Gallai cyfle datblygu nodi pennod newydd gyffrous i Rodfa Coedwig Cwm Carn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i gyflwyno cynigion i wella'r cynnig hamdden Rhodfa’r Goedwig a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Carn.
Mae yno rodfa olygfaol syfrdanol yn ogystal â chanolfan ymwelwyr, siop goffi, cyfleusterau gwersylla, mannau chwarae a chabanau gwyliau.
Yn dilyn cydweithrediad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, mae CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn bwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol i gynnig y safle ar y cyd i ddatblygwr masnachol, i weithredu, yn ogystal ag i ariannu, dylunio ac adeiladu cyfleusterau hamdden ychwanegol ar y safle, gan adeiladu ar y cynnig presennol. Mae'r cwmni cynghori byd-eang ym maes eiddo tirol, Avison Young, wedi'i benodi'n asiant i farchnata'r cyfle hwn.
Bydd y cydweithrediad yn ceisio adeiladu ar y cynigion a gyflwynwyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn 2022, fel rhan o’i gais am gronfa 'Ffyniant Bro' Llywodraeth y DU.
Mae Cwm Carn, sy’n gymysgedd o goetir hynafol a llydanddail, yn swatio’n naturiol o fewn Dyffryn Nant Carn, ac mae’n rhywle lle gallai unrhyw adeilad wedi’i gynllunio’n ofalus gael ei integreiddio mewn modd sensitif gan aflonyddu gyn lleied ag sydd bosib ar y pentref a'r dirwedd gyfagos.
Gwahoddir partïon sydd â diddordeb i gyflwyno cynigion i'w hystyried drwy borth GwerthwchiGymru erbyn 12pm 29 Awst 2025. GwerthwchiGymru Croeso i GwerthwchiGymru - Sell2Wales
Anogir ymgeiswyr i ddangos sut y bydd eu cynigion yn darparu manteision hirdymor i'r gymuned a'r amgylchedd, yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau’r De Ddwyrain ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i ni gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r sector preifat, i helpu i ddatblygu a gwella’r nodweddion hamdden cyfredol a chreu pennod nesaf Rhodfa Coedwig Cwm Carn.
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig a phoblogaidd yw Cwm Carn i ymwelwyr a’r gymuned leol, sydd wedi bod yn hanfodol wrth helpu i ddatblygu’r rhodfa i’r hyn a welwn heddiw.
Rydym yn awyddus i hynny barhau wrth i ni weithio gyda’n gilydd i lunio cynnig y rhodfa ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid posibl a chlywed eu syniadau ynglŷn â sut y gallant helpu ddatblygu’r rhodfa a byddem yn annog unrhyw bartïon sydd â diddordeb i gysylltu.
Meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Mae’r safle hwn yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous i greu cyrchfan ymwelwyr nodedig i Dde Cymru a fydd hefyd yn denu pobl o bob cwr o’r DU. O ystyried bod twristiaeth yn yr ardal eisoes yn cynhyrchu dros £134 miliwn y flwyddyn, mae'r safle hwn mewn safle perffaith ar gyfer twf.
Rydym eisiau parhau i drawsnewid Cwm Carn yn ganolfan hamdden o’r radd flaenaf, gan wella ei hapêl a hefyd sbarduno rhagor o fanteision economaidd i’r ardal. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phartneriaid i adeiladu cyrchfan sy'n cynnig profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf ac sy’n hybu twristiaeth ranbarthol a chenedlaethol.
Ychwanegodd Leo Llewellyn, Swyddog Cysylltiol – Hamdden yn Avison Young:
Dyma gyfle heb ei ail i sefydlu Rhodfa Coedwig Cwm Carn fel cyrchfan hamdden o’r radd flaenaf yn ne Cymru. Mae'r garreg filltir o wahodd partïon â diddordeb i gyflwyno cynigion yn un rydym wedi gweithio'n galed i’w chyrraedd, gan alinio gweledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru gydag uchelgeisiau'r sector preifat.
"Rydym yn chwilio am bartner i helpu i ddyrchafu'r ased cymunedol hanesyddol hwn, gan lywio ei ddyfodol fel cyrchfan fasnachol lwyddiannus ar gyfer hamdden a thwristiaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan GwerthwchiGymru.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Rodfa Coedwig Cwm Carn ewch i - https://www.cwmcarnforest.co.uk/en/