Angen gweithredu cymunedol i amddiffyn Nant Henllan rhag llygredd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar gymuned Dinbych i helpu i fynd i'r afael â llygredd sy'n effeithio ar Nant Henllan.

Mae swyddogion CNC wedi bod yn gweithio'n agos â phartneriaid yn Dŵr Cymru a Chyngor Sir Dinbych i olrhain ffynonellau llygredd yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys samplu rhannau o'r cwrs dŵr, cynnal teithiau cerdded ar hyd yr afon, ac ymchwilio i systemau draenio.

Mae ymchwiliadau diweddar wedi datgelu bod camgysylltiadau o eiddo yn yr ardal yn cyfrannu at lygredd yn y nant. Mae'r problemau hyn, ynghyd â llygredd trefol a gwledig, wedi arwain at ansawdd dŵr gwael trwy gyflwyno maetholion, gwaddod a gwastraff anifeiliaid i'r nant.

Mae angen cymorth trigolion nawr i atal niwed pellach i'r amgylchedd lleol ac i fywyd gwyllt. Mae camgysylltiadau yn aml yn digwydd pan fydd pibellau dŵr gwastraff wedi'u cysylltu'n anghywir â draeniau dŵr wyneb, sy’n caniatáu i lygryddion fynd i mewn i nentydd ac afonydd. Gall y rhain ddod o ystafelloedd ymolchi, ceginau neu offer cartref.

Mae Nant Henllan wedi dioddef sawl digwyddiad yn ystod 2025, gan gynnwys afliwiad gweladwy a dŵr sy'n edrych yn gymylog. Er bod rhai problemau blaenorol, fel ewyn sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu lleol, wedi dod i ben erbyn hyn, mae'r nant yn parhau i fethu â chyrraedd safonau ansawdd dŵr.

Bydd samplu pellach yn digwydd yn fuan i fonitro newidiadau o dan wahanol amodau tywydd. Mae arolygon gan Dŵr Cymru eisoes wedi nodi problemau, gan gynnwys pibell ddŵr budr yn gollwng i mewn i ddraen dŵr wyneb o ganolfan gymunedol leol, a thoiled o eiddo domestig wedi'i gysylltu'n anghywir â'r bibell dŵr wyneb.

Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:

“Mae Nant Henllan yn rhan bwysig o’r amgylchedd lleol, ac mae angen cymorth pawb arnom i’w diogelu. Gall camgysylltiadau gael effaith ddifrifol ar ansawdd dŵr a bywyd gwyllt.
“Gwiriwch gysylltiad eich eiddo ac os byddwch yn sylwi ar lygredd yn y nant, gadewch i CNC wybod ar unwaith cyn postio’r wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae adroddiadau amserol yn ein helpu i ymateb yn gyflym ac olrhain ffynonellau cyn i dystiolaeth ddiflannu.
"Os oes angen i chi roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol neu lygredd, cysylltwch â'n canolfan ddigwyddiadau 24/7 drwy ein ffurflen adrodd ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â ni 24/7 ar 0300 065 3000."

Martin Williams, Rheolwr Carthffosiaeth Dŵr Cymru:

“Mae ymchwiliadau cydweithredol fel hyn yn hanfodol ar gyfer amddiffyn a gwella ein hamgylchedd lleol. Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at y cynnydd a wnaed ar yr afon hon hyd yma. Mae gwaith i'w wneud o hyd, ac mae'n hanfodol bod dŵr gwastraff wedi'i gysylltu'n gywir â'r system garthffosiaeth—ac nad yw’n llifo i ddraeniau dŵr wyneb. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i wirio'ch eiddo am gamgysylltiadau yma, a dysgu mwy drwy chwilio am 'ConnectRight'."

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Dinbych:

“Mae Cyngor Sir Dinbych yn cefnogi CNC a Dŵr Cymru yn yr ymchwiliad hwn ac rydym hefyd yn annog trigolion i wirio eu cysylltiadau draenio a phan ganfyddir camgysylltiad eu bod yn cymryd camau unioni i atal niwed pellach i’r amgylchedd lleol ac i fywyd gwyllt.”