Rhaid i COP27 sbarduno ymagwedd ‘Tîm Cymru’ at daclo newid yn yr hinsawdd
Rhaid i COP27 fod yn gatalydd i sbarduno’r ymagwedd Tîm Cymru sydd ei angen i gyflawni ar gyfer pobl ac ar gyfer natur yn y degawd tyngedfennol hwn i'r blaned.
Dyma alwad Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Clare Pillman heddiw wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn yr Aifft i gytuno ar y camau gweithredu brys sydd eu hangen i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Yn COP26 yn Glasgow y llynedd, cytunwyd ar y rôl bwysig sydd gan natur i'w chwarae o ran helpu i weithredu ar ran yr hinsawdd a bod manteisio ar hynny'n hanfodol i'n hiechyd, ein lles ac economi gynaliadwy yn y dyfodol.
Er i heriau dybryd eraill ledled y byd dynnu’r sylw a’r momentwm i ffwrdd o'r addewidion a wnaed 12 mis yn ôl, mae CNC yn gobeithio y gall COP27 ysgogi'r trafodaethau pwysig sydd eu hangen ynghylch sut y gall pawb yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i lunio dyfodol cadarnhaol o ran yr hinsawdd a natur.
Meddai Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman:
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i arweinwyr y byd ymgynnull yn Glasgow i drafod gweithredu uchelgeisiol ar newid hinsawdd. Yn y cyfnod hwnnw, mae'r byd wedi newid yn sylweddol, ac mae'n ddealladwy nad yw'r hinsawdd bellach ar y tudalennau blaen fel yr oedd cyn ac yn ystod COP26.
Ac eto, a ninnau yng nghanol un o gyfnodau mwyaf heriol ein hoes, mae tywydd poeth eithriadol yr haf a stormydd a llifogydd eithafol wedi parhau i’n hatgoffa o ddifrifoldeb yr her o fynd i’r afael â’r hinsawdd.
Mae corff y Cenhedloedd Unedig ar wyddor yr hinsawdd, yr IPCC, wedi cyhoeddi adroddiadau pwysig sy'n pwysleisio bod newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, gan effeithio ar fywydau pobl a dinistrio ecosystemau yn llwyr. Daw i'r casgliad pendant mai nawr yw’r amser i gymryd camau cyflym a pharhaus.
Ond er mai prin yw’r amser sydd gennym i weithredu, rydyn ni'n gwybod y gall newid go iawn ddigwydd pan fydd llywodraethau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion yn cydweithio.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw am ymagwedd Tîm Cymru tuag at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Yn COP27, a dros y degawd tyngedfennol hwn, mae’n hollbwysig ein bod yn troi ymrwymiadau hinsawdd ar gyfer Cymru yn gamau gweithredu i sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb i ddiogelu'r blaned nawr fel y gall pawb a phopeth ffynnu yn y dyfodol.
Mae CNC eisoes yn cymryd camau i gynyddu ei ymdrechion ei hun i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur drwy wneud mwy o le ar gyfer byd natur ac annog adferiad bioamrywiaeth ar y tir ac ar y môr, a hynny i gyd gan sicrhau buddion o ran iechyd a lles i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd CNC yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn cefnogi dull Tîm Cymru yn y ffyrdd canlynol:
• Rhoi'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd ein gwaith yn ein Cynllun Corfforaethol newydd tan 2030.
• Cefnogi gweithlu sy’n deall yr hinsawdd, sydd â’r wybodaeth i lywio'r penderfyniadau a wnawn ar gyfer yr amgylchedd trwy ddarparu rhaglen hyfforddi wedi'i theilwra ar newid hinsawdd ar gyfer ein gweithwyr.
• Cyhoeddi ein Cynllun Sero Net ym mis Mawrth 2023 sy'n adeiladu ar waith sy'n bodoli eisoes ac yn nodi ein dull o leihau ein hallyriadau ein hunain yn y dyfodol drwy newid y ffordd rydym yn teithio, caffael nwyddau a gwasanaethau a rheoli ein hadeiladau.
• Lleihau allyriadau drwy ddal a storio mwy o garbon yn y tir yr ydym ni ac eraill yn ei reoli yng Nghymru drwy adfer mawndir fel rhan o'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
• Gweithio gyda phartneriaid i feithrin ac ehangu canopi gwyrdd Cymru drwy gefnogi prosiectau creu coetir ledled y wlad.
• Addasu ein blaenoriaethau yn unol â risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd drwy newid dulliau rheoli tir ar Ystad CNC i leihau'r risgiau o danau, llifogydd, rhywogaethau goresgynnol a chlefydau.
Ychwanegodd Clare Pillman:
Fel y rhai sy’n gyfrifol am warchod amgylchedd naturiol Cymru, rydyn ni'n gwybod bod angen i ni osod esiampl i eraill a dyna pam rydyn ni'n rhoi'r hinsawdd a byd natur wrth wraidd popeth a wnawn.
Ond rydym hefyd am ddefnyddio ein hangerdd ein hunain am newid i ysbrydoli a thanio brwdfrydedd eraill. Dim ond pan fyddwn yn cyfuno gweithredoedd unigol â chamau pendant ar y cyd y gallwn ni wneud y naid fwyaf at greu'r math o lefydd a'r math o wlad fydd eu hangen arnom i ymdopi â heriau mwyaf ein hoes.
Er bod pethau’n ymddangos yn llwm, rydym yn gweld yr argyfwng hinsawdd yn gyfle, nid dim ond risg. Cyfle i wneud pethau'n well, i adeiladu llefydd gwell i bobl a bywyd gwyllt a chreu Cymru decach nawr ac yn y dyfodol.