Sylw ar gynlluniau i adfer llwybr pysgod yn Afon Wysg mewn sesiwn galw heibio cymunedol

Cored Aberhonddu

Gwahoddir pobl sy'n byw yn nhref Aberhonddu a'r cyffiniau i ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus i ddarganfod mwy am gynlluniau i wella llwybr pysgod yng Nghored Aberhonddu ar Afon Wysg.

Bydd y cynllun a ddarperir gan Brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gosod llwybr pysgod newydd ar gyfer gleisiaid ar y gored yn haf 2025.

Bydd y llwybr gleisiaid yn helpu eogiaid (a rhywogaethau pysgod eraill) i symud yn rhydd i lawr heibio'r gored allan i'r môr, gan eu helpu ar eu taith i lawr yr afon.

Bydd tîm y prosiect yn cynnal sesiwn galw heibio rhwng 2pm a 4pm yn Y Gaer ar Glamorgan Street yn Aberhonddu ddydd Iau 5 Rhagfyr.

‘Gleisiad’ yw’r enw ar eog ifanc pan fydd wedi cyrraedd y cyfnod lle mae'n mudo i'r môr.

Bydd y llwybr pysgod newydd yn ategu llwybr pysgod Larinier sy’n bodoli eisoes ar y gored i sicrhau bod pysgod yn gallu pasio'r strwythur ar eu taith i fyny'r afon ac i lawr yr afon.

Ar hyn o bryd, mae Cored Aberhonddu yn cael ei chydnabod fel rhwystr sylweddol i bysgod mudol sy’n nofio i lawr yr afon. Mae astudiaethau diweddar wedi cofnodi heigiau o leisiaid sydd wedi'u dal uwchben y gored, yn enwedig pan fo’r llif yn isel. Mae hyn yn arafu eu taith i lawr yr afon gan eu gwneud yn agored i glefydau ac ysglyfaethwyr.

Meddai Susie Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE: "Mae gleisiaid yn mudo i lawr yr afon i'r môr yn y gwanwyn, ac mewn blynyddoedd pan mae llifoedd y gwanwyn yn isel maen nhw wedi cael trafferth pasio dros gored Aberhonddu."
Meddai hefyd: “Erbyn hyn mae eogiaid a physgod eraill yn yr afon mewn sefyllfa fregus ac maen nhw mewn perygl o ddiflannu o Gymru. Bydd y llwybr newydd i leisiaid yn sicrhau bod pysgod ifanc yn gallu teithio i lawr yr afon yn ystod cyfnodau pwysig yn eu cylch bywyd."

Gwahoddir aelodau'r gymuned i fynychu'r digwyddiad galw heibio ddydd Iau 5 Rhagfyr rhwng 2pm a 4pm yn Y Gaer, Glamorgan Street, Aberhonddu, LD3 7DW.

Am fwy o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at y tîm yn uniongyrchol ar 4AfonLIFE@naturalresourceswales.gov.uk