Ymateb gwych i lwybr lysywod newydd yn Wrecsam

Bydd llwybr sydd newydd ei greu yn rhoi hwb i lysywod a’u siawns o gyrraedd safleoedd chwilota hanesyddol ar Afon Alun yn Wrecsam.

Yn ddiweddar bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn goruchwylio gwaith i wella llwybr llysywod ar safle monitro hydrometrig pwysig ar Afon Alun yng nghored Pont y Capel.

Mae hyn yn cael gwared ar rwystr i ymfudiad a fydd yn helpu i gysylltu cynefinoedd yr afon a chaniatáu i lysywod symud i fyny'r afon. Mae hefyd yn mynd i'r afael â chydymffurfiaeth ddeddfwriaethol CNC â'r rheoliadau ar gyfer llysywod.

Cymerodd y gwaith tua wyth wythnos i’w gwblhau ac roedd yn cynnwys ôl-ffitio teils llysywod, yn gyfwyneb â strwythur presennol y gored a gosod system ddyfrio gyda phwmp a fydd yn sicrhau bod y teils hyn yn aros yn wlyb a’u bod ar gael i lysywod eu defnyddio.

Bydd grisiau sydd newydd eu gosod a chanllaw hefyd yn helpu i sicrhau y gall swyddogion CNC gael mynediad diogel a chynnal a chadw’r system hon yn y dyfodol.

Mae'r llysywen yn rhywogaeth a warchodir ac mae dan fygythiad difrifol. Mae Afon Alun yn un o lednentydd Afon Dyfrdwy. Mae'n codi ym mhen deheuol bryniau Clwyd ac mae Dyffryn Alun yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dywedodd Tim Owen, Arweinydd Tîm Hydrometreg a Thelemetreg CNC:

“Bydd y llwybr llysywod sydd newydd ei osod ym Mhont y Capel yn cael gwared ar y cyfyngiad presennol ar ymfudiad llysywod ac yn gwella cysylltedd ecolegol ehangach yn Afon Alun.
“Bydd y gwaith yn rhoi hwb i boblogaethau llysywod gan ei fod yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gyrraedd ardaloedd o Afon Alun lle maen nhw wedi chwilota yn hanesyddol.
“Mae’r gwaith hwn yn cwblhau prosiect llwyddiannus arall i osod llwybr llysywod ar gored Hydrometrig, sy’n ofynnol i fesur lefelau a llifoedd ar draws gogledd Cymru. Rydyn ni’n bwriadu gosod tri llwybr arall ar gyfer llysywod dros y ddwy flynedd nesaf o fewn dalgylchoedd eraill yn y gogledd.”