Cwmni wedi’i erlyn ar ôl tân difrifol mewn safle ailgylchu
Mae S L Recycling Limited, cwmni ailgylchu metel a gwastraff sydd wedi’i leoli yn ne Cymru, wedi cael dirwy o £64,000.00 am droseddau amgylcheddol, ar ôl i dân sylweddol gychwyn mewn safle ailgylchu ar ystâd ddiwydiannol Penallta yn Ystrad Mynach yn Sir Gaerffili ym mis Medi 2021.
Ymddangosodd y cwmni yn Llys y Goron Casnewydd i gael ei ddedfrydu y bore yma – ddydd Iau 26 Mehefin, ar ôl pledio’n euog i dri chyhuddiad ar wahân yn flaenorol, mewn achos a ddygwyd gerbron y llys gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Roedd y cyhuddiadau yn erbyn SL Recycling Limited yn ymwneud â’r canlynol:
- Methiant i reoli a gweithredu’r gweithgareddau yn unol â’i gynllun atal tân ysgrifenedig gan iddo fethu â sicrhau bod pentyrrau gwastraff wedi’u gwahanu’n ddigonol, nad oeddent yn ormodol o ran cyfaint, a’u bod yn is na phedwar metr o uchder.
- Methiant i reoli a gweithredu’r gweithgareddau yn unol â’i gynllun atal tân ysgrifenedig gan iddo fethu â sicrhau bod ardal cwarantin tân ar gael a allai ddal 50% o gyfaint y pentwr mwyaf a bod chwe metr yn ei wahanu oddi wrth unrhyw wastraff arall.
- Methiant i sicrhau bod gweithrediadau’n cael eu cynnal yn unol â’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ysgrifenedig gan iddo fethu â rheoli a gweithredu’r gweithgareddau mewn ffordd a oedd yn nodi ac yn lleihau unrhyw risg o lygredd.
Mae’r rhain yn droseddau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Ar 1 Medi 2021, cychwynnodd tân ar raddfa fawr ar safle S L Recycling yn Ystrad Mynach yn Sir Gaerffili, ar ôl i fatri ïon lithiwm ffrwydro pan gafodd ffrâm cerbyd ei falu.
Lledaenodd y tân i’r pentwr cynradd o fetel sgrap a oedd wedi’i storio mewn man canolog ar yr iard, gan arwain at dân mewn oddeutu 150 tunnell o ddeunydd ailgylchu gan gynnwys plastig, ewyn, eitemau trydanol, batris plwm, a silindrau nwy, ochr yn ochr â pheiriannau.
Aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i’r safle i ddiffodd y tân, a chymerodd tan brynhawn 2 Medi i’w reoli.
Clywodd y llys fod y pentwr o wastraff ar y safle yn ormodol o fawr o ran cyfaint, yn fwy na’r uchder storio uchaf o bedwar metr a nodir yn y Cynllun Atal a Lliniaru Tân, a’i fod yn torri amodau’r drwydded amgylcheddol.
Roedd pryderon ynghylch uchder y pentwr o wastraff wedi cael eu codi’n flaenorol gan swyddogion CNC yn ystod ymweliad â’r safle ar 4 Chwefror 2021. Dywedwyd wrth Mr Lewis, unig Gyfarwyddwr SL Recycling Limited, fod angen lleihau uchder y pentwr cynradd i bedwar metr.
Roedd uchder y pentwr o wastraff yn ei gwneud yn anodd i ddiffoddwyr tân ddiffodd a gwahanu’r ardaloedd risg uchel o fewn y pentwr o wastraff mewn ffordd ddiogel.
Roedd y Cynllun Atal a Lliniaru Tân hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr gael ardal cwarantin ddynodedig ar y safle, y gellir ei defnyddio fel lleoliad dynodedig i osod y gwastraff yr effeithir arno pe bai tân yn cychwyn er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddiffodd yn llwyr.
Dylai’r ardal cwarantin fod yn ddigon mawr i ddal o leiaf 50% o gyfaint y pentwr mwyaf. Ar safle Penallta, canfuwyd nad oedd yr ardal yn ddigonol i ymdrin â’r digwyddiad yn effeithiol o ystyried cyfaint a maint y pentwr o wastraff.
Oherwydd cyfaint y dŵr oedd ei angen i reoli a diffodd y tân, cafodd rhyng-gipiwr system ddraenio’r safle ei orlethu. Gwnaeth hyn arwain at ddŵr halogedig yn llifo oddi ar y safle, gan achosi i symiau mawr o olew gwastraff olchi i’r cyrsiau dŵr lleol.
Cafodd y llygredd effaith sylweddol ar Gydlifiad Nant Cylla ac Afon Rhymni ac roedd effeithiau’n cael eu gweld dros 2.3km o’r safle.
Roedd y rhain yn cynnwys arogleuon cryf o olew a thanwydd, presenoldeb ewyn, lefelau uchel o solidau crog yn y cyrsiau dŵr cyfagos a staenio glan yr afon.
Canfu arolwg samplu biolegol a physgodfeydd llawn a gynhaliwyd gan swyddogion o CNC gyfanswm o 175 o bysgod marw dros 2.3 km o gwrs dŵr, gan gynnwys brithyllod a phennau lletwad.
Yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach heddiw (dydd Iau 26 Mehefin) cafodd S L Recycling Limited ddirwy o £64,000 ar gyfer Cyhuddiad 1, heb gosb ar wahân ar gyfer Cyhuddiadau 2 a 3. Cawsant hefyd orchymyn i dalu £30,000 mewn costau a gordal dioddefwr o £190.
Dywedodd David Griffiths, Arweinydd Tîm Diwydiant a Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith am reswm.
Mae methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol trwydded amgylcheddol yn drosedd ddifrifol a all niweidio’r amgylchedd, tanseilio’r rhai sy’n cadw at y rheolau, ac achosi dioddefaint i gymunedau lleol.
Mae’r achos hwn yn dangos beth all ddigwydd pan nad yw gweithredwyr yn cadw at amodau eu trwyddedau. Gwnaeth y tân gychwyn am fod y cwmni wedi diystyru ein rhybuddion ynghylch uchder y pentwr, a arweiniodd yn y pen draw at effeithiau amgylcheddol sylweddol.
Rydym yn croesawu’r ddedfryd a roddwyd heddiw ac yn gobeithio y bydd yn atgoffa gweithredwyr gwastraff yn gryf na fydd diystyru rheoliadau amgylcheddol yn cael ei oddef.
Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad