Bydd llwybr pysgod newydd yn gwella mynediad i Afon Clydach
Mae cynllun adfer afon sydd â’r nod o agor tiroedd silio ar gyfer pysgod mudol wedi'i gwblhau yn ddiweddar ar Afon Clydach ger Llangadog.
Mae’r cynllun yn rhan o’r gwaith adfer afonydd a reolir gan Brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Roedd Cored Jerwsalem yn rhwystr sylweddol i eogiaid a physgod eraill a oedd yn ceisio cyrraedd ymhellach i fyny'r afon i silio.
Yn ddelfrydol, dylid tynnu strwythurau sy’n rhwystro pysgod yn gyfan gwbl er mwyn cysylltu cynefinoedd afonydd yn llawn.
Fodd bynnag, gan fod Cored Jerwsalem yn cynnal ategweithiau’r bont hanesyddol i fyny’r afon, penderfynwyd mai’r ffordd orau o fynd ati fyddai gosod llwybr pysgod Larinier yn strwythur presennol y gored.
Mae'r math hwn o lwybr pysgod yn lleihau cyflymder y llif ac, o ganlyniad, yn gwella llwybr eogiaid a brithyllod, yn ogystal ag amrywiaeth o rywogaethau sy’n wannach wrth nofio.
Mae'r dyluniad hefyd yn cynnwys slot ochr wedi'i ffitio â blew i helpu llysywod a llysywod pendoll i symud i fyny'r afon.
Dywedodd Susie Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE: “Mae mynediad rhydd a dirwystr rhwng yr afon a’r môr yn hanfodol er mwyn i eogiaid a physgod eraill gwblhau eu cylch bywyd. Mae eogiaid yn treulio tair blynedd gyntaf eu bywyd mewn afonydd cyn mudo i'r môr i dyfu ac aeddfedu, ac yna'n dychwelyd i'w hafon wreiddiol i silio.
“Dylai’r cynllun hwn wella symudiad eogiaid yn sylweddol ymhellach i fyny’r afon a’u mynediad i ardaloedd bridio pwysig. Bydd hefyd o fudd i lysywod a llysywod pendoll.”
Datblygwyd y llwybr pysgod yn wreiddiol gan Adran Pysgodfeydd CNC mewn cydweithrediad â'r ymgynghorwyr arbenigol Fishtek.
Dywedodd Dave Charlesworth, Arbenigwr Arweiniol CNC ar gyfer Pysgodfeydd Dŵr Croyw: “Mae poblogaethau eogiaid yng Nghymru yn dioddef effeithiau newid hinsawdd ar hyn o bryd ac mae’n hanfodol ein bod yn nodi ac yn diogelu cadarnleoedd o fewn dalgylchoedd afonydd lle maen nhw’n parhau i silio’n llwyddiannus.
“Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn cyfrannu at gynnydd yn nifer yr eogiaid a physgod mudol eraill yn yr afon hon dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae Afon Clydach yn un o lednentydd Afon Tywi, sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae'r ddwy afon yn bwysig ac yn cael eu hamddiffyn ar gyfer amrywiaeth o bysgod mudol fel eogiaid a llysywod pendoll.
Cymerodd y gwaith yng Nghored Jerwsalem i osod y llwybr pysgod bythefnos i'w gwblhau, ac fe'i gwnaed gan y contractwr arbenigol Paul's Plant Hire.
Mae Cored Jerwsalem, y pynfarch (mill leat) cysylltiedig, a'r bont i fyny'r afon i gyd wedi'u rhestru fel Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Bu’r prosiect yn gweithio’n agos gyda Heneb (Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru) i sicrhau nad oedd unrhyw ddifrod yn cael ei wneud i’r amgylchedd hanesyddol.
Ariannwyd y prosiect gan Brosiect Pedair Afon LIFE a ariannwyd gan raglen LIFE yr UE.
I ddarganfod mwy am y prosiect ewch i’r wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect Pedair Afon LIFE