Cau maes parcio a llwybr cerdded Coed Nash ar gyfer gwaith rheoli hanfodol yn y goedwig

Coed Nash

Bydd maes parcio a llwybr cerdded yng Nghoed Nash, Llanandras, ar gau dros dro er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) allu ymgymryd â gweithrediadau coedwig hanfodol.

Bydd yr ardal ar gau am sawl mis i ganiatáu gweithrediadau teneuo coed a llwyrgwympo. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n rhaglen barhaus o reoli’r goedwig ac mae’n cynnwys tynnu coed a ddifrodwyd gan Storm Darragh, a ddaeth â gwyntoedd cryfion a glaw difrifol ledled Cymru ym mis Rhagfyr 2024.

Yn ogystal â chlirio’r coed a ddifrodwyd yn y storm, byddwn yn teneuo’r coetir i hybu iechyd a bioamrywiaeth y goedwig yn y tymor hir.

Mae’r gweithrediadau hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch, gwydnwch a chyfanrwydd ecolegol Coed Nash am flynyddoedd i ddod.

Mae Coed Nash yn llwybr cerdded poblogaidd gyda nifer yn y gymuned. Mae CNC wedi ymrwymo i ailagor yr ardal mor gyflym a diogel â phosibl, ond oherwydd maint y gwaith, bydd ar gau am sawl mis.

Dywedodd Rory Gill, o dîm Gweithrediadau Coedwig y Canolbarth, CNC:

“Achosodd Storm Darragh ddifrod sylweddol i rannau o Goed Nash, a bydd cau’r ardal yn caniatáu i ni dynnu’r coed yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel ar yr un pryd â gwneud gwaith a oedd eisoes wedi’i gynllunio fel rhan o’n gwaith rheoli yn y goedwig ar gyfer y tymor hir. Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r gylchdaith gerdded hon i’r gymuned leol, ac rydym wedi ymrwymo i gwblhau’r gwaith mor gyflym a diogel â phosibl fel y gall pobl fwynhau’r coetir eto yn fuan.” 

Anogir pob ymwelydd i dalu sylw i’r arwyddion a’r rhwystrau sy’n cau’r llwybr. Gallai mynd i mewn i’r safle yn ystod y gweithrediadau arwain at anaf difrifol a bydd yn oedi’r cynnydd ar y gwaith.

Bydd CNC yn rhoi diweddariadau am y cynnydd ar y gwaith a’r dyddiadau ailagor disgwyliedig drwy ein tudalen i ymwelwyr â Choed Nash a drwy sianeli’r cyfryngau cymdeithasol. Os am lwybrau cerdded eraill yn ardal Fforest Clud, rydym yn argymell ymweld â Fishpools a Choed Cwningar, sydd ar agor i’r cyhoedd.