpu i'w gywiro, a chael polisi a gweithdrefnau clir ar gyfer sut y byddwch yn delio â materion halogi.
  • Darparu gwybodaeth am sut y caiff y deunydd ailgylchu ei reoli, a sut y caiff ei ailgylchu.

Mae adnoddau ar gael i chi gael mwy o help a gwybodaeth

Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Mae gan wefan newydd WRAP, Y Busnes o Ailgylchu Cymru, ddeunyddiau a chanllawiau y gallwch eu rhannu â chwsmeriaid.  Bellach mae holl eiconau llif deunydd ar gael i'w lawrlwytho, gan gynnwys un ar gyfer plastig, cartonau a metel. Bydd WRAP hefyd yn darparu canllaw archwilio gwastraff wedi’i ddiweddaru a fydd yn helpu eich cwsmeriaid i ddeall pa ddeunyddiau sydd ganddynt ar hyn o bryd.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am y newidiadau ailgylchu yn y gweithle: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU
  • Cod ymarfer Llywodraethau Cymru, sy'n nodi popeth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â'r rheoliadau.
  • Dyletswydd gofal gwastraff
  • Dosbarthu gwastraff

Gallwch gysylltu ag CNC os oes angen rhagor o gyngor arnoch – mae ein manylion cyswllt ar gael drwy glicio yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru