Gwahodd cymuned i rannu barn ar gynllun coetir newydd ar Ynys Môn
Gwahoddir aelodau o'r gymuned o amgylch Tyn y Mynydd ar Ynys Môn i ymuno â staff o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn digwyddiad i rannu syniadau ar greu a chynllunio coetir newydd yn yr ardal (30 Mehefin).
Prynwyd y tir gan CNC ym mis Chwefror eleni fel rhan o brosiect ehangach i gynyddu nifer y coed sy’n rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae'r digwyddiad galw heibio, a gynhelir yn Neuadd Gymunedol Canolfan Esceifiog ar 30 Mehefin, yn rhan o ymgynghoriad ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ceisio adborth gan gymunedau lleol ar y cynlluniau ar gyfer y coetir, a hynny’n dilyn yr ymgynghoriad ar-lein a lansiwyd y mis diwethaf.
Bydd staff ar gael i siarad â thrigolion am y cynlluniau ar gyfer y coetir a sut y gallant fod yn rhan o'r gwaith o’i siapio a’i reoli at y dyfodol.
Bydd y coetir newydd yn rhan o fenter plannu coed Canopi Gwyrdd y Frenhines - disgwylir i'r gwaith plannu ddechrau yn yr hydref eleni.
Dywedodd Miriam Jones-Walters, Cynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae rhoi llwyfan i gymunedau lleol fynegi a rhannu barn gyda ni yn rhan bwysig iawn o'r broses ddylunio a chynllunio. Rydym am annog pobl sy'n byw yn yr ardal i ddod draw ar 30 Mehefin i siarad â ni neu gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein a dweud eu dweud.
Rydym am ymgysylltu â'n cymdogion, cymunedau lleol a'n partneriaid i gynllunio a dylunio'r coetir, gan ei wneud yn lle diogel a hygyrch y bydd trigolion lleol ac ymwelwyr yn gallu ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.
Dim ond dechrau ein hymgynghoriad yw hyn - bydd cyfleoedd eraill dros yr haf i helpu i gynllunio hyn.
Cynhelir y digwyddiad galw heibio ddydd Iau 30 Mehefin yn Neuadd Gymunedol Canolfan Esceifiog, rhwng 12:00 -7:00pm.
I gael gwybod mwy am y cynlluniau ar gyfer y coetir ac i dweud eich dweud, ewch i:
Daw'r ymgynghoriad ar-lein i ben ar 21 Mehefin.
Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 i ofyn am gopi caled o'r ymgynghoriad.