BikePark Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn llofnodi les newydd i ddad-ddofi'r mynydd, ychwanegu llwybrau a llety
BikePark Cymru, prif leoliad beicio mynydd y DU, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi cynllun trawiadol i drawsnewid 400 erw o lethrau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio'n agos gyda BikePark Cymru ers iddo agor ei lwybr cyntaf yn 2013, ond mae les newydd a gaiff ei llofnodi ym mis Mehefin 2024 yn gam ymlaen arloesol i'r ddau barti.
Fel rhan o'r les 33 blynedd newydd, bydd refeniw gan feicwyr mynydd sy'n ymweld yn cael ei fuddsoddi mewn Gweledigaeth Coedwig ar gyfer y Dyfodol a fydd yn sicrhau bod y rhan helaeth o fynyddoedd BikePark Cymru yn cael eu dychwelyd i'w cyflwr naturiol. Drwy'r cynllun dad-ddofi, bydd y safle'n newid dros y degawdau nesaf o ddulliau rheoli coedwigoedd masnachol clasurol i drefn sy'n hyrwyddo enillion bioamrywiaeth, yn gwella cadernid coedwigoedd ac yn annog dychwelyd i goetir lled-naturiol mwy hynafol.
Mae'r les hon hefyd yn sicrhau y bydd BikePark Cymru yn parhau i fod yn gartref i lwybrau enwocaf y DU am flynyddoedd i ddod, a bydd yn ychwanegu llwybrau newydd, ac yn sicrhau y gall ymwelwyr aros dros nos ar y safle bellach.
Yn ogystal â'r 46 o lwybrau penodol i feiciau mynydd a geir yn y parc ar hyn o bryd, y ganolfan groeso, caffi coetir, llogi beiciau a siop feiciau, mae'r cytundeb newydd yn ychwanegu caniatâd cynllunio ar gyfer llwybrau newydd (naw llwybr dringo, 27 o lwybrau disgyn, saith llwybr cyswllt a dwy ardal sgiliau newydd), ardal groeso fwy o faint a llety cynaliadwy ar ffurf podiau glampio a chalets.
Dywedodd Martin Astley ar ran BikePark Cymru:
“Mae ein mynydd yn ardal drawiadol iawn, ac mae eisoes amrywiaeth eang o goed llydanddail yma. Ond mae llawer o goedwigoedd pinwydd ungnwd yn y de, o ganlyniad i ddegawdau o goedwigaeth fasnachol.
“Mae'r les newydd yn newid holl safle BikePark Cymru, ac yn ogystal â'r llwybrau beicio mynydd drwy'r goedwig, byddwn yn annog ac yn cynorthwyo'r goedwig i ddychwelyd i gyflwr mwy naturiol gyda'n cydweithwyr yn CNC. Oherwydd y llwybrau, nid ‘dad-ddofi’ clasurol yw hyn, ond mae mor agos ag y gallwn fynd, a bydd y llwybrau'n galluogi beicwyr i fynd yn ddwfn i'n gwylltiroedd.
“Yr hyn sy'n gyffrous yw nad oes neb wedi gweld cyflwr mwy naturiol y bryniau hyn ers canrifoedd. A chawn gyfle nawr.
“Efallai mai agwedd fwyaf cyffrous y les newydd yw'r cyfle i gydweithio â CNC mewn cydweithrediad unigryw sy'n cynnwys troi rhannau o BikePark Cymru yn fanc hadau ar gyfer safleoedd posibl eraill ledled y wlad. A bydd rhywfaint o'r incwm a geir gan feicwyr sy'n ymweld yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun “Gweledigaeth Coedwig ar gyfer y Dyfodol”.
Mae Astley yn edrych ymlaen at y dyfodol.
“Mae Gweledigaeth Coedwig ar gyfer y Dyfodol yn cynnwys creu coedardd, lle gallwn adael i ‘goed cadeirlan’ aeddfedu, a gallwn wella iechyd a chadernid y goedwig drwy gael cymysgedd o goetir mwy amrywiol. Mae manteision o ran rheoli llifogydd a dŵr, a buddiannau o ran atal tân a chlefydau hefyd. Ond mae'r rhain yn bethau rydym yn gwybod amdanynt eisoes. Yr hyn sydd fwyaf cyffrous yw'r pethau anhysbys, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa gyfrinachau y bydd y prosiect hwn yn eu datgelu.
“A hefyd, gallwn greu swyddi newydd a ffyniant, rhoi hwb i fioamrywiaeth a chreu amgylchedd mwy naturiol, ynghyd â dal symiau mawr o garbon yn y goedwig. Mae hyn yn enghraifft wych o'r modd y gall arallgyfeirio fod yn gadarnhaol mewn cymaint o ffyrdd."
Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy i CNC:
“Rydym wrth ein boddau y bydd ein cydberthynas lwyddiannus â BikePark Cymru yn parhau. Mae'r bartneriaeth hon yn dangos sut y gall yr ystad a reolir gan CNC gyfuno gweithgarwch masnachol yn llwyddiannus sydd o fudd i economi Cymru ac sy'n gydnaws â'r amgylchedd.
“Bydd y cynllun hwn yn datblygu dulliau rheoli coedwigoedd arloesol i gefnogi hirhoedledd gorchudd aeddfed y goedwig, sydd o fudd i'r profiad beicio yn y goedwig.”
Mae Grace yn parhau:
“Yn ogystal â manteision iechyd a llesiant beicio mynydd i feicwyr o bob oedran a gallu, mae llwyddiant parhaus BikePark Wales wedi rhoi hwb i'r economi leol ac wedi creu swyddi y mae eu hangen yn fawr yn yr ardal gyfagos ac mae cysylltiadau ag ysgolion lleol wedi rhoi cyfleoedd hamdden ac addysgol i bobl ifanc.”
- Cyhoeddwyd ar y cyd â BikePark Wales