Dirwy i gwmni am waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar dir comin
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llwyddo i erlyn cwmni Bob Gay Plant Hire Ltd am waredu pridd a gwastraff adeiladu mewn modd anghyfreithlon ar dir comin ger Senghennydd, Caerffili.
Clywodd Llys Ynadon Cwmbrân fod 2900 tunnell o’r gwastraff wedi cael ei waredu rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 heb y trwyddedau na’r esemptiadau gofynnol.
Cafodd y gwastraff olaf ei waredu ar ôl i CNC orchymyn y cwmni i beidio â gwaredu mwy o wastraff yn dilyn ei ymchwiliad cychwynnol, ac roedd y barnwr rhanbarth yn ystyried hynny’n fwriadol.
Cafodd y cwmni gyfarwyddyd i waredu’r gwastraff ar Gomin Eglwysilan gan Terry Jones o Fferm Pen-yr-Heol Las.
Roedd Terry Jones wedi cofrestru esemptiad gwastraff ar ei fferm i ddefnyddio gwastraff at ddibenion adeiladu. Ond nid oedd yr esemptiad yn cynnwys y tir comin cyfagos, ac roedd y cyfanswm yn llawer mwy na’r 1000 tunnell o wastraff o’r math hwn a ganiatawyd ar gyfer ei storio a’i ddefnyddio.
Yn ystod y gwrandawiad ar 16 Mawrth 2022, rhoddodd y barnwr rhanbarthol ddirwy o gyfanswm o £7,320 i’r cwmni, ac maent wedi cael gorchymyn i dalu costau o £5,197 i CNC ynghyd â gordal dioddefwyr o £170.
Dywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau yn CNC:
Gall troseddau gwastraff effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd, iechyd pobl a’u cymunedau lleol.
Byddwn yn erlyn y rhai sy’n ceisio gwneud elw drwy dorri’r gyfraith a’r rhai sy’n gweithredu mewn modd sy’n tanseilio busnesau cyfreithlon sy’n gweithio o fewn y diwydiant gwastraff.
Gobeithiwn y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir y byddwn bob amser yn cymryd camau gweithredu priodol i ddiogelu pobl a natur gan hefyd ddiogelu’r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.