Cymunedau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd i lywio’r camau nesaf wrth lunio Coetir Coffa
Mae cymunedau yng nghyffiniau Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i lywio'r camau nesaf wrth lunio dyluniad y coetir coffa yn Brownhill.
Heddiw (23 Mehefin), mae CNC wedi lansio ail ymgynghoriad i geisio adborth pobl ar sut y byddant yn cyflawni'r amcanion arfaethedig ar gyfer y safle.
Mae'r cylch ymgynghori nesaf yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd o'r cylch cyntaf o ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 1 Mawrth a 26 Ebrill yn gynharach eleni.
Ar ôl gwrando ar yr ymatebion o'r cylch cyntaf o ymgynghori cyhoeddus, mae CNC wedi llunio cynnig ar gyfer y safle. Mae hyn yn cynnwys tair ardal wahanol a fydd yn blaenoriaethu gwahanol amcanion: ardal gadwraeth i fywyd gwyllt ffynnu, ardal goetir goffa sy'n gwbl hygyrch, ac ardal dyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer bwyd, coed a byd natur.
Bydd y coetir newydd yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru, a Choedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd trigolion hefyd yn cael cyfle i ymuno â staff o CNC mewn digwyddiad galw heibio ar 14 Gorffennaf yn neuadd bentref Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, i rannu eu hadborth.
Meddai Miriam Jones-Walters, Cynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
Roeddem yn falch o allu ymgysylltu â chymaint o drigolion drwy ein hymgynghoriad ar-lein cychwynnol a'n sesiwn galw heibio cymunedol yn Llangadog ym mis Mawrth yn gynharach eleni a chael cyfle i wrando ar farn a syniadau pobl ar y cynigion ar gyfer Brownhill.
Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi pob cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal hon rannu eu barn ar gynlluniau ar gyfer y safle hwn. Rydym eisoes wedi derbyn awgrymiadau gwych am yr hyn yr hoffai pobl ei weld ar y safle. O ganlyniad, rydym wedi gallu ei rannu'n dair prif ardal, gan nodi amcanion ar gyfer pob un.
Credwn fod hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn partneriaeth (gyda, er enghraifft, grŵp cymunedol, ffermwr ifanc neu rywun arall) i brofi a dangos cynigion o ran defnydd tir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, wedi'u hintegreiddio ag amaethyddiaeth gynhyrchiol.
Rydym yn awyddus i glywed adborth pobl ar yr amcanion a byddem yn annog pobl i ddod draw ar 14 Gorffennaf a siarad â ni neu gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein a dweud eu dweud.
Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 23 Mehefin ac yn cau ar 28 Gorffennaf.
Cynhelir y digwyddiad galw heibio cymunedol rhwng 12:00 a 7:00PM ar 14 Gorffennaf yn neuadd bentref Llansadwrn SA19 8HH yn Sir Gaerfyrddin.
I ddysgu mwy am gynlluniau ar gyfer y coetir a dweud eich dweud, ewch i:
Neu, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 i ofyn am gopi caled o’r ymgynghoriad.