Cymunedau’n cael eu gwahodd i ddeall rhywogaethau prin o siarcod yn well yng Nghymru
Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn rhoi cyfle i gymunedau gymryd rhan mewn diogelu rhai o rywogaethau morol mwyaf prin Cymru fel y maelgi, morgath ddu gyffredin, morgi glas a morgi.
Gall pobl o bob oed blymio i mewn i gadwraeth forol a dysgu am y siarcod, morgathod a’r morgathod du rhyfeddol sy’n byw yn nyfroedd arfordirol Cymru, mewn prosiect newydd sy’n rhoi cyfle i gymunedau lleol amrywiol fod yn rhan o ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru.
Wedi’i lansio heddiw (23 Chwefror 2022) gan Zoological Society London (ZSL) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae Prosiect SIARC yn ceisio cymorth pysgotwyr, plant ysgol, ymchwilwyr a gwyddonwyr sy’n ddinasyddion o bob rhan o Gymru i ddeall rhai o’r rhywogaethau arfordirol mwy anarferol yn well, megis y maelgi (Squatina squatina) a’r forgath ddu gyffredin (Dasyatis pastinaca), sydd wedi’u rhestru fel Mewn Perygl Difrifol a Bregus ar Restr Goch yr IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad yn y drefn honno.
Mae’r prosiect wedi derbyn grant o £390,000 gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru a ddarparwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â grant y Loteri Genedlaethol o £180,997 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a grant o £40,000 gan On the Edge.
Mae arfordir Cymru yn gartref i amrywiaeth o fywyd morol, gan gynnwys 26 rhywogaeth o siarcod, morgathod a morgathod du - grŵp a elwir yn elasmobranciaid. Mae elasmobranciaid yn rhan bwysig o dreftadaeth naturiol Cymru, o bwysigrwydd cadwraeth a diwylliannol sylweddol. Er gwaethaf hyn, ychydig sy’n hysbys am eu bioleg a'u hecoleg.
Er y bydd gwaith ymchwil ac ymgysylltu cymunedol yn canolbwyntio ar ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA): ‘Pen Llŷn a’r Sarnau’ a ‘Bae ac Aberoedd Caerfyrddin’, mae Prosiect SIARC yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein rhad ac am ddim, o ddysgu sut i adnabod plisgyn wy elasmobranciad, helpu i ganfod siarcod mewn fideos tanddwr, a chwilio archifau am wybodaeth hanesyddol. Hefyd, bydd Prosiect SIARC yn nodi cyfleoedd ac yn chwalu rhwystrau i sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl o gefndiroedd amrywiol yn gallu cyrchu a chymryd rhan mewn cadwraeth forol.
Bydd yr ymgysylltu hwn yn cael ei ategu gan ymchwil a arweinir gan wyddonwyr Prosiect SIARC yn yr ACA, sy'n cynnwys cymryd samplau dŵr i ganfod DNA elasmobranciaid, gosod camerâu tanddwr i asesu pa elasmobranciaid a chynefinoedd sy'n bresennol, a gweithio'n agos gyda physgotwyr i gasglu gwybodaeth am y rhywogaethau ffocal.
Dywedodd Joanna Barker, Uwch Reolwr Prosiect SIARC, ZSL:
“Rydym ni’n falch iawn o lansio Prosiect SIARC gyda’n sefydliadau partner i arddangos yr elasmobranciaid anhygoel a geir yng Nghymru. Mae Prosiect SIARC yn cyfuno’r gwyddorau biolegol a chymdeithasol i fynd i’r afael â bylchau data hanfodol ar gyfer elasmobranciaid yng Nghymru tra’n creu gwerthfawrogiad newydd o’r amgylchedd morol tanddwr.
“Ar hyn o bryd, ychydig o bobl yng Nghymru sy’n gallu gweld y rhywogaethau anhygoel hyn yn uniongyrchol, ond rydym ni’n gobeithio y bydd cyfleoedd gwyddoniaeth dinasyddion, y rhaglen ymgysylltu ag ysgolion ac allgymorth Prosiect SIARC yn dod â’r byd tanddwr at garreg eich drws ac yn galluogi amrywiaeth ehangach o bobl i gymryd rhan mewn cadwraeth forol yng Nghymru.”
