Cynllunio gwaith arfordirol i helpu i leihau erydiad yn Ninas Dinlle
Yn fuan bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal gwaith hanfodol i leihau erydiad arfordirol yn Ninas Dinlle.
Dylai’r gwaith hwn i leihau uchder y grwyn – strwythur sy'n helpu i reoli erydiad arfordirol trwy arafu symudiad deunydd traeth (fel tywod, cerrig mân a graean) ar hyd y draethlin – gael ei gynnal ym mis Mawrth 2026. Mae hyn yn rhan o ymdrechion parhaus i gefnogi prosesau arfordirol naturiol ac i wella symudiad graean ar hyd y draethlin.
Pwrpas gostwng lefel y grwyn yw caniatáu i’r graean symud yn rhwyddach i'r rhan o’r traeth i'r gogledd o'r strwythurau. Disgwylir i'r symudiad cynyddol hwn helpu i arafu cyfradd yr erydiad sy'n effeithio ar y rhan honno. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i aflonyddu cyn lleied ag sydd bosib, ac nid oes angen cau unrhyw lwybrau troed.
Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd CNC yn monitro'n agos sut mae'r traeth yn ymateb. Os yw gwaith monitro’n dangos bod lleihau maint y grwyn yn cael effaith negyddol ar symudiad graean neu amodau traethau lleol, bydd CNC yn ei adfer i'w lefel bresennol.
Bydd un cloddiwr a lori dympio’n gwneud y gwaith a bydd yn cymryd tua phedwar diwrnod i'w gwblhau. Er y bydd y gweithgaredd i’w weld o fewn y pentref, ni ddisgwylir iddo fod yn ymwthiol.
Meddai Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Rheoli Llifogydd a Dŵr yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i reoli’r draethlin yn Ninas Dinlle mewn ffordd sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol lle bynnag y bo modd. Bydd addasu uchder y grwyn yn helpu i gefnogi symudiad naturiol graean, sy'n chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y glannau rhag erydiad.
“Rydym yn deall y gallai fod gan drigolion lleol gwestiynau, a hoffem sicrhau’r gymuned mai gwaith byrdymor yw hwn, sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, a bydd yn cael ei fonitro’n agos i sicrhau’r canlyniad amgylcheddol gorau.”