Ymgynghoriadau wedi agor ar newidiadau i drwyddedau amgylcheddol

Mae ymgynghoriadau wedi agor ar geisiadau am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer ehangu tair fferm ddofednod.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgynghori ar amrywiadau i drwyddedau ar Fferm Llanshay (Trefyclo), Fferm Neuadd Isaf (Llandrindod), a Fferm Rhosddu (Llansantffraid-ym-Mechain), o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Yn dilyn ein hasesiad o’r newidiadau arfaethedig i’r tair trwydded fferm, ac ar ôl cyfrif am yr holl ystyriaethau perthnasol a gofynion cyfreithiol, rydym yn bwriadu caniatáu’r newidiadau y gwnaed cais amdanynt.
Mae pob un o’r trwyddedau arfaethedig yn cynnwys amodau a chyfyngiadau i ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd ac i sicrhau bod gweithredwyr y safleoedd yn dilyn y technegau gorau sydd ar gael.
Cynhelir yr ymgynghoriadau rhwng dydd Iau 10 Gorffennaf a dydd Iau 14 Awst ac mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar safle ymgynghori CNC.
Meddai Nick Bettinson, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu CNC:
“Rydym yn deall ei bod yn debygol y bydd diddordeb gan y cyhoedd yn y ceisiadau hyn, felly rydym am roi cyfle i’r cyhoedd a phartïon sydd â diddordeb wneud sylwadau ar ein penderfyniadau drafft.
“Ar ôl asesu’r tri chais yn ofalus, rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiadau ac rydym bellach yn gwahodd trigolion lleol, grwpiau cymunedol, rhanddeiliaid a busnesau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau a dweud eu dweud.
“Rydym am gynnig sicrwydd i’r cyhoedd mai dim ond pan fo cynnig yn bodloni gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a lle bo gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded yr ydym yn caniatáu amrywiad i drwydded.”
Er mwyn gweithredu, mae angen i weithredwyr ffermydd dofednod sydd â mwy na 40,000 o adar gael trwydded gan CNC a chaniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol - ac mae’r broses ymgeisio ac o gymeradwyo’r ddau beth yn cael eu gwneud yn annibynnol ar ei gilydd.
Lle bo fferm ddofednod yn ddarostyngedig i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a chaniatâd cynllunio, cyfrifoldeb yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw ystyried goblygiadau rheoli tail oddi ar y safle.
Dim ond allyriadau o safleoedd trwyddedig y mae gan CNC y pŵer i’w rheoleiddio y gall y broses drwyddedu eu hystyried. Yn gyfreithiol ni all CNC ddefnyddio amodau trwydded i reoleiddio tail o safleoedd trwyddedig ar ôl iddo adael y ffin a amlinellir yn y drwydded.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am bob un o’r ymgynghoriadau drwy ymweld â:
Neu gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth oddi wrthon ni drwy anfon e-bost at permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk