Awyr Dywyll Cymru yn serennu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, trwy brosiect y Gweithgor Awyr Dywyll i hyrwyddo a gwarchod Awyr Dywyll Cymru, wedi bod yn serennu yng ngwobrau tirwedd uchaf eu bri y DU.

Cyflwynodd y Sefydliad Tirwedd Wobr y Llywydd 2025 i Weithgor Awyr Dywyll Cymru am ei gyhoeddiad arloesol, Canllawiau Arfer Da: Cynllunio ar gyfer Gwarchod a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru.

Mae Gwobr y Llywydd yn cynrychioli prosiect tirwedd gorau’r flwyddyn ac fe'i dewiswyd o fwy na 200 o ymgeiswyr ar draws 17 categori. Dewiswyd Gwobr y Llywydd o blith enillwyr pob un o 17 categori’r Gwobrau, gyda'r canllawiau Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll hefyd yn ennill y categori Rhagoriaeth mewn Cynllunio ac Asesu Tirwedd.

Roedd thema gwobrau 2025 - 'Cysylltu Pobl, Lle a Natur' - yn cydnabod prosiectau sy'n darparu lles, cynaliadwyedd a phleser trwy’r grefft a’r wyddoniaeth sy’n ymwneud â dylunio, cynllunio a rheoli tirwedd.

Roedd Jill Bullen, o Grŵp Tirwedd a Chynllunio Strategol CNC a Chadeirydd y Gweithgor Awyr Dywyll, wrth ei bodd gyda'r wobr, meddai:

“Mae gan fwy na dwy ran o dair o Gymru awyr dywyll, ac mae rhannau ohoni’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, ac mae’r cyflawniad gwych hwn yn cydnabod ein gwaith arloesol i warchod ein hawyr dywyll, annog goleuadau awyr dywyll a lleihau llygredd golau, a bydd hyn i gyd o fudd i natur, pobl a chenedlaethau’r dyfodol.
“Mae hefyd yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio: crëwyd y Canllawiau Arfer Da mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Tirwedd Genedlaethol Ynys Mon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Llywodraeth Cymru.”

Cafodd gwaith arloesol y grŵp ei ganmol gan Lywydd y Sefydliad Tirwedd, Carolin Göhler, a ddywedodd:

“Roedd Gweithgor Awyr Dywyll Cymru yn sefyll allan am ei ganllawiau cenedlaethol arloesol, sy’n torri tir newydd ac yn darparu adnodd hanfodol i’r rhai sy’n cynllunio ac yn dylunio tirweddau gyda sensitifrwydd i awyr y nos – yng Nghymru, a thu hwnt, gan amddiffyn bywyd gwyllt a chreu cynlluniau goleuo rhatach sy’n fwy cyfeillgar i bobl.”

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru:

“Rwyf wrth fy modd bod y Sefydliad Tirwedd wedi cydnabod a gwobrwyo’r gwaith arloesol rydym yn ei wneud yng Nghymru i amddiffyn ein hawyr dywyll ac rwyf wrth fy modd bod ymdrechion y Gweithgor Awyr Dywyll wedi cael eu cydnabod.
“Mae cynllunio ar gyfer awyr dywyll yn hanfodol. Drwy gydweithio, gallwn fynd i’r afael â llygredd golau a hyrwyddo rôl bwysig awyr dywyll mewn bioamrywiaeth, iechyd pobl, cadwraeth ynni, cadwraeth treftadaeth, a seryddiaeth.”
Ond mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod yr awyr dywyll uwchben Cymru yn parhau i fod yn ased cenedlaethol gwerthfawr, ac roedd Jill Bullen yn awyddus i atgoffa pawb i chwarae eu rhan.
“Mae annog goleuadau awyr dywyll a lleihau llygredd golau yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud ar hyn o bryd i amddiffyn awyr dywyll a thirweddau tywyll, gan fod o fudd i fywyd gwyllt a’n lles. 
“Mae ennill Gwobr y Llywydd a’r wobr Rhagoriaeth mewn Cynllunio ac Asesu Tirwedd am y canllawiau ‘Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll’ yn golygu bod gan y Canllawiau Arfer Da lefel newydd o ymwybyddiaeth, cyrhaeddiad a chyfle i wneud newid gwirioneddol. Helpwch ni i wireddu’r newid hwnnw drwy weithredu Egwyddorion Goleuo sy’n dilyn Arfer Da.”

Dyma ail lwyddiant Jill ac CNC o fewn ychydig wythnosau.

Yn ogystal â'i gwaith Awyr Dywyll, mae Jill hefyd yn rheoli rhaglen Amgylchedd Sain Llonyddwch a Lle CNC, a gafodd ei chydnabod yn adran Gwobr Datblygu Cynaliadwy Gwobrau John Connell y Gymdeithas Lleihau Sŵn (NAS) y mis diwethaf.

Mae'r gwobrau unigryw hyn, a elwir yr 'Oscars Sŵn', wedi'u henwi ar ôl sylfaenydd yr NAS, John Connell OBE. Maent yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd sain ym mywydau pobl, ac yn hyrwyddo datblygiadau hanfodol o ran lleihau effaith negyddol sŵn diangen er budd y cyhoedd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Arfer Da Awyr Dywyll yma:

Canllawiau Arfer Da: Cynllunio ar gyfer Gwarchod a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru

Gallwch ddysgu mwy ar y Map Stori Llonyddwch a Lle yma:https://storymaps.arcgis.com/stories/da8aadb1816a4e61b8ccb0e8416bccaf