Posibilrwydd bod Pla Cimwch yr Afon yn lledaenu: CNC yn annog gwyliadwriaeth
Mae defnyddwyr afonydd yn nalgylch Gwy yn cael eu hannog i fod yn ofalus a dilyn y protocol 'Gwirio, Glan, Sych' ar ôl i adroddiadau awgrymu y gallai Pla Cimwch yr Afon fod yn lledaenu yn yr ardal.
Mae'r protocol yn hanfodol i atal lledaeniad Pla Cimwch yr Afon, a gadarnhawyd yn Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt ym mis Gorffennaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn pryderu y gallai'r clefyd fod yn ymestyn i ddyfrffyrdd eraill, ar ôl derbyn adroddiadau diweddar bod Cimychiaid yr Afon marw wedi’u gweld yn yr Afon Ennig - llednant arall o’r Afon Gwy. Fodd bynnag, roedd y samplau'n rhy ddadelfennol i gadarnhau presenoldeb y pla.
Mae Pla Cimwch yr Afon yn fygythiad difrifol i'r Cimwch yr Afon Crafanc Wen brodorol, rhywogaeth allweddol yn Afon Gwy sydd yn Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig. Mae'r cimwch yr afon hyn yn arwydd o afonydd glân, iach ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn yr ecosystem. Mae hyn yn golygu bod eu diogelu yn hanfodol i gynnal cydbwysedd ecolegol Afon Gwy.
Mae CNC yn annog holl ddefnyddwyr afonydd dalgylch Gwy i fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r pla, sydd fel arfer yn achosi marwolaeth sydyn o gimychiaid yr afon mewn ardaloedd yr effeithir arnynt.
Mae'r protocol 'Gwirio, Glanhau, Sychu' yn cynghori defnyddwyr afonydd i wirio eu dillad a'u hoffer ar gyfer mwd a malurion; glanhau popeth yn drylwyr; a sicrhau bod pob eitem yn hollol sych cyn mynd i mewn i ddyfrffordd arall. Gall y camau syml hyn leihau'r risg o ledaenu'r clefyd i ardaloedd eraill yn sylweddol.
Pwysleisiodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys CNC, bwysigrwydd o fod yn ofalus: "Mae lledaeniad posibl Pla Cimwch yr Afon yn peri pryder mawr, ac mae angen i ni weithredu nawr i atal lledaeniad. Rydym yn annog pobl i osgoi Afon Irfon yn llwyr a dilyn y protocol 'Gwirio, Glanhau, Sychu' os yn mynd i mewn i unrhyw afonydd eraill yn y dalgylch."
"Mae gan bawb ran i'w chwarae wrth amddiffyn bioamrywiaeth ein hafonydd. Trwy gymryd y rhagofalon hyn ac adrodd am unrhyw arwyddion o’r clefyd, gallwn helpu i ddiogelu dyfodol ein Cimwch yr Afon Crafanc Wen brodorol."
Mae'r Pla Cimwch yr Afon yn angheuol i gimychiaid afon frodorol ond nid yw’n cael effaith ar bobl, anifeiliaid anwes, da byw a bywyd gwyllt arall. Mae'n lledaenu'n hawdd trwy ychydig o gyswllt, sy'n golygu y gall hyd yn oed ci sy'n symud rhwng afonydd drosglwyddo'r clefyd, gan beryglu poblogaethau gimychiaid afon leol.
Mae CNC yn gofyn i'r cyhoedd adrodd unrhyw gimychiaid marw ar unwaith, gan fod ymateb yn gynnar yn hanfodol i reoli lledaeniad Pla Cimwch yr Afon.
I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol yng Nghymru, cysylltwch â llinell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.