Afon Cleddau yn elwa o ddau brosiect adfer cynefinoedd afon
Mae prosiect adfer sydd â'r nod o wneud afon yn Sir Benfro yn fwy gwydn i heriau argyfyngau hinsawdd a natur yn gwneud cryn gynnydd.
Dechreuodd tîm prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) waith i adfer Afon Cleddau Wen yn Sir Benfro ym mis Hydref 2023, gyda’r nod o greu cynefin gwerthfawr ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt pwysig.
Mae Cleddau Wen wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae wedi cael ei haddasu'n sylweddol yn y gorffennol. Mae carthu a sythu rhai rhannau o'r afon wedi cael effaith sylweddol ar gyflwr ac iechyd cynefin yr afon.
Yn ystod y prosiect cyntaf cyflwynwyd sawl darn mawr o bren i'r afon i ddynwared y prosesau naturiol sy'n digwydd pan fydd coed yn disgyn i afonydd.
Mae cyflwyno pren yn gorfodi’r dŵr i fynd o amgylch y pren gan achosi erydiad lleol a chreu ystumiau newydd.
Wrth i ddeunydd o’r erydiad ddyddodi yng nghysgod llif y pren dros amser, bydd bariau graean, tywod a silt newydd yn cael eu creu a fydd, yn eu tro, yn creu cynefin ac ardaloedd hanfodol i bysgod pwysig fel llysywod pendoll a brithyllod silio a magu eu hepilion.
Mae'r pren hefyd yn darparu lloches i bysgod rhag llif cyflym, cysgod a dŵr mwy claear, a chuddfan rhag ysglyfaethwyr.
Dywedodd Nathan Walton, Rheolwr Gwarchodfeydd y Gorllewin a Swyddog Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Benfro: “Mae gosod nifer o strwythurau pren yn yr afon yn gweithio’n dda. Mae'r gwreiddiau yn helpu i arafu llif y dŵr ac yn annog y cwrs dŵr i ail-ystumio yn naturiol.
“Mae lefelau'r dŵr yn llawer uwch nag o’r blaen, ac mae rhannau o’r warchodfa bellach yn mynd yn wlypach. Mae hyn yn gwella nodweddion dŵr agored a chors y warchodfa a'r rhywogaethau sy'n dibynnu arnynt.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r prosiect am y gwaith diweddar a wnaed ar rannau uchaf Cleddau Wen sy’n mynd trwy Gorsydd Llangloffan.”
Gwlyptir iseldirol yn rhan uchaf ardal cadwraeth arbennig afon Cleddau Wen yw Corsydd Llangloffan. Mae’r gors yn warchodfa natur genedlaethol a reolir mewn rhannau gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhai tirfeddianwyr preifat.
Roedd y gwaith ar yr ail brosiect yn cynnwys ail-gyflwyno clogfeini mawr i ran o Afon Cleddau Wen, ger pentref Treletert.
Credir bod y clogfeini wedi cael eu tynnu o'r afon fel rhan o waith carthu hanesyddol yn y 1960au. Cadarnhawyd hyn gan bresenoldeb clogfeini o fathau a meintiau tebyg a ddarganfuwyd gerllaw. Roedd y clogfeini hyn yn dangos arwyddion clir o hindreulio ac erydiad yn hytrach na chlogfeini amddiffynnol, sydd wedi'u cloddio ac yn onglog eu siâp.
Bydd ychwanegu’r clogfeini yn creu amrywiaeth yn y llif wrth i ddŵr gyflymu o boptu’r clogfaen ac arafu i fyny’r afon ac i lawr yr afon.
Mae'r gwahanol fathau hyn o lif yn creu'r amodau perffaith ar gyfer gwahanol bryfed sy'n rhan o'r gadwyn fwyd sy'n cynnal rhywogaethau fel eogiaid a dyfrgwn.
Mae’r llif dŵr tawel hefyd yn cynnig mannau gorffwys i bysgod, wrth iddynt symud i fyny ac i lawr yr afon a nofio o glogfaen i glogfaen i arbed egni.
Dywedodd Duncan Dumbreck o brosiect Pedair Afon LIFE: “Mae arolygon hanesyddol o bysgod a phryfed dyfrol wedi canfod cymysgedd o frithyllod, llysywod pendoll, penlletwadau a chrethyll yn y rhan hon o’r afon.
“Bydd y cynefin adfywiedig hwn yn hanfodol i oroesiad rhywogaethau fel eogiaid, sydd mewn perygl o ddiflannu mewn rhai afonydd yng Nghymru.”
Mae adfer cynefinoedd yn broses araf iawn a gall gymryd cannoedd o flynyddoedd. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb i'r broses adfer drwy ddefnyddio dulliau a fyddai'n digwydd yn naturiol.
Cafodd y ddau brosiect eu hariannu gan Brosiect Pedair Afon LIFE, rhaglen a ariennir gan LIFE yr UE sy'n ceisio adfer cynefinoedd dŵr croyw ar gyfer rhywogaethau prin a phwysig.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X ac Instagram neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr yma