Camau gorfodi ar gyfer pysgota 'creulon' drwy gamfachu yn Llwchwr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymryd camau gorfodi yn erbyn 18 o bysgotwyr y canfuwyd eu bod yn defnyddio dull 'creulon' ac anghyfreithlon o ddal pysgod a elwir yn gamfachu yn Aber Llwchwr.
Mae swyddogion gorfodi pysgodfeydd CNC, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi bod yn cynnal patrolau yn yr ardal yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau am y dull pysgota anghyfreithlon, sy'n bachu pysgodyn yn ei gorff, yn hytrach na'i geg.
Ers mis Ebrill, deuwyd o hyd i nifer sylweddol o unigolion yn camfachu pysgod ac mae camau gorfodi'n cael eu cymryd yn eu herbyn ar hyn o bryd. Mae ymchwiliadau'n parhau, ond gallai'r canlyniadau gynnwys: cyngor ac arweiniad; llythyrau rhybuddio; dirwyon neu achosion llys.
Dywedodd Jonathan Jones, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, CNC:
"Mae camfachu pysgod yn anghyfreithlon. Mae'n ddull hynod ddinistriol a chreulon o bysgota sy'n ddigydwybod ac yn niweidiol i unrhyw bysgod sy’n cael eu dal.
"Rydym wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gamfachu yn Aber Llwchwr drwy linell gymorth digwyddiadau CNC, ac mae hyn yn rhywbeth na fyddwn yn ei oddef.
"Mae Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd wedi bod yn cynnal patrolau ychwanegol, gyda chymorth Heddlu Dyfed-Powys, mewn ymateb i'r adroddiadau ac mae gennym saith o bobl yn mynd drwy ymchwiliadau gorfodi ar hyn o bryd.
"Byddwn yn parhau â'n patrolau yn yr ardal i atal y gweithgaredd anghyfreithlon hwn."
I roi gwybod am achosion o ddulliau pysgota anghyfreithlon, fel camfachu, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 300 neu rhowch wybod ar-lein.