Deorfa Cynrig yn ennill gwobr fawreddog

Mae gwaith un o dimau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wrth wraidd y gwaith o adfer rhywogaethau yng Nghymru wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau blynyddol Dewi Sant.

Mae Dr John Taylor, Oliver Brown, Richard Davies, a Haydn Probert yn rheoli Deorfa Cynrig, ger Aberhonddu, lle maen nhw'n magu ac yn adfer rhai o rywogaethau’r DU sydd dan y bygythiad mwyaf, gan gynnwys llygod pengrwn y dŵr, cimychiaid afon crafanc wen, misglod perlog, a thorgoch yr Arctig.

Fe wnaethon nhw ennill categori Pencampwr yr Amgylchedd, a ddyfernir i berson neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at wella eu hamgylchedd, naill ai'n lleol, ledled Cymru neu'n rhyngwladol.

Disgrifiodd trefnwyr y Wobr waith tîm Cynrig fel a ganlyn:

“Mae eu gwaith yn gymysgedd o sgìl wyddonol, y gallu i addasu, a meddwl yn ddyfeisgar—bwydo a glanhau saith diwrnod yr wythnos, perffeithio dulliau magu, a datblygu atebion cynaliadwy fel tyfu llysiau hydroponig ar gyfer llygod pengrwn y dŵr.
“Yn sgil ymdrechion y tîm, mae dros 7,000 o gimychiaid wedi cael eu magu’n llwyddiannus, mae 10,000 o lygod pengrwn y dŵr wedi cael eu hailgyflwyno, mae treialon effaith amgylcheddol arloesol i olrhain eogiaid wedi’u cynnal, mae misglod perlog wedi’u hailgyflwyno yng Nghymru am y tro cyntaf ac mae poblogaeth brin o dorgoch yr Arctig a oedd yn wynebu difodiant wedi’i hadfer.
“Maen nhw bob amser yn wylaidd ac yn rhannu eu gwybodaeth yn eang, gan feithrin bywyd gwyllt a'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr trwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Mae ymrwymiad a dyfalbarhad tîm Deorfa Cynrig yn fodel o stiwardiaeth amgylcheddol, gan amddiffyn bioamrywiaeth a helpu i ddiogelu’r rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru.”

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru a chaiff yr enwebiadau eu gwneud gan y cyhoedd. Maent yn cynnwys meysydd mor amrywiol â Diwylliant, Arwyr Cymunedol, Busnes a Chwaraeon yn ogystal â llu o rai eraill.

Roedd tîm Cynrig mewn cwmni da, gan ymuno â’r canwr o fri Max Boyce a’r pêl-droediwr sydd â’r nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, Jess Fishlock, fel enillwyr 2026.

Dywedodd Oliver Brown, swyddog dyframaethu yng Nghynrig:

“Rydym wrth ein bodd bod y gwaith a wnawn yma yng Nghynrig ym maes stiwardiaeth amgylcheddol a diogelu bioamrywiaeth wedi cael ei gydnabod.
“Wrth i bwysau ar ein hamgylchedd oherwydd newid hinsawdd a llygredd barhau i dyfu, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn amddiffyn y rhywogaethau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”