Mae sawl sefydliad yn helpu i gyflwyno Prosiect SIARC, gan gynnwys Prifysgol Bangor, Blue Abacus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Prifysgol Abertawe a The Shark Trust. Fe’i cefnogir hefyd gan naw sefydliad ychwanegol sy’n eistedd ar Grŵp Llywio Prosiect SIARC.
Mae Prosiect SIARC yn ehangiad o Brosiect Maelgi: Cymru, a sefydlwyd yn 2018. Roedd data a gasglwyd fel rhan o Brosiect Maelgi: Cymru yn dangos pa mor bwysig yw arfordir Cymru i faelgwn ac fe’i defnyddiwyd i ddatblygu Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru.
Dywedodd Jake Davies, Cydlynydd Prosiect SIARC, CNC:
“Tyfodd Prosiect SIARC o fewnbwn a brwdfrydedd pobl dros Brosiect Maelgi: Cymru. Dechreuodd cymunedau rannu gwybodaeth gyffrous am bob math o siarcod, morgathod a morgathod du, a roddodd fewnwelediad newydd i ecoleg y rhywogaethau hyn nad ydynt wedi cael eu hastudio lawer. Roedd hynny’n golygu y gallem ni ddatblygu Prosiect SIARC – roedd eu mewnbwn yn anhygoel. Ar gyfer Prosiect SIARC, byddwn ni’n defnyddio technegau tebyg i ddeall sut mae’r maelgi, morgath ddu gyffredin, morgi a morgi glas yn defnyddio dyfroedd Cymru yn well a sut maen nhw’n rhyngweithio â chynefinoedd sy’n cael eu gwarchod gan ddwy o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mwyaf Cymru.”
Mae plant ysgol hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan. Bydd Prosiect SIARC yn cynyddu llwyddiant sesiynau “cwrdd â’r gwyddonydd” ar-lein Prosiect Maelgi: Cymru, i gyrraedd 30 o ysgolion ledled Cymru. Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gyda 10 ysgol o amgylch Bae Caerfyrddin i roi cynnig ar argraffu modelau siarc 3D, a fydd yn cael eu defnyddio i addysgu’r genhedlaeth nesaf am elasmobranciaid.
Dywedodd Mr Griffiths, Pennaeth Ysgol Gynradd Nantgaredig:
“Rydym ni’n gyffrous iawn i fod yn rhan o Brosiect SIARC, bydd yn hynod werthfawr i’n dosbarth blwyddyn 5 i ddysgu am siarcod, morgathod a morgathod du sy’n byw oddi ar ein traethau lleol. Rydym ni’n arbennig o awyddus ynglŷn â’r posibilrwydd o gyflwyno technolegau digidol diwydiannol, fel argraffu 3D, fel adnodd i atgyfnerthu addysgu cynaliadwyedd, bioamrywiaeth a chelf.
Bydd yn galluogi’r plant i wir gysylltu â’r amgylchedd o’u cwmpas a deall faint rydym ni i gyd yn dibynnu ar y byd naturiol.”
Ychwanegodd Ben Wray, Rheolwr Prosiect SIARC CNC ac Ecolegydd Morol:
“Mae Prosiect SIARC, sy’n cael ei arwain ar y cyd gan ZSL a CNC, yn rhan o ddull integredig ehangach yng Nghymru sy’n cael ei ysgogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd. Mae hyn yn cydnabod bod ecosystemau gwydn yn sylfaenol i lesiant pobl Cymru. Drwy ailgysylltu pobl â byd natur, gallwn gefnogi gwelliannau mewn iechyd meddwl a llesiant yn ogystal ag annog gwell stiwardiaeth o’n moroedd a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae hefyd yn tynnu sylw at y rhyng-gysylltiadau rhwng materion amgylcheddol byd-eang, fel yr argyfyngau hinsawdd a natur.”
Gall unrhyw un sy’n byw neu’n preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd fod yn rhan o Brosiect SIARC drwy fynd i www.prosiectsiarc.com neu ddilyn y gwaith ar Facebook, Instagram neu Twitter.