Ymgynghoriad fel rhan o waith rheoli perygl llifogydd ym Mhorthmadog
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal dau ddigwyddiad ymgynghori gydag aelodau’r cyhoedd i rannu canfyddiadau model llifogydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer Porthmadog a’r cyffiniau.
Mae hyn yn rhan o waith CNC i leihau perygl llifogydd yn yr ardal a bydd y digwyddiadau, a gynhelir yng Nghanolfan Gymdeithasol Porthmadog ddydd Iau 26 Ionawr a dydd Gwener 27 Ionawr, yn rhoi cyfle i egluro’r canfyddiadau a’r atebion sy’n cael eu hystyried o ran rheoli perygl llifogydd.
Mae'r model llifogydd sydd wedi’i ddiweddaru’n dangos bod nifer sylweddol o gartrefi a busnesau yn wynebu perygl llifogydd o Afon Glaslyn, o’r Cyt ac o'r môr, gyda hyd at 345 eiddo preswyl a 105 eiddo masnachol mewn perygl o ddioddef llifogydd sydd â siawns o 1% o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae’r ffigurau hyn yn ystyried effaith yr amddiffynfeydd sydd eisoes yn bodoli.
Yn y dyfodol, mae disgwyl gweld cynnydd pellach yn nifer yr eiddo a fydd, o bosib, yn wynebu’r risg o lifogydd oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.
Meddai Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau - Rheoli Llifogydd a Dŵr, Gogledd Cymru:
"Rydym yn gwybod y bydd canfyddiadau’r model yn destun pryder i aelodau'r gymuned ym Mhorthmadog a Thremadog, ond rydym yn archwilio atebion cynaliadwy nawr er mwyn rheoli’r perygl o lifogydd cystal ag y gallwn yn y tymor hir.
"Drwy weithio gyda'r gymuned a chyda'n partneriaid, byddwn yn asesu opsiynau i reoli'r bygythiad hwn a gweithio tuag at ganfod opsiwn sy’n cael ei ffafrio cyn diwedd 2023.
"Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus, yn darparu pwyntiau cyswllt lleol, ac yn creu gofod rhithwir i ganiatáu i'r gymuned barhau i rannu ei barn a’i syniadau gyda ni."
Mae mwy na 2,400 o gylchlythyrau’n cael eu hanfon i gartrefi a busnesau yn yr ardal fel rhan o’r ymgynghoriad.
Dewch i’n gweld ni yn y cyntaf o’r digwyddiadau ymgynghori:
Y Ganolfan, y Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9LU ddydd Iau, Ionawr 26 rhwng 1:30pm a 6:30pm a dydd Gwener, Ionawr 27 rhwng 9:30am a 2:00pm.
Bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i ateb eich cwestiynau a thrafod canfyddiadau’r model llifogydd a sut y gallai hyn effeithio arnoch chi. Rydym hefyd eisiau clywed eich barn ar opsiynau posib ar gyfer rheoli perygl llifogydd a sut y caiff y rhain eu hasesu.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Iau 26 Ionawr a dydd Llun 20 Chwefror 2023. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiadau ac i gysylltu â thîm y prosiect, ewch yma