Camau i dargedu cludwyr gwastraff anghyfreithlon yng Ngogledd Cymru
Cynhaliwyd gweithrediadau gorfodi yn ardaloedd Caernarfon a Bangor i gyfyngu ar gludwyr gwastraff anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon.
Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithio mewn partneriaeth i dargedu troseddwyr sy’n defnyddio’r ffyrdd i gyflawni troseddau gwastraff.
Ar 6 a 17 Hydref aed ati i dargedu cerbydau oedd yn cludo gwastraff fel rhan o gyfres barhaus o weithrediadau ledled Gogledd Cymru.
Roedd unrhyw gerbyd dan amheuaeth yn cael ei stopio gan Heddlu Gogledd Cymru i benderfynu a oedd unrhyw wastraff yn cael ei gludo ac ymhle byddai’n cael ei ollwng yn y pen draw.
Os oeddent yn gweld fod unrhyw droseddau gwastraff wedi cael eu cyflawni, roedd swyddogion CNC yn defnyddio’r ymateb gorfodi mwyaf priodol, oedd yn cynnwys rhoi cyngor a chanllawiau.
Meddai Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru:
“Mae gweithio mewn partneriaeth â’r DVSA a Heddlu Gogledd Cymru yn anfon neges gref i’r rhai sy’n ceisio gwneud elw drwy dorri’r gyfraith, sef na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn goddef unrhyw niwed i gymunedau Gogledd Cymru na difrod i’r amgylchedd.
“Gall cludwyr gwastraff anghyfreithlon gael effaith andwyol ar fusnesau gwastraff cyfreithlon sy’n buddsoddi drwy sicrhau fod ganddynt y trwyddedau amgylcheddol cywir.
“Mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu i warchod pobl a’r amgylchedd, yn ogystal â diogelu marchnad wastraff Gogledd Cymru.
“Hoffem ddiolch i’r DVSA, i Heddlu Gogledd Cymru a’r holl awdurdodau lleol sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol yn y gweithrediadau gorfodi rheolaidd hyn ar hyd a lled Gogledd Cymru.”
Dylai unrhyw un sy’n amau fod gwaith gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal roi gwybod am hynny drwy gysylltu â llinell gymorth digwyddiadau CNC a ffonio 0300 065 3000.