Wythnos bontio blwyddyn 6 Ysgol Bro Dinefwr mewn natur

Gan ddefnyddio dysgu yn yr awyr agored fel addysgeg i gefnogi pontio cynradd/uwchradd, croesawyd disgyblion blwyddyn 6 a staff o ysgolion cynradd clwstwr i Natur, ardal dysgu awyr agored Dinefwr, am wythnos ym mis Ionawr 2024.

Trefnodd Mrs Wendy Thomas-Davies (Pennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd Dysgu Awyr Agored) a Mr Andrew James (Technegydd Dysgu Awyr Agored) ddiwrnod llawn hwyl a gweithgareddau.

Mewn diwrnod o gydweithio gwelwyd darparwyr allanol ar y safle, yn cynnig ystod eang o weithgareddau dysgu awyr agored ymarferol.

Darparodd West Wales Willows helyg i Mrs Thomas-Davies i ddysgu disgyblion sut i fod yn grefftus a chreu calonnau helyg hardd, mewn pryd ar gyfer Dydd Santes Dwynwen.

Dangosodd y cogydd Jen Goss o ‘Our Two Acres’ (a ariannwyd gan Cook 24) sut i wneud pitsas yn yr ystafell fwyd. Dysgodd y disgyblion am bwysigrwydd y dewisiadau iachach, y gallwch eu tyfu eich hun, o'i gymharu â phitsa wedi'i brosesu, o siop. Bu Jen yn ddigon caredig i gyflenwi ei phupurau a madarch cartref ar ben eu pitsas. Blasus!

Dangosodd y garddwr Alex Nicholas o Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin sut i wneud potiau planhigion bioddiraddadwy, gan eu defnyddio i blannu ewin garlleg a ffa - gweithgaredd plannu yn y gaeaf perffaith i ddysgwyr. Yn well na dim, cafodd y disgyblion y pleser o fynd â’r rhain adref i elwa ar yr egwyddor o dyfu eich cnwd eich hun, pan fydd eu cnwd yn barod i’w gynaeafu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Arweiniodd disgyblion Llysgennad Efydd Blwyddyn 10, a Lyn Broderick o Actif Sir Gâr, sesiwn ymarfer corff awyr agored awr o hyd ar y cae 4G, i helpu i gadw disgyblion yn iach ac yn heini.

Cafodd disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn arbrawf Gwyddoniaeth heriol, gan brofi lefelau pH gwahanol fathau o bridd, i ddarganfod pa rai oedd yn asid, yn niwtral ac yn alcalïaidd gan ddefnyddio papur profi dangosydd cyffredinol. Dysgodd y disgyblion sut mae'n well gan wahanol blanhigion a blodau rai mathau o bridd i dyfu'n llwyddiannus. Roedd y disgyblion wrth eu bodd â’r ymatebion sydyn ar y stribedi prawf ‘hud’!

Arweiniodd Mr James sesiwn ymchwilio ar y bywyd gwyllt sydd i’w weld yn Natur ac esboniodd am eu gofal.

I ddod â’r diwrnod i ben, cwblhaodd y disgyblion gwis hwyliog am yr hyn a ddysgon nhw o’u diwrnod yn Natur.

Roedd yn ddiwrnod pleserus a gwerth chweil i bawb! Mae Mrs Thomas-Davies a Mr James yn mawr obeithio bod y disgyblion Blwyddyn 6 a ymwelodd wedi gwerthfawrogi cymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau, ac yn edrych ymlaen at eu gweld eto ar gyfer y digwyddiad pontio nesaf.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